ffotogallery
Rhwydwaith
Ni yw’r asiantaeth genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens yng Nghymru
1 – 31 Mai 2013
Ym mis Mai eleni, bydd Ffotogallery a’i bartneriaid yn cynnal Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd am y tro cyntaf – gŵyl mis o hyd yn cynnwys arddangosfeydd, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a llefydd go iawn a rhithwir ledled y ddinas.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Edgar Martins: The Time Machine
1 Mai – 7 Mehefin 2013
Yn 2010 a 2011 cafodd Martins fynediad unigryw i 20 o orsafoedd pŵer ledled Portiwgal. Mae The Time Machine yn cofnodi gwrthrychau a gofodau y mae eu dyluniad crand a blaengar yn tystio i gwmpas ac uchelgais y weledigaeth y tu ôl iddynt.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Dydd Sadwrn 25 a Dydd Sul 26 Mai 2013
Cynhelir pob digwyddiad yn Chapter
Mae’r digwyddiad penwythnos hwn, a drefnwyd trwy bartneriaeth rhwng Ffotogallery a Chapter, yn rhoi’r ffocws ar gyhoeddi, o weithgareddau hunan-gyhoeddi artistiaid i gwmnïau cyhoeddi sefydliedig, mwy, cylchgronau ac orielau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


