arddangosfeydd

Arturas Valiauga | IN TRUST – Ail-fframio straeon Cymru

7. Arturas Valiauga_Mr. Brian Forster_Tasting Day_Entrance to the Hall_Tredegar House_2014 copy

From IN TRUST – Reframing Wales’ Stories, 2014 © Arturas Valiauga

16 Ebrill – 29 Mai

Ym mis Gorffennaf 2014, aeth y ffotograffydd o Lithwania, Arturas Valiauga, i ymweld â phedwar o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn rhan o gyfnod preswyl ‘European Prospects’ gyda Ffotogallery. Yng Ngerddi Dyffryn, Tŷ Tredegar, Plas Newydd a Chastell Penrhyn, gwelodd agweddau preifat a chyhoeddus ar y lleoedd hanesyddol hyn – a’r gymuned o ddynion a menywod sy’n gofalu am y safleoedd heddiw. O ganlyniad i’r croeso a gafodd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, a chymorth staff a gwirfoddolwyr, cafodd Valiauga archwilio pob agwedd ar y tai hyn – y tu ôl i’r llenni ac ar ôl i’r drysau gau ar ddiwedd y dydd. Mae ei ddelweddau yn dal eiliadau ym mywydau’r lleoedd hyn, lleoedd sydd wedi goroesi y tu hwnt i’r rheiny a’u hadeiladodd. Mae ei ffotograffau barddonol a thawel yn dathlu ymroddiad y bobl sy’n ‘gwasanaethu’ yn y tai hyn ac yn rhoi cipolwg breintiedig i ni ar fyd arall.

Mae Arturas Valiauga (g. 1967) yn byw ac yn gweithio yn Vilnius, Lithwania. Mae ei waith yn ymwneud â hunaniaeth gymdeithasol a threigl amser. Graddiodd Valiauga o Goleg Technolegau a Dylunio Vilnius ac aeth yn ei flaen i ennill gradd Meistr mewn Ffotograffiaeth a Chelfyddydau Cyfryngol yn Academi Gelf Vilnius. Ers 1992, bu’n aelod o Undeb Ffotograffwyr Celfyddydol Lithwania ac, yn 2003, sefydlodd Fotoprojektai, y stiwdio gyntaf ar gyfer ffotograffiaeth hysbysebu yn Lithwania. Fe’i cynrychiolir gan Eglė Deltuvaitė o’r sefydliad Lithwanaidd, Culture Menu.

Hoffem ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru am eu cefnogaeth hael i’r prosiect hwn ac i Sefydliad Diwylliannol Lithwania a Llysgenhadaeth Gweriniaeth Lithwania, Llundain.

Digwyddiadau Cysylitiedig

Sgwrs & Rhagolwg o’r Arddangosfa / Gwener 15 Ebrill / 6pm / Am ddim

Dyddiau Mawrth Te a Chachen / Mawrth 19 Ebril / 11:00 – 16:00 / Am ddim – Galw heibio

 

 

 


← Back to exhibitions