Cenhadaeth Ffotogallery yw datblygu arfer, mwynhad a dealltwriaeth o ffotograffiaeth a chyfryngau seiliedig ar lens cyfoes, yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau. Ein nod yw cyfoethogi profiad ein cynulleidfa o ffotograffiaeth trwy raglenni artistig ac addysgol sydd yn wahanol, yn arloesol ac yn her.
Nodau ac Amcanion Ffotogallery dros gyfnod cynllun corfforaethol 2011-2015 yw:
- Darparu rhaglenni artistig newydd sydd yn heriol ac yn hygyrch, yn cynnwys y gwaith cyfoes rhyngwladol gorau mewn ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens
- Cefnogi datblygiad artistiaid a’r gelfyddyd yng Nghymru trwy gyfleoedd comisiynu ac arddangos newydd, cyrsiau a digwyddiadau, cyhoeddi, a gweithgareddau datblygiad proffesiynol
- Datblygu cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol trwy arddangos, teithio a dosbarthu gwaith, mewn gofodau go iawn a rhithwir
- Gweithio gyda phartneriaid yn y celfyddydau ac mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau bod gan artistiaid, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ymgysylltiad dwfn ac eang â gwaith ffotograffig, delweddau symudol a chyfryngau digidol cyfoes
I’r perwyl hwnnw, ein blaenoriaethau yw:
- Cwblhau gwaith ymarferoldeb a sicrhau adeilad newydd, integredig mewn lleoliad canolog a fydd yn galluogi Ffotogallery i gydgrynhoi gwahanol elfennau ei waith ac ehangu ei arlwy a’i gyrhaeddiad diwylliannol
- Cwblhau cyfres o brojectau rhwyngwladol ar y cyd â phartneriaid yn Korea, India, Portwgal, y Weriniaeth Siec, Lithwania a’r Almaen
- Sefydlu a chyd-drefnu Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd 2013, ar y cyd â sefydliadau ledled y ddinas, yng Nghymru ac yn rhyngwladol
- Datblygu adnodd ar-lein ar gyfer athrawon sy’n archwilio technoleg greadigol fel cyfrwng i allu mentro i feysydd addysg newydd, mewn partneriaeth â CBAC, asiantaeth cwricwlwm cenedlaethol Cymru
- Datblygu cwmpas a chyrhaeddiad rhaglen Ffotogallery o gyrsiau achrededig mewn ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau digidol