arddangosfeydd

Wish You Were Here

Yr haf yma, mae Ffotogallery yn troi’r spotolau ar waith newydd ffotograffig a chyfryngau’n seiliedig ar lens yng Nghymru. Mae Wish You Were Here yn gyfres eithriadol o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ein horiel yn Nhŷ Turner a mannau all-safle eraill, gyda’r nod o feithrin a rhoi sylw i artistiaid sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.

Mae’r tymor yn adlewyrchu diddordebau – cymdeithasol, cysyniadol a thechnegol – cenhedlaeth newydd o artistiaid ffototograffig. Boed drwy herio ystrydebau diwylliannol neu gynnig cipolwg ar fydoedd nas gwelwyd o’r blaen, mae’r artistiaid yn cynnig safbwyntiau newydd ar ffotograffiaeth tra’n archwilio posibiliadau mynegol y cyfrwng. Mae Wish You Were Here yn cyflwyno arddangosfeydd unigol allweddol gan Dawn Woolley, Rick Davies, Gawain Barnard a David Barnes, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â sioe grŵp wedi ei churadu’n arbennig, This Unfolds.

21 Gorffennaf – 6 Awst
Dawn Woolley: VISUAL PLEASURE

11 – 27 Awst
Rick Davies: INVISIBLE LANDSCAPES

18 Awst – 3 Medi
THIS UNFOLDS: Absalom & Bardsley, Ami Barnes, Amy Bullock, Paal Henrik Ekern, Ryan Moule, Sheree Murphy, Chiara Tocci

8 – 24 Medi
Gawain Barnard: MAYBE WE’LL BE SOLDIERS

15 Medi – 1 Hydref
David Barnes: KING TIDE

 


← Back to exhibitions