About Ffotogallery

Ers ei ffurfio yn 1978, bu Ffotogallery ar flaen y gad o ran datblygiadau ffotograffig a chyfryngau'r lens gan geisio hybu dealltwriaeth gyhoeddus ac ymwneud dyfnach â ffotograffiaeth a'i werth cymdeithasol.

Mae Ffotogallery yn gwmni di-elw wedi ei gyfyngu trwy warant, ac yn elusen gofrestredig sy’n derbyn cyllid blynyddol gan Gyngor y Celfyddydau.

Rhestriad y Comisiwn Elusennau, yn cynnwys adroddiadau blynyddol.

Cwmni Cofrestredig rhif: 01705938

Elusen Gofrestredig rhif: 513726

Bwrdd

Mae Ffotogallery yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd! Rydym yn chwilio am bobl a fydd yn gallu cyfrannu eu sgiliau unigryw, angerdd a’u profiadau i fywyd a gwaith un o sefydliadau celfyddydau gweledol blaenllaw Cymru; a thrwy hynny, ein helpu i ehangu amrywiaeth y safbwyntiau a chyngor sydd ar gael i’r sefydliad.