Sianel / 26 Ebr 2021

Newyddlen mis Ebrill

© Mary Farmilant

Ffotograffiaeth a Lles

Mae amser ar ôl i chi gofrestru ar ein digwyddiad ar-lein sy’n digwydd cyn hir - Ffotograffiaeth a Lles, a fydd yn cynnwys cyflwyniadau gan yr artist o Chicago, Mary Farmilan a’r artist o Gaerdydd, Suzie Larke. Mae rhagor o fanylion am y digwyddiad isod.

Os golloch chi ein sesiwn flaenorol fis diwethaf, Ffotograffiaeth ac A Woman’s Work, gallwch wylio honno ar-lein yma.

Mwy o wybodaeth

Rydym yn Penodi: Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu

Rydyn ni'n chwilio am Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu ar gyfer ein tîm uchelgeisiol a dynamig ar adeg arbennig o gyffrous: eleni rydym yn lansio tymor o weithgareddau ymgysylltu ac arddangosfeydd o ddiwylliannau amrywiol yn ein canolfan newydd yng Nghaerdydd ac ar-lein gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau gwahanol. Byddwn yn cymryd arddangosfeydd Ffotogallery ar daith, yn creu cynnwys ar-lein ac, yn Hydref 2021, byddwn yn darparu’r pumed Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, sy’n digwydd bob yn ail flwyddyn.

Dyddiad cloi: 5pm Ddydd Gwener 7 Mai 2021.

Mwy o wybodaeth

Where’s my space? – Ffotogallery a PAWA254

Mae Where’s My Space? yn brosiect digidol cydweithredol sydd wedi dod â dau sefydliad at ei gilydd o Kenya a Chymru, PAWA254 a Ffotogallery Cymru, i greu lle ymgynnull rhithwir, neu ‘Base Noma’ (i ddefnyddio ymadrodd o Kenya) lle mae pobl ifanc greadigol o wledydd partner yn gallu dod at ei gilydd, i ddangos ac esbonio, i arddangos eu gwaith i gynulleidfaoedd ar-lein ac i rannu eu syniadau a’u profiadau byw. Mae’r prosiect yn gyfle i ddau sefydliad diwylliannol dynamig gyd-ddylunio a datblygu lle unigryw ar-lein ar gyfer dweud straeon gweledol, gan weithio gydag artistiaid gweledol, cerddorion, beirdd ac adroddwyr straeon sy’n dod i’r amlwg yn Kenya a Chymru, yn dîm creadigol.

Roedd y prosiect hwn yn bosibl diolch i Grant Go Digital Affrica Is-Sahara – Cymru a ddyfarnwyd gan British Council Cymru.

Mwy o wybodaeth

Llyfr y mis – Daniel Meadows: Edited Photographs from the 70s and 80s

Mae’r llyfr hwn yn rhoi golwg ddeallus i ni ar ddiwylliant a ffasiynau’r oes, ac mae’n taflu golau ar gyfnod rhyfeddol mewn ffotograffiaeth Brydeinig pan oedd popeth yn ymddangos mor newydd, a gwych o bosibl. Mae’r awdur a’r curadur, Val Williams, wedi ysgrifennu testun cyfareddol sy’n rhoi gwaith Meadows yng nghyd-destun y diwylliant ar y pryd.

Cafodd Daniel Meadows: Edited Photographs from the 70s and 80s ei gyhoeddi i gyd-fynd ag arddangosfa Daniel Meadows: Early Photographic Work, a guradwyd gan Val Williams a’i ddangos yn yr Amgueddfa Cyfryngau Cenedlaethol yn 2011/12, ac a ddaeth ar daith yn ddiweddarach i Ffotogallery.

Am fod y stoc sydd ar gael yn gyfyngedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynnu copi yma.

Efallai hefyd bod gennych ddiddordeb yn y rhain:

Mike Perry – Land/Sea

Mae arddangosfa deithiol Ffotogallery: Land/Sea gan Mike Perry yn agor yn Oriel Thelma Hulbert yn Honiton, Dyfnaint o 20 Mai. Mae’r arddangosfa’n dod â dau o brosiectau diweddar Perry at ei gilydd, Wet Deserts a Môr Plastig.

Mwy o wybodaeth

Ode to Anna

Mae aelodau Cydweithfa Phrame yn arddangos gwaith yn ‘Ode to Anna’, sef arddangosfa newydd a ysbrydolwyd gan Anna Atkins, un o’r ffotograffwyr benywaidd cyntaf a hyrwyddwr y broses cyanoteip. Bydd yn arddangos yn Llantarnam Grange tan 19 Mehefin.

Mwy o wybodaeth

Art By Post

Daw Art by Post â gweithgareddau barddoniaeth a chelfyddydau gweledol rhad ac am ddim i’r bobl sydd wedi eu hynysu fwyaf gan y mesurau cadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae Canolfan Southbank wedi comisiynu artistiaid i ddylunio’r llyfrynnau, a gafodd eu hysbrydoli gan eu casgliad celf a’u rhaglen artistig.

Mwy o wybodaeth

Clwb Llyfrau ar ôl Ysgol y Plant

Mae Chapter from Home yn cyflwyno cyfres o sesiynau ar ôl ysgol byr bob wythnos sydd wedi eu bwriadu i blant Cyfnod Allweddol 1, gyda’r actor a’r nani Sophie Warren. Mae pob llyfr yn cael ei ddewis yn ofalus i gyd-fynd â thema wythnosol (newid hinsawdd, lles, crefydd, rhagenwau rhywiau, anableddau dysgu).

Mwy o wybodaeth