Sianel / 12 Ion 2021

Cyfweliad Artist - Kaz Alexander



Beth sbardunodd eich diddordeb mewn ffotograffiaeth i ddechrau? Ydych chi’n edmygu unrhyw ffotograffwyr yn arbennig?

Dechreuodd fy niddordeb pan oeddwn i’n blentyn bach: cefais gamera bocs tegan wedi’i wneud o blastig (dw i’n meddwl bod gen i ffoto neu ddau o hyd a dynnais i gyda hwnnw). Yna, blwyddyn neu ddwy wedyn daeth milwr yn ôl o’r Almaen – roedd mam yn deipydd CS oedd yn gysylltiedig â RSME a BD – a daeth ag Iloca Rapide B 35m SLR gydag o a gafodd o arwerthiant bomio. Dyma oedd fy nghamera wedyn hyd yr 1990au cynnar (roeddwn i’n meddwl y byd ohono). Allwn i ddim bob amser fforddio datblygu’r ffilmiau ond cofnodais bopeth o’m cwmpas: fy nghi, gweithio yn y caeau yng Nghaint gyda Nan Gert, strydoedd diddorol yn Llundain, patrymau’r cymylau, partïon myfyrwyr a theithio dros y tir i Iran.

Mae dau ffotograffydd sydd wedi fy llenwi ag edmygedd ers i mi fod yn blentyn: Jane Brown (am ei phortreadau 2.8 f-stop ac am ei chofnodion cymdeithasol) a Martha Gellhorn (am ei ffotograffiaeth rhyfel).

Beth oedd y cymhelliant a sbardunodd eich prosiect My World Through Glass?

Rydw i wedi bod yn ddifrifol wael ac anabl ers 1982, ac wedi bod yn gaeth i’r tŷ ers ychydig dros ugain mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hynny pan ydw i wedi bod yn gaeth i’r tŷ rydw i wedi dechrau cael fy angori fwy a mwy i un lle, ac mae hynny’n golygu mai’r cwbl a welaf o’r byd tu allan ydy’r hyn a welaf drwy wydr. Er enghraifft, drwy fy ffenestr, lens fy nghamera, fy llechen a sgriniau teledu. Roeddwn i bob amser eisiau tynnu lluniau ond roeddwn i’n teimlo’n siŵr ei bod hi’n ddiflas i bobl eraill weld yr un pethau drosodd a throsodd; roedd hyn yn fy ngwneud i’n drist. Yna penderfynais mai dyma oedd fy myd ac y dylwn ei gofnodi mewn ffordd ddisgybledig a gonest, mewn ffordd oedd o ddiddordeb i mi. Ac felly y dechreuodd My World Through Glass. (Ni feddyliais erioed y byddai pobl wirioneddol eisiau gweld fy ffotograffau hefyd).

10°C 4.27PM Changeable, with fast-moving, variable clouds; chilly, damp with wind veering & rising slightly. Wind 32mph WSW.


Fel ffotograffydd, ym mha ffyrdd gafodd y pandemig effaith ar eich dewis bwnc a’ch dull?

Mae’n rhaid i mi fod yn onest, heblaw am bryderu ynglŷn â phobl eraill, dydy’r pandemig ddim wedi dylanwadu ar fy newis bwnc na’m dull i raddau mawr. Ond, wrth i fwy o bobl ddechrau hoffi fy ffotograffau a’m dilyn ar Instagram – gan ddweud bod y lluniau wedi codi eu calonnau – sylweddolais fy mod i’n rhoi rhywbeth i rywun heblaw fi fy hun.

Sut mae Instagram wedi eich galluogi i rannu eich gwaith o greu lluniau gyda chynulleidfa ehangach?

Mae Instagram wedi bod yn hollbwysig am ei fod wedi rhoi fy ffotograffau o flaen llygaid pobl drwy’r byd i gyd. Mae hefyd wedi golygu fy mod i wedi cael fy narganfod yn 63 oed ac mewn cyfnod pan na allaf wneud dim byd ond gorwedd yn ôl mewn sedd godi/lledorwedd, tynnu un neu ddau o luniau o’r man hwnnw, a symud yn sigledig at y comôd rai troedfeddi i ffwrdd.

Mae’n anarferol bod tri ffotograffydd sydd wedi eu seilio yng Ngogledd Cymru yn yr arddangosfa Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, a bod dau ohonynt ym Môn. Ydych chi’n teimlo bod cyfoeth ac amrywiaeth Gogledd Cymru’n derbyn y sylw mae’n ei haeddu gan ffotograffwyr cyfoes?

O siarad yn gyffredinol, mae’r syniadau a’r safbwyntiau am Gymru wedi tueddu i ymdroelli o amgylch Caerdydd yn anffodus (ac mae hynny’n peri rhwyg). Credaf ei bod hi’n bwysig uno Cymru yn y ffordd y mae hi’n cael ei chyflwyno i’r cyhoedd, p’un a ydyn nhw yng Nghymru ai peidio. Rwyf wrth fy modd bod tri ohonom yn byw yng Ngogledd Cymru ac rwy’n hapus hefyd bod dau ohonom ym Môn. Does gen i ddim syniad faint o sylw cyhoeddus mae ffotograffwyr lleol wedi ei dderbyn, ond rydw i wedi sylwi ar drysorfa fach o ddawn ffotograffig ar yr ynys hon ei hun; dydw i ddim yn eu nabod nhw’n unigol ond rydw i wedi gweld eu gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Ni allaf siarad dros ddewis bynciau’r ffotograffwyr cyfoes eraill, na rhoi sylw amdanynt (nid pawb sy’n gallu symud yn rhydd o amgylch y wlad). Byddwn yn annog pob ffotograffydd yng Nghymru i roi cynnig, o leiaf, ar ddogfennu a chyfleu byd Gogledd Cymru, yn ogystal â rhanbarthau eraill.

11°C 4.18PM Mostly clear & hazy, with peripheral clouds; chilly, damp with wind decreasing noticeably. Wind 39mph SW.


Beth yw eich barn am fod yn rhan o arddangosfa Ffotogallery?

I fod yn onest, roeddwn i wedi rhyfeddu ac mewn cyflwr o anghrediniaeth i raddau mawr pan gefais neges uniongyrchol ar Instagram gan David (cyfarwyddwr Ffotogallery)! Roeddwn wedi rhyfeddu cael fy narganfod heb wneud unrhyw beth i geisio hynny, a finnau’n 63 oed, yn colli fy ngolwg mewn un llygad ac mor ddifrifol wael ac anabl. Rwy’n gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn a byddaf yn ei werthfawrogi am byth. Credaf yn y syniad sy’n sail i Nifer o Leisiau, Un Genedl ac felly rwy’n falch cael chwarae rhan yn y prosiect hwn.

Beth yw eich gobeithion i Gymru yn 2021?

Waw, dyna gwestiwn! Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n parhau’n falch o’n gwahaniaethau ac wedi ein huno ganddynt, am ein bod ni oll yn rhan o Gymru. Gobeithio y gallwn lwyddo i oroesi a rheoli COVID 19 – a’i holl amrywiolion – gyda chyn lleied o farwolaethau a chyn lleied o drallod ag sy’n bosibl (ac hefyd y bydd pobl gyda COVID Hir yn derbyn y cymorth y maent ei angen). Hoffwn i Lywodraeth Cymru fod yn gryfach (mae’n rym er daioni yn y bôn).