Sianel / 12 Ion 2021

Cyfweliad Artist: Matthew Eynon

Beth sbardunodd eich diddordeb mewn ffotograffiaeth i ddechrau? Ydych chi’n edmygu unrhyw ffotograffwyr yn arbennig?

Doeddwn i byth yn bell oddi wrth gamera a dechreuais gymryd mwy o ddiddordeb ar ôl cychwyn teulu a dogfennu digwyddiadau o ddydd i ddydd. Does gen i ddim hyfforddiant ffurfiol mewn ffotograffiaeth, ond credaf fod fy hyfforddiant fel daearegwr wedi datblygu fy sgiliau arsylwi. Caf fy ysbrydoli gan ffotograffwyr dogfen hiwmanistig fel August Sander, gwaith Eugene Smith yng Nghymru, Prosiect y Cymoedd a gwaith cyfoes sy’n dogfennu diwylliant a chymunedau.

Beth oedd y cymhelliant a sbardunodd eich prosiect?

Er nad oes gen i ffydd fy hun, cefais fy magu ym Mhenclawdd a oedd ar un cyfnod yn bentref cloddio a phrosesu metel, lle mae cysylltiadau teuluol a chymunedol cryf â chrefydd. Roeddwn i wedi bod yn creu math o bortreadau bychain o is-ddiwylliannau (e.e. y Mods yn Abertawe), ac roeddwn i’n awyddus i wneud mwy o bortreadaeth; daeth Y Ffyddloniaid yn bwnc delfrydol ar gyfer archwilio fy arferion drwy thema crefydd yng Nghymru yn y 21ain Ganrif.

Y syniad hanesyddol o Gymru oedd ei bod hi’n genedl o drigolion cefn gwlad oedd yn byw yn syml, oedd â pharchedig ofn o’u Duw ac a oedd yn siarad Cymraeg; ond, roedd hyn yn hollol wahanol i’r realiti ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed Ganrif. Dim ond hanner pobl Cymru oedd yn Gymry Cymraeg yn 1901, a gostyngodd hynny i 43% yn 1911 (tuedd a barhaodd am ganrif ond sydd yn awr yn newid cyfeiriad) ac roedd dwy ran o dair o bobl Cymru’n byw mewn ardaloedd trefol a diwydiannol.

Ar sail data cyfrifiad 2011, mae bron i draean o bobl Cymru heb unrhyw grefydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ymlynwyr â chrefydd gyfundrefnol yng Nghymru’n perthyn i enwadau Cristnogol; ond, gwelwyd gostyngiad o 14% yn y niferoedd ers 2011 (mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud nad Cristnogaeth yw’r ‘grefydd ddiofyn bellach’ i lawer o bobl). Mewn gwirionedd, cafwyd cynnydd yn y nifer o bobl sy’n Fwdhyddion, Hindwiaid, Mwslimiaid, Sikhiaid a Derwyddon

I chi fel ffotograffydd, ym mha ffyrdd mae’r pandemig wedi effeithio ar eich gwaith? Sut mae wedi effeithio ar eich dewis bwnc a’ch dull?

Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar fy ymdrechion ffotograffig; rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar bobl ac, wrth gwrs, dydy pobl ddim wedi bod yn barod iawn i gyfarfod yn ystod y cyfnodau pan ymlaciwyd y cyfyngiadau. Mae cyfarfodydd wedi bod yn amhosibl yn ystod pob cyfnod clo.

Beth yw eich barn am gael eich cynnwys yn arddangosfa Ffotogallery?

Roeddwn i wrth fy modd pan glywais fy mod wedi fy nghynnwys yn Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 ymysg pobl sydd â gwaith mor gyffrous ac o safon mor uchel. Mae wedi fy ysbrydoli go iawn i barhau y tu hwnt i’r pandemig i wneud portreadau bychain eraill o ddiwylliant yng Nghymru.

Beth yw eich gobeithion i Gymru yn 2021?

Fy mhrif obaith i Gymru yn 2021 yw y bydd yn troi ei chefn ar wleidyddiaeth begynol ac y bydd pawb yn sylweddoli bod cydweithio a gweithio gyda chydymdeimlad yn llawer gwell na dulliau gwrthwynebus.