Sianel / 12 Maw 2022

Coffee 'n' Laughs – Dathlu Enillydd y Wobr Amrywiaeth

Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi bod Coffee ‘n’ Laughs, sef elusen a grŵp cyfeillion i ferched o bob oed, ffydd a diwylliant yng Nghasnewydd, wedi ennill y Wobr Dathlu Amrywiaeth yng Ngwobrau Creative Lives.

Mae Ffotogallery wedi gweithio’n agos â’r menywod yn Coffee ‘n’ Laughs ar nifer o weithgareddau dros y flwyddyn ddiwethaf hon; y gyntaf oedd prosiect ymarferol gyda’r ffotograffydd Antonia Osuji ac, o ganlyniad i’r ail weithgaredd ar y cyd, crëwyd portreadau gwych o aelodau gan Maryam Wahid (a ddangoswyd yn Barnabas House yn ystod Diffusion), oedd yn adlewyrchu eu straeon, cefndiroedd, teuluoedd a phrofiadau.

Trwy gydol y ddau brosiect, bu aelodau Coffee ‘n’ Laughs yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a chyffrous gyda’r artistiaid, “mewn sesiynau a luniwyd i helpu aelodau bregus i deimlo wedi eu hatgyfnerthu a’u cysylltu mewn cyfnod o ynysu.”

Meddai Susan Lewis, aelod o Coffee ‘n’ Laughs: “Cychwynnodd prosiectau Ffotogallery […] gyda chyflwyniad gwych o artistiaid ffotograffig benywaidd drwy gyfrwng zoom. Yna, roedd cyfle i ddod allan yn ofalus i fwynhau trip maes wyneb yn wyneb a sesiwn dynnu lluniau hyfryd gydag Antonia ac, yn ddiweddarach, Maryam. Daethom yn ffotograffwyr ac yn destunau lluniau gyda’r dathliadau o’n bywydau a’n treftadaeth yng Ngŵyl Diffusion. Diolch Ffotogallery am fod yn rhan o’n gwobr gan Creative Lives”!