Sianel / 17 Maw 2020

Diweddaraf am y Coronafeirws

Arddangosfa a swyddfeydd Ffotogallery yng Nghaerdydd yn cau am gyfnod amhenodol.

Mewn ymateb i bryderon cynyddol am ledaeniad Covid-19 (coronafeirws), ac er mwyn diogelu iechyd a lles staff, ymwelwyr a gwirfoddolwyr, mae Ffotogallery wedi cau ei oriel a’i swyddfeydd yng Nghaerdydd am gyfnod amhenodol. Rydym wedi cychwyn polisi o weithio o adref a byddwn yn dilyn cyngor ac argymhelliad y Llywodraeth yn nhermau arferion gweithio yn y dyfodol. Ein bwriad yw ailagor gynted ag y bo modd a chynnig mynediad i arddangosfeydd, ein llyfrgell a chyfleusterau eraill maes o law. Gwiriwch ein gwefan a’r sianelau cyfryngau cymdeithasol i weld yr wybodaeth ddiweddaraf, a chadwch yn ddiogel ac iach yn ystod y cyfnod heriol hwn.

David Drake, Cyfarwyddwr, Ffotogallery