Sianel / 7 Mai 2020

Diffusion 2019: Sound + Vision

Yr adeg hon y llynedd roeddem yn dod â rhifyn llwyddiannus arall o Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd i ben, felly tra byddwn yn brysur yn gweithio o gartref ac wrth i’r cynlluniau ddechrau ffurfio ar gyfer yr ŵyl nesaf, roedd gennym awydd edrych yn ôl ar ein gŵyl fwyaf uchelgeisiol eto.

Yn y ffilm hon, mae Cyfarwyddwr yr Ŵyl a Chyfarwyddwr Ffotogallery David Drake yn siarad am thema Diffusion 2019 a sut mae’r ŵyl yn creu ac yn addasu gofodau i’w troi’n fannau arddangos a pherfformio amlbwrpas.

Ffilm gan Philip Jenkins.