Sianel / 17 Awst 2021

Post Blog y Cyfarwyddwr - Awst 2021

Trobwynt

“adeg pan mae newid pendant mewn sefyllfa yn digwydd, yn enwedig un sydd â chanlyniadau buddiol”

Ers i Ffotogallery ail agor ei ddrysau yn ôl ym mis Mai, rydym wedi croesawu hen ffrindiau yn eu holau ac wedi gwneud llawer o gyfeillion newydd ymhob rhan o’r gymuned. Rydym wedi cynnal tair arddangosfa yn ein canolfan hyd yn hyn gyda sgyrsiau gan yr artistiaid i gyd-fynd â nhw a digwyddiadau sgrinio, diwrnod lles y teulu, dydd Mawrth te a theisen misol a digwyddiadau rhwydweithio pizza a chwrw i fusnesau lleol, grŵp ieuenctid lleol a gynhaliwyd am chwe wythnos a phrosiectau allgymorth a gychwynwyd gyda grwpiau cymunedol yng Nghasnewydd. Rydym wedi mynd â Thir/Môr Mike Perry ar daith i Oriel y Parc yn Sir Benfro ac Oriel Thelma Hulbert yn Nyfnaint. Rydym wedi parhau i gydweithio’n ddigidol gyda phartneriaid yn India, Affrica, y Dwyrain Canol ac Ewrop a bydd gwaith newydd a gafodd ei ddatblygu mewn mannau rhithwir yn ystod y cyfnod clo’n cael ei gyflwyno’n ffisegol yng Nghymru yr Hydref hwn. Rydym wedi croesawu pump aelod newydd i’n tîm staffio craidd. Mae’n teimlo fel petaem ni wedi troi cornel o’r diwedd o ran effaith y pandemig ar ein gwaith, ac rydym yn llawn cyffro am yr hyn a fydd yn dod i’n rhan yng ngweddill y flwyddyn.

Mae’n bleser arbennig gen i gyhoeddi y bydd pumed gŵyl eilflwydd Diffusion, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd yn digwydd rhwng 1 a 31 Hydref eleni, ar safleoedd niferus yng Nghaerdydd, Casnewydd a De Cymru.

Mae Turning Point: Diffusion 2021 yn edrych tuag at ddyfodol ar ôl y pandemig drwy ddarparu platfform i leisiau artistig newydd a phrofiadau diwylliannol amrywiol, a model newydd o gydweithio sy’n darparu mis o ddigwyddiadau ffotograffiaeth yng Nghymru ac effaith a chyrhaeddiad rhyngwladol. Gan gyfuno gwaith wedi ei gyd- greu a’i gyflwyno ar-lein ac yn ffisegol, mae Turning Point: Diffusion 2021 yn dathlu ac yn rhoi lle blaenllaw i gyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd mawr a chyfle newydd.

Mae gennym fwy o newyddion hefyd. Yn dilyn bron i dair blynedd ar ddeg wrth y llyw rwyf wedi penderfynu rhoi’r gorau i’m swydd fel Cyfarwyddwr Ffotogallery ddiwedd y flwyddyn hon, ar ôl darparu fy mhumed Diffusion fel cyfarwyddwr sylfaenu’r ŵyl. Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf i mi arwain y sefydliad dros y cyfnod hwnnw a gweitho gyda chynifer o artistiaid, cynhyrchwyr creadigol a sefydliadau partner gwych yng Nghymru, Ewrop ac o amgylch y byd. Byddaf yn edrych yn ôl gyda balchder enfawr ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni, ac edrychaf ymlaen at yr arweiniad newydd, y syniadau ffres a’r safbwynt gwahanol ar ffotograffiaeth a ddaw gyda fy olynydd.

Yn y cyfamser, byddaf yn ysgrifennu postiadau blog misol sy’n edrych ar y rôl hanfodol y mae ffotograffiaeth gyfoes yn ei chwarae mewn cymdeithas yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac ar y dirwedd ddiwylliannol sy’n newid yn gyflym a sut mae artistiaid a chynulleidfaoedd yn addasu iddi.

David Drake,
Awst 2021