Sianel / 29 Tach 2021

Post Blog y Cyfarwyddwr – Tachwedd 2021

Fis yma, mi es i’r Paris Photo, a ddechreuodd eto ar ôl saib o ddwy flynedd, ac roedd yn deimlad gwych cael ail gysylltu â chydweithwyr rhyngwladol mewn ffotograffiaeth, cyfarfod rhai newydd, a gweld gwaith gwych yn cael ei arddangos ledled y ddinas. Roedd y digwyddiad hwn yn fy atgoffa am y parch mawr sydd i ffotograffiaeth fel celfyddyd, yn Ewrop o leiaf.

Rwy’n arbennig o falch o gysylltiad Ffotogallery ag Ewrop yn ystod fy nhymor fel Cyfarwyddwr, ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o’r artistiaid yr oeddwn wedi rhoi cyfle iddynt arddangos eu gwaith yn gynharach yn eu gyrfaoedd, yn derbyn cydnabyddiaeth ehangach haeddiannol erbyn hyn yn rhyngwladol – Katrien de Blauwer, Trine Sondergaard, César Dezfuli, Jon Tonks ac Edgar Martin a llawer mwy. Cynigiodd Paris hefyd y cyfle i glywed y diweddaraf gan rai o’r curaduron, cyhoeddwyr a gofalwyr orielau yr wyf wedigweithio â nhw o Ffrainc, Lithwania, yr Almaen, Sbaen, yr Eidal a Denmarc.

Roedd Paris Photo yn fy atgoffa bod dwy ochr i’r byd ffotograffiaeth yr wyf yn byw ynddo. Ar un ochr mae ysbryd agored a charedig y cydweithio, y rhannu syniadau a dealltwriaeth, yr ymrwymiad i feithrin talent newydd a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol ac arferion artistig cynyddol amlwg. Ar y llaw arall, mae tuedd i ddynwared dulliau gweithredu’r byd celfyddyd, lle ceir dymuniad i blesio’r casglwyr a’r noddwyr brandiau mawr, lle mae’r rheiny sy’n prynu ac ail werthu gwaith celf a llyfrau ffotograffau cyhoeddiad cyfyngedig yn gweithredu fel masnachwyr nwyddau – byd unigryw o docynnau VIP a churaduron ac artistiaid o’r radd flaenaf yn teithio’r byd.

Pan fydd ffotograffydd newydd dawnus yn cael cydnabyddiaeth gan y sefydliad celfyddydol yn gynnar yn eu gyrfa, rwy’n eu hannog i ganolbwyntio ar ddatblygu eu harferion a gweithio gyda phobl y maen nhw’n ymddiried yn eu beirniadaeth, boed y rheiny’n olygwyr, yn guraduron neu’n ofalwyr orielau, ac i beidio cael eu cyfareddu gan y syrcas o ffeiriau celf a gwobrau ffotograffiaeth. Fel y dywedodd Edward Weston, “does dim ffordd sydyn i lwyddo mewn ffotograffiaeth”. I lwyddo’n greadigol, mae angen i chi weithio’n galed, bod yn hunan-feirniadol, a dysgu trwy edrych ar waith pobl eraill, gan ddefnyddio’r wybodaeth honno iganfod eich llais eich hun.

Mae’n sicr bod rhai ffigurau dylanwadol a breintiedig yn y byd ffotograffiaeth sy’n eu hystyried eu hunain yn feirniaid am chwaeth a gwerth yn y farchnad, sy’n masnachu ar ogoneddau’r gorffennol ac sy’n ceisio rheoli pwy a beth sy’n cael ei arddangos neu ei gyhoeddi. Yn fy marn i, maen nhw’n rhwystro pethau rhag symud yn eu blaenau ac yn cyfyngu ar dalentau crai. Mae’n hen bryd iddyn nhw symud i’r ochr a gadael i genhedlaeth nesaf, sy’n fwy dewr ac egnïol, osod yr agenda.

Gallwn ni ddadlau mai ffotograffiaeth yw’r math mwyaf democrataidd, hygyrch a phoblogaidd o gelfyddyd – ac mae’n ymddangos bod pawb yn ffotograffydd bellach, er gwell neu er gwaeth. Fodd bynnag, mae angen meithrin cynulleidfa i ffotograffiaeth fel celf, er mwyn rhoi chwant ynddyn nhw am leisiau newydd a lleisiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol, ac i fwynhau mathau newydd o fynegiant sy’n edrych y tu hwnt i’r diddychymyg a’r ystrydebol. Fy nheimlad i yw bod pawb sy’n angerddol ac yn ymroddedig i ffotograffiaeth gyfoes yn gweld pwysigrwydd y newidiadau hyn i’r status quo, bod yr hen drefn yn pylu’n gyflym a bod un newydd llachar yn ymddangos o’r cysgodion.

David Drake, Tachwedd 2021