Sianel / 31 Hyd 2021

Director’s Blog Post – October 2021

Diffusion a Chi

Rydym wedi dod ag arddangosfeydd a digwyddiadau mis Hydref ar gyfer Trobwynt: Diffusion 2021 i ben erbyn hyn, ac rydym wedi derbyn adborth hynod o gadarnhaol am y bumed fersiwn o’r ŵyl eilflwydd hon. Mae’r ffocws a roddwyd ar groesawu’r teulu, y prosiectau ymgysylltu â’r gymuned a’r diwrnodau gweithgareddau wedi denu pobl o bob oedran a chefndir, ac rydym wedi datblygu perthnasoedd newydd gydag artistiaid, unigolion a chymunedau o amrywiol ddiwylliannau yng Nghasnewydd, Caerdydd a Llanelli.

Dros y mis diwethaf mae ein harddangosfeydd wedi denu ymwelwyr o’r tu mewn a’r tu allan i Gymru, ac rydym wedi rhannu nifer o straeon hyfryd ar y cyfryngau cymdeithasol am aelodau o deuluoedd a grwpiau myfyrwyr mewn ffotograffau’n cael eu hysbrydoli gan waith artistiaid a’n ffocws ar gymuned, lles a hunaniaeth.

Aethom ati i lansio’r Ŵyl eleni yng Nghaerdydd, ond cafwyd ein diweddglo yng Nghasnewydd! Dau le gwych oedd mor gynnes eu croeso i’r mwyafrif o’n harddangosfeydd a’n digwyddiadau eleni. Roedd Diweddglo Casnewydd yn ddathliad mawreddog oedd yn cynnwys:

  • Gweithdai gwneud Sînau, gyda’r ffotograffydd Jude Wall a Snap Shop o Castle Emporium yng Nghaerdydd
  • Awr Farddoniaeth Lafar
  • Taith Arddangosfa Lab / Casnewydd a lansio’r Sînau,
  • Ffilm 'The Betrayal Cycle' gan João Saramago wedi ei thaflunio ar Theatr Glan yr Afon
  • Gweithdy gydag Andy O'Rourke
  • Cerddoriaeth fyw gan JoJo and The Teeth


Gwyliwch am ragor o uchafbwyntiau o’r diwrnod hwn draw ar ein cyfryngau cymdeithasol!

Rydyn ni’n ffarwelio yn awr ond yn yr wythnosau nesaf byddwn yn llwytho cynnwys sy’n werth ei weld ar ein gwefan, yn cynnwys recordiadau o gyfweliadau artistiaid, teithiau 360º o arddangosfeydd Diffusion, a symposia a gweithdai amrywiol sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Ymlaciwch a mwynhewch y cynnwys a dewch i wybod am ymdrechion ffotograffiaeth diweddaraf Ffotogallery.

Llun © David Drake, Kamila Jarczak and Andy O'Rourke