Sianel / 27 Chwef 2022

Cylchlythyr mis Chwefror

Mae’n bleser mawr gennym arddangos corff o waith amlochrog Edgar Martin What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase, o 4 Mawrth hyd 9 Ebrill!

Dewch i’n noson rhagddangosiad ar Ddydd Iau 3 Mawrth, o 6pm!

Mae What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase yn gorff amlweddog o waith a ddatblygwyd o gydweithrediad â Grain Projects a Charchar Ei Mawrhydi Birmingham (y carchar categori B mwyaf yn y DU yng Nghanolbarth Lloegr), y carcharorion yno, eu teuluoedd yn ogystal â myrdd o fudiadau ac unigolion lleol eraill. Trwy roi llais i garcharorion a’u teuluoedd a chyfarch carchar fel set o berthnasau cymdeithasol yn hytrach na gofod corfforol yn unig, mae gwaith Martins yn mynd ati i ailfeddwl a gwrthweithio’r math o ddelweddau a gysylltir fel arfer â charcharu.

Gan ddefnyddio cyd-destun cymdeithasol carchariad fel dechreubwynt, mae Martins yn archwilio’r cysyniad athronyddol o absenoldeb, ac yn mynd i’r afael ag ystyriaeth ehangach statws y ffotograff pan fo cwestiynau ynghylch gwelededd, moeseg, estheteg a dogfennaeth yn croestorri. Trwy gydweddu’n gynhyrchiol delwedd a thestun, ffotograffiaeth newydd a hanesyddol, tystiolaeth a ffuglen, nod gwaith Martins yw craffu sut mae rhywun yn delio ag absenoldeb anwylyd, pan fo ymwahaniad wedi ei orfodi arnynt.

Mwy o wybodaeth

© Edgar Martins

Dydd Mawrth Te a Theisen - 8 Mawrth

Hoffai Ffotogallery eich gwahodd yn gynnes iawn i’n Dydd Mawrth Te a Theisen fis Mawrth, yn yr Hen Ysgol Sul ar Fanny Street!

Ymunwch â ni i fwynhau te a theisen, ac i gymdeithasu’n ddiogel yn ein horiel hyfryd, gan fwynhau gwaith Edgar Martin.

Byddwn yn darparu’r cacennau a’r diodydd; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw dod draw. Byddai’n wych eich gweld chi yno!

Dydd Mawrth 8 Mawrth, 11am - 1pm

Mwy o wybodaeth

Noson o Ffilmian Byrion - 11 Mawrth

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal noson o ffilmiau byrion yn ein horiel, am y tro cyntaf, ar Ddydd Gwener 11 Mawrth! Mae ein cynnig yn cynnwys rhaglenni dogfennol, fideos o’r archif, ffuglen, ffilmiau artistiaid o’u gwaith ac am eu bywydau. Gallwch ddisgwyl gweld ffilmiau gan Marega Palser (mewn cydweithrediad â Steven George Jones a Tactile Bosch), John Crerar, Joäo Saramago a mwy! Mae’n addo bod yn noson wych i arddangos ffilmiau gan rai o’r bobl greadigol wych sydd i’w cael yma yng Nghymru.

Dydd Gwener 11 Mawrth, 6 – 9pm

Mwy o wybodaeth


Taith Rithiol - Invisible Britain: This Separated Isle

Os nad oeddech wedi gallu dod i’n harddangosfa ddiwethaf, peidiwch â phoeni – gallwch ymweld â hi o’ch cartref erbyn hyn!

Archwiliwch Invisible Britain - This Separated Isle ar-lein drwy’r daith rithwir hon. Mae’r arddangosfa dan ofalaeth Paul Sng ac mae’n cynnwys gwaith gan fwy na thri deg o ffotograffwyr sydd â lluniau’n archwilio sut mae cysyniadau o ‘Brydeindod’ yn datgelu amrywiaeth gynhwysol o safbwyntiau a dealltwriaeth am ein cymeriad cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth

Llyfr y Mis - More Than A Number

Mae More Than a Number yn gyhoeddiad sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa sy’n dwyn yr un enw. Mae’n mynd ati i archwilio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am Affrica fel gwlad wedi’i dal rhwng moderniaeth a thraddodiad, a sut y gall gwahanol ddiwylliannau gynhyrchu ystyr drwy ddelweddau. Mae’n gwahodd y gynulleidfa i ymddiddori yn y gwaith eithriadol hwn sy’n procio’r meddwl gan 12 o ffotograffwyr o Affrica. Mae’n ein hannog i edrych yn fanwl ac yn glir i wyneb yr unigolyn o’n blaenau a dechrau sgwrsio. Yng ngeiriau Elbert Hubbard, “Pe bai dynion yn gallu dod i adnabod ei gilydd, ni fyddent yn gwirioni nac yn casáu”.

Ar gael yn yr oriel neu o’n siop lyfrau ar-lein.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd bod gennych ddiddordeb yn y pethau hyn:

Ymunwch â FfotoNewport sydd newydd agor, ar noson ragddangosiad eu hail arddangosfa, Dark Spring (John Crerar) ar 4 Mawrth, 5.30 – 8pm yn eu horiel yn Arcêd y Farchnad yng Nghasnewydd

Mwy o wybodaeth

Os nad ydych wedi cael cyfle i weld yr arddangosfa yn Chapter, mae Human Conditions of Clay yn mynd ar-lein! Dyma arddangosfa rithiol gyntaf Chapter.

Mwy o wybodaeth

Mae Estron Collective, sef criw o fyfyrwyr Ffotograffiaeth 3ydd Blwyddyn yn UWTSD, wedi rhoi’r arddangosfa gyntaf hon at ei gilydd i godi arian ar gyfer eu sioeau blwyddyn derfynol.

Mawrth 1 - 4, Heol Craddock, Abertawe.

Bydd Umbrella yn cyflwyno’r olwg ôl-syllol hon ar Inside Out, 10 mlynedd ar ôl eu harddangosfa gyntaf o ffotograffau a darnau ffilmiau Anthony a Simon Campbell, yn dangos cymunedau Butetown a Tiger Bay, yn yr 1970au, 80au a 90au! Yn The Turner House ym Mhenarth o 24 Chwefror hyd 20 Mawrth.

Mwy o wybodaeth