Sianel / 11 Awst 2022

FFOCWS

Mae Ffocws yn fenter newydd sbon a lansiwyd gan Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru, ac o Gymru, sydd nemor cychwyn ar eu gyrfaoedd ac sy'n gweithio â ffotograffiaeth a chyfryngau'r lens. Ar ôl ymweld â sioeau graddedigion o sefydliadau addysg uwch ar draws y wlad, rydym wedi dewis nifer o brosiectau rhagorol gan fyfyrwyr sy'n graddio er mwyn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa grŵp yn hwyrach eleni.

Mae Ffotogallery yn deall bod teimladau o bryder am y dyfodol yn gyffredin i lawer o artistiaid sydd ar bwynt cynnar yn eu gyrfaoedd ac mae clywed am brinder cyfleoedd yn creu mwy o ansicrwydd ynglŷn â galwedigaeth sy'n ansicr yn barod. Mae bod yn artist yn ymwneud â mwy na dim ond deunyddiau, anghenion ac arferion - mae'n ymwneud â phrofi'r sefyllfa sy'n eich wynebu ar hyn o bryd; mae hon yn agwedd a edmygwn ac a barchwn mewn artistiaid sy'n dod i'r amlwg. Felly, mae Ffotogallery wedi ymrwymo i'w brif egwyddorion o hyrwyddo mwy o amrywiaeth ddiwylliannol, mwy o fynediad a chynhwysiant, dysgu gydol oes, arloesi a rhagoriaeth.


Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi bod yr artistiaid dilynol wedi cael eu dewis i gyflwyno eu gwaith mewn arddangosfa grŵp yn Ffotogallery yn hwyrach eleni, yn ogystal â chymryd rhan mewn sgyrsiau artistiaid, symposia a gweithdai:

Laurentina Miksys @lauren_miksys

Ada Marino @adamarino_dipalma

Dione Jones @dione_photography

Jack Winbow @winbowphoto_

Alice Durham @alicedurham.photo

Billy Osborn @billyhnsn

Ross Gardner @pure.premium_

Laurie Broughton @laurie_broughton

Paris Tankard @ugparis

Kerry Woolman @kerrywoolman_

    Rydym yn sylweddoli nad ydy pawb yn cael y cyfle i astudio ar lefel Addysg Uwch, felly rydym yn cyflwyno Galwad Agored Ffocws yn arbennig i ffotograffwyr sy’n dod i’r amlwg / sydd newydd gychwyn ar eu gyrfaoedd ac sydd heb gael cymhwyster ffurfiol yn y pwnc. Rhagor o fanylion i ddilyn ar Ddydd Llun 15 Awst - dewch yn ôl i edrych cyn hir.