Ffocws: Galwad Agored
Mae Ffocws yn fenter newydd sbon a lansiwyd gan Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru, ac o Gymru, sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd ac sy'n gweithio â ffotograffiaeth a chyfryngau'r lens. Ar ôl ymweld â sioeau graddedigion o sefydliadau addysg uwch ar draws y wlad, rydym wedi dewis nifer o brosiectau rhagorol gan fyfyrwyr sy'n graddio er mwyn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa grŵp yn hwyrach eleni.
Mae Ffotogallery yn deall bod teimladau o bryder am y dyfodol yn gyffredin i lawer o artistiaid sydd ar bwynt cynnar yn eu gyrfaoedd ac mae clywed am brinder cyfleoedd yn creu mwy o ansicrwydd ynglŷn â galwedigaeth sy'n ansicr yn barod. Mae bod yn artist yn ymwneud â mwy na dim ond deunyddiau, anghenion ac arferion - mae'n ymwneud â phrofi'r sefyllfa sy'n eich wynebu ar hyn o bryd; mae hon yn agwedd a edmygwn ac a barchwn mewn artistiaid sy'n dod i'r amlwg. Felly, mae Ffotogallery wedi ymrwymo i'w brif egwyddorion o hyrwyddo mwy o amrywiaeth ddiwylliannol, mwy o fynediad a chynhwysiant, dysgu gydol oes, arloesi a rhagoriaeth.
Ynghylch yr Alwad Agored
Rydym yn sylweddoli nad ydy pawb yn cael y cyfle i astudio ar lefel Addysg Uwch, felly rydym yn cyflwyno Galwad Agored Ffocws yn arbennig i ffotograffwyr sy’n dod i’r amlwg / sydd newydd gychwyn ar eu gyrfaoedd ac sydd heb gael cymhwyster ffurfiol yn y pwnc. Rydym eisiau gweld creadigedd, dilysrwydd, a brwdfrydedd yn tywynnu drwy eich gwaith. Bydd yr artsit(iaid) a ddewisir yn arddangos eu gwaith yn yr arddangosfa ochr yn ochr â ffotograffwyr eraill sy'n dod i'r amlwg a fydd wedi eu dewis o sioeau graddedigion sefydliadau addysg uwch ledled Cymru.
Pwy sy'n cael ymgeisio?
Mae Ffocws yn agored i bawb yng Nghymru / o Gymru sydd dros 18 oed ac sydd heb ennill unrhyw gymhwyster ffurfiol mewn celfyddyd. Mae'n rhaid i'r artistiaid i gyd sy'n ymgeisio fod o fewn deng mlynedd i ddechreuad eu hymarferion artistig. P'un a ydych yn ffotograffydd proffesiynol, yn frwdfrydig am ffotograffiaeth, neu'n ddechreuwr, rydym yn chwilio am unigolion sydd ag o leiaf un corff o waith/brosiect cyflawn. Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid gweledol sydd heb gael y cyfle i arddangos eu gwaith mewn oriel o'r blaen. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan artistiaid gweledol o bob cefndir a chymuned sydd wedi eu tangynrychioli.
Gair Amdanom Ni
Ffotogallery yw sefydliad ymroddedig Cymru ar gyfer arferion ffotograffiaeth gyfoes sy'n ymgysylltiedig â’r gymdeithas. Rydym yn elusen ffotograffiaeth a chyfryngau'r lens sy'n ymroddedig i rymuso artistiaid gweledol diddorol i ddatblygu gwaith sy'n ychwanegu gwerth i gymdeithas. Mae hyn i'w weld yn ein rhaglen gyffrous o arddangosfeydd, digwyddiadau, sgyrsiau a symposia.
Buddiannau
Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa grŵp yn Ffotogallery yng Nghaerdydd. O'r artistiaid a arddangoswn, bydd un enillydd yn cael ei ddewis i ddatblygu eu harferion ymhellach gyda chymorth pecyn chwe mis o gymorth a mentora.
Llinell amser
15 Awst 2022 – Yr alwad am geisiadau'n agor
15 Medi 2022 – Dyddiad cau i ymgeiswyr
26 Medi 2022 – Cysylltu â'r enillydd/enillwyr
Sut i ymgeisio
Dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus. NI fydd unrhyw geisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried. Dylai ymgeiswyr sy'n gwneud cais am yr Alwad Agored sicrhau bod eu cyflwyniadau'n cynnwys y wybodaeth ddilynol:
- Eich enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost personol a'r wlad lle'r ydych yn byw, mewn dogfen Word.
- Detholiad o hyd at 10 ffotograff o gorff cyflawn o waith (uchafswm o 72dpi, 1920 picsel o led)
- Os ydych chi'n cyflwyno gwaith fideo i'w ystyried, rhowch ddolen i wylio'r ffilm ar-lein.
- Disgrifiad o'r prosiect sy'n rhoi manylion y portffolio rydych wedi ei lwytho ar gyfer y cais hwn a'r penawdau (250 o eiriau ar y mwyaf)
- Datganiad gan yr artist/CV yr artist (uchafswm o 100 o eiriau) yn cynnwys dolen i'ch gwefan, lle bo'n berthnasol
Hawliau'r Lluniau
Mae'r ymgeiswyr yn cadw perchnogaeth a hawlfraint y ffotograffau a gyflwynant. Gallai pob cais a ddewisir gael eu cyhoeddi gan Ffotogallery mewn cylchgronau neu lyfrau, ar wefannau, neu mewn unrhyw gyfrwng arall, yn ôl dewis Ffotogallery. Bydd unrhyw ddefnydd o'r fath wedi ei gyfyngu i hyrwyddo cyhoeddusrwydd, newyddion neu addysg wybodaethol neu godi ymwybyddiaeth gan Ffotogallery. Trwy gymryd rhan, mae pob ymgeisydd a ddewisir yn caniatáu i Ffotogallery ddefnyddio'r lluniau ac yn cydnabod y caiff Ffotogallery ddefnyddio'r ceisiadau ac enw credyd mewn unrhyw gyfryngau cyn, yn ystod ac wedyn, heb gyfyngiad mewn perthynas â'r defnyddiau sydd wedi eu nodi uchod. Ni fydd gofyn i Ffotogallery roi mwy o ystyriaeth neu geisio unrhyw gymeradwyaeth ychwanegol mewn cysylltiad â defnydd o'r fath.
E-bostiwch eich cais i opencall@ffotogallery.org ac fel llinell bwnc rhowch: Ffocws Open Call 2022
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy WeTransfer os yw'r ffeiliau'n rhy fawr i gael eu hanfon mewn e-bost.
NI fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau anghyflawn.
Trwy gyflwyno eich gwaith i'r alwad agored hon, rydych yn cytuno i'r telerau uchod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad agored, cysylltwch â cynthia@ffotogallery.org