Sianel / 24 Maw 2020

Cadwch eich Creadigedd - Adnoddau Ar-lein

Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein ffrindiau a’n cefnogwyr yn gallu parhau i fwynhau’r gwaith a wnawn ni a’r cynnig creadigol ehangach. Yn y fan yma mae detholiad o adnoddau ar-lein rhad ac am ddim i chi eu defnyddio fel y mynnwch.

Featured work by Stephane James and Lewis Brymner

Ffotogallery Platform

Mae @ffotogalleryplatform yn brosiect wedi ei seilio ar Instagram a grëwyd i helpu artistiaid cyfryngau’r lens a ffotograffwyr sy’n dod i’r amlwg ddangos eu gwaith i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys cyd-artistiaid a phobl broffesiynol yn y diwydiant drwy rwydwaith Ffotogallery, a helpu i greu cysylltiadau o fewn y gymuned ffotograffig ac artistig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dangos eich gwaith eich hun ar y platfform, yna ebostiwch gynnig byr, sy’n cynnwys esiamplau o’ch gwaith, i [email protected]

Neu efallai eich bod eisiau gweld y gwaith a gynigiwn, yna dilynwch @ffotogalleryplatform ar Instagram. Mae’r artistiaid preswyl diweddar yn cynnwys James Sykes, Peter Britton a Josie Purcell.

European Prospects

Mae European Prospects yn blatfform ar-lein a ddatblygwyd ac sy’n cael ei reoli gan Ffotogallery ers 2013 i gynnig lle i artistiaid ac asiantau diwylliannol Ewropeaidd rannu profiad ac arferion, a dangos eu gwaith i fwy o bobl yn Ewrop a thu hwnt. Daeth yr impetws cyntaf o raglen gydweithredol ryngwladol oedd yn archwilio cwestiynau o hunaniaeth a phrofiad yn Ewrop drwy brism ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens.

Yn ogystal â bod yn gronfa gynyddol o ffotograffwyr Ewropeaidd a’u gwaith, mae’r platfform yn rhannu cyfleoedd i ffotograffwyr ac artistiaid, newyddion am ddigwyddiadau a phrosiectau cydweithredol ac mae’n gweithredu fel offeryn ar gyfer ymchwiliad a thrafodaeth ehangach o faterion pan-Ewropeaidd.

Ffotoview

Cafodd Ffotoview ei lansio’n wreiddiol yn 2018 i ddathlu pen-blwydd Ffotogallery yn 40 oed ac mae’n galendr misol ar-lein sy’n dangos artist newydd bob mis. Yn 2018 aethom ati i arddangos gwaith deuddeg o artistiaid y mae eu prosiectau a/neu eu cefndiroedd wedi eu gwreiddio yng Nghymru. Cafodd y cyflwyniad ar-lein ei ddangos hefyd fel arddangosfa ffisegol yng Nghaerdydd.

Yn 2019, ar yr un adeg â’n prosiect rhyngwladol The Place I Call Home, roeddem yn dangos gwaith diweddar gan rai o’r artistiaid a gomisiynwyd. Mae The Place I Call Home yn archwilio’r syniad o gartref mewn perthynas â phrofiadau pobl sy’n byw yn y Gwlff ac ym Mhrydain mewn cyfnod o newid cyflym a symudedd cymdeithasol. Mae’r artistiaid i gyd naill ai’n wladolion Cyngor Cydweithredol y Gwlff sy’n gweithio/byw ym Mhrydain, neu’n wladolion Prydeinig sy’n gweithio/byw yn nhaleithiau Cyngor Cydweithredol y Gwlff Kuwait, Oman, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Bahrain Quatar a Saudi Arabia.

The Place I Call Home

Mae The Place I Call Home yn arddangosfa wedi’i churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, yr asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol i Gymru. Mae’n archwilio’r syniad o gartref sy’n ymwneud â phrofiadau pobl yn byw yn y Gwlff a Phrydain mewn cyfnod o newid cyflym a symudedd cymdeithasol. Mae’n rhan o raglen Diwylliant a Chwaraeon y Gwlff gan y British Council – rhaglen dair blynedd sydd wedi ei hariannu gan y Swyddfa Dramor.


Mae’r prosiect yn dod i ben erbyn hyn, ac mae wedi cael ei arddangos ddeg gwaith mewn saith gwlad wahanol, ond gallwch archwilio gwefan y prosiect o hyd ar theplaceicallhome.org i ganfod rhagor am yr artistiaid sy’n cymryd rhan, ac i ymweld â’r dudalen ‘Stories’ lle byddwch yn canfod fideos, ffotograffau a negeseuon testun a grëwyd yn ystod y prosiect.

Diffusion Festival

Mae Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd yn ŵyl sy’n para am fis sy’n cynnig arddangosfeydd, trafodaethau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn mannau agored a lleoedd rhithwir a go iawn. Thema’r ŵyl ddiweddaraf yn 2019 oedd Sound+Vision, ac roedd yn archwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens, a sut mae trosglwyddiad, cyflwyniad a darllen delweddau yn y diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, ac yn yr un modd sut mae cerddoriaeth yn cael ei brofi â’r llygaid yn ogystal â’r clyw.

Edrychwch ar dudalen ‘Channel’ Diffusion i ganfod fideos, cyfweliadau a theithiau rhithwir, a gallwch archwilio yr hyn wnaethom ni yn 2017, 2015, a 2013 hefyd.

Gwefan Ffotogallery

Yn y fan yma gallwch archwilio cynnig y blynyddoedd diwethaf o ran arddangosiadau, digwyddiadau, prosiectau a llyfrau.

Cadwch lygad ar ein prif wefan i weld y diweddaraf mewn perthynas â’r coronafeirws, ac os hoffech dderbyn y diweddariadau hyn yn uniongyrchol i’ch mewnflwch gallwch danysgrifio i’r rhestr bostio yma.