Sianel / 25 Mai 2020

Sut i wneud: Celf Glitsh

Y thema newydd ar gyfer cystadleuaeth ffotograffau ar-lein yr wythnos hon yw celf glitsh, felly rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i’ch helpu i gychwyn arni. Gallwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth naill ai drwy bostio ar Instagram, defnyddio’r tag @ffotogallery ac yna’r hashnod #glitch, neu gallwch anfon eich cais ar yr e-bost i [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Dydd Sul 31 Mai.

Mae’r term Saesneg ‘glitch’ yn aml yn cyfeirio at ganlyniad gwall digidol, ac mae’n debyg y gallem oll ddweud ein bod wedi gweld dyfeisiau’n llygru ein data ar ryw bwynt neu’i gilydd -ond wrth i ni symud ymhellach i’r oes ddigidol, mae’r hyn oedd yn cael ei ystyried yn wall ar un cyfnod wedi datblygu’n symudiad celfyddydol newydd sbon wrth i fwy a mwy o artistiaid gweledol groesawu’r estheteg ‘glitsh’.

Fel arfer, mae ‘celf glitsh’ yn cyfeirio at wallau gweledol yn y ddelwedd lonydd a’r ddelwedd symudol - mae modd naill ai gadw’r rhain wrth iddyn nhw ddigwydd ar hap neu, yn fwy cyffredin, drin a thrafod eich ffeiliau (enw arall ar hyn yw ’plygu data’) i greu’r gwallau hyn ar bwrpas.

I’r rheiny ohonoch sy’n anghyfarwydd â chelf glitsh, rydym wedi llunio rhestr o apiau creu gwallau ar-lein sy’n hawdd ac yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ac rydym wedi cynnwys rhai o’n hesiamplau ein hunain isod.

Y ddelwedd wreiddiol:


Glitchy3bitdither gan jkirchartz

Mae gan y rhaglen hon nifer o wahanol gynigion creu gwallau, wedi eu gosod yn barod, i chi ddewis ohonynt – y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw clicio gyda’r botwm dde a ‘save image as’ i gadw eich delwedd derfynol.


Rutt-Etra-Izer gan Airtight Interactive

Cyfarwyddiadau hawdd eu dilyn. Gallwch hyd yn oed gylchdroi’r ddelwedd i weld fersiwn sydd bron yn 3D o’ch ffeil newydd ei llygru.

imageglitcher gan Airtight Interactive

Rhaglen weddol sylfaenol ond effeithiol, sy’n gadael i chi ‘ail-lygru’ nes byddwch yn cael eich canlyniad gorau.

JPG Glitch gan Snorpey

Chwaraewch gyda’r botymau i arbrofi gyda’r canlyniad terfynol, neu dewiswch ‘randomise’. Cliciwch gyda’r botwm dde a ‘save image as’ i gadw eich delwedd.

Os ydych yn mwynhau llygru eich lluniau, beth am edrych yn fanylach ar blygu data? Byddem yn argymell datamoshing.com - yn y fan honno mae nifer o sesiynau tiwtorial i’ch dysgu am wahanol ffyrdd o drin a thrafod delweddau a ffeiliau fideo.

Mwynhewch chwarae!