Newyddlen mis Ionawr

Mae’r flwyddyn newydd wedi hen gychwyn erbyn hyn, ac er bod ansicrwydd o hyd ynglŷn â phryd y bydd hi’n ddiogel i ail agor ein drysau, rydym wrth eich boddau’n dod yn ôl i weithio yn y cefndir ar un neu ddau o brosiectau newydd a chyffrous.
Mae ein harddangosfa ddiweddaraf Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 ar gael o hyd i’w gweld ar-lein yn ein horiel rithwir, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd am sbec. Hefyd, mae cyfweliadau newydd gydag artistiaid ar gael i’w darllen yma gyda Kaz Alexander, Matthew Eynon a Jack Osborne.
Roeddem wrth ein boddau’n croesawu ein Cynhyrchydd Creadigol sydd newydd ei phenodi, Cynthia Sitei, i dîm Ffotogallery ar ddechrau’r mis. Dros y deuddeg mis nesaf, bydd Cynthia yn gweithio ar amrywiol arddangosfeydd a phrosiectau, yn cynnwys Diffusion 2021 sydd wedi ei amserlennu erbyn hyn ar gyfer mis Hydref eleni. Bydd hi’n un o’r garfan o Gymrodorion eleni o dan raglen Bwrsarïau Creadigol Weston Jerwood 2020, felly bydd hi’n rhan o rwydwaith o gymheiriaid a chyn-fyfyrwyr sy’n gweithio yn y sector celfyddydau a diwylliant ar draws y DU.
Yn olaf, rydym wrth ein boddau’n cyhoeddi y bydd ein cyhoeddiad diweddaraf A Woman’s Work yn dod allan cyn hir, gan ddathlu diwedd ein prosiect dwy flynedd a ariennir gan Creative Europe, yn gweithio mewn partneriaeth â Gallery of Photography Iwerddon, Kaunas Photography Gallery, Whack n Bite, Le Chateau D’Eau a Fotosommer Stuttgart. Bydd y llyfr, sy’n cynnwys gwaith gan bump ar hugain o artistiaid a ffotograffwyr dethol, ar gael i’w brynu ar-lein yn yr wythnosau nesaf, felly dewch yn ôl am ragor o newyddion.

Yr Artist dan Sylw ym mis Ionawr
Yr artist cyntaf sydd gennym dan sylw eleni yw Tessa Bunney sydd, ers mwy na 25 mlynedd, wedi bod yn tynnu lluniau o fywyd gwledig, yn gweithio’n agos ag unigolion a chymunedau i archwilio sut mae’r dirwedd yn cael ei siapio gan bobl. O ffermwyr mynydd gerllaw ei chartref yng Ngogledd Swydd Efrog i helwyr palod yng Ngwlad yr Iâ, o nofwyr iâ yn y Ffindir i fugeiliaid crwydrol Rwmania, mae ei phrosiectau’n datgelu manylion hynod o ddiddorol am y ddibyniaeth rhwng pobl, gwaith a’r tir.
Efallai hefyd bod gennych ddiddordeb yn y canlynol:

Platfform Ffotogallery
Rydym yn cymryd egwyl fer ar @ffotogalleryplatform, ond rydym yn dal i dderbyn cynigion yn y cyfamser, felly os hoffech weld eich gwaith yn ymddangos ar y cyfrif ewch i’n gwefan isod i ganfod rhagor.

Arddangosfa Etifeddiaeth y Cymoedd
Mae Arddangosfa Etifeddiaeth y Cymoedd ar gael yn awr i’w gweld ar-lein. Mae’r arddangosfa’n dangos gwaith myfyrwyr Gradd Sylfaen mewn Ffotograffeg ar Gampws Crosskeys Coleg Gwent, sy’n cymryd eu hysbrydoliaeth o Archif y Cymoedd Ffotogallery.

Lend Me Your Face – Go Fake Yourself!
Gwahoddir cyfranogwyr i lwytho eu lluniau portread a chanfod mor hawdd y gall hunaniaeth, emosiynau a lleferydd pobl gael eu trin a’u trafod gan y dechnoleg ddiweddaraf. Mae Lend Me Your Face: Go Fake Yourself! yn brosiect deallusrwydd artiffisial, ffugiad dwfn, y gallwch gyfranogi ynddo gan Tamiko Thiel a /p.

Gwobr Iris yn Agored i Geisiadau
Mae’r gystadleuaeth yn agored erbyn hyn ar gyfer 15fed Gŵyl Ffilmiau LGBT+ Gwobr Iris. Gan Iris mae’r wobr fwyaf yn y byd am ffilmiau byr – y chwenychedig Wobr Iris £30,000, gyda chefnogaeth gan Sefydliad Michael Bishop, sy’n caniatáu i’r enillydd wneud eu ffilm fer LGBT+ nesaf yma yng Nghaerdydd.

Caerdydd Creadigol: Ein Man Creadigol
Mae Caerdydd Creadigol yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i gomisiynu ymarferydd creadigol o bob un o’r ardaloedd awdurdod lleol sy’n creu Prifddinas Caerdydd, i gynhyrchu darn o waith yr un sy’n cyfleu beth mae’n ei olygu i fod yn greadigol yn yr ardal honno.
Mwy o wybodaeth