Sianel / 23 Gorff 2020

Newyddlen Gorffennaf

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Ffotogallery wrthi’n gweithio i ail agor ein horiel a’n cyfleusterau addysg yng Nghaerdydd, a gobeithiwn agor ein drysau eto yr hydref hwn. Hoffem gydnabod y gefnogaeth yr ydym wedi ei derbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys grant y Gronfa Sefydlogi. Mae’r grant hwn nid yn unig wedi bod yn achubiaeth ariannol i’r sefydliad, mae hefyd yn ein galluogi ni i gwblhau ein harchwiliad mynediad a gwneud ein cynnig ffisegol a’n cynnig ar-lein yn fwy hygyrch, a chyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus a chadw pellter cymdeithasol a fydd yn sicrhau diogelwch y staff a’r ymwelwyr. Ar ôl cadw mewn cysylltiad â chi yn ystod y cyfnod clo, mae’n bleser arbennig gennym ni gyhoeddi yn awr ein bod yn darparu cyfres o gomisiynau bychan i ffotograffwyr ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg drwy Gymru gyfan, gan gefnogi ystod eang o brosiectau artistiaid a’u helpu nhw i ddwyn ffrwyth yn 2021. Rydym hefyd wedi dechrau cynllunio ar gyfer Diffusion 2021, sydd yn awr wedi ei drefnu ar gyfer mis Awst 2021. Mae hwn yn gyfnod heriol, ond mae dyfnder y cymorth, y gwytnwch a’r creadigedd a ddangoswyd mewn misoedd diweddar gan artistiaid, y cyhoedd, arianwyr a’n sefydliadau partner yn ein harwain ni i gredu bod dyfodol mwy llewyrchus o’n blaenau, ac y byddwn yn dod allan o’r pandemig hwn yn gryf.

© Michal Iwanowski

Ffotograffiaeth ac Iaith

Dydd Iau 30 Gorffennaf, 6pm

Ymunwch â ni ar gyfer y drafodaeth ar-lein hon sy’n dathlu lansiad y Cyfathrebu Gweledol newydd rhwng Marcelo Brodsky a Michal Iwanowski. Mae’r ddau artist yn trafod eu harferion perthnasol a sut yr aethon nhw ati i ymdrin â’r cydweithrediad yn ystod y cyfnod clo. Bydd Alina Kisina, artist, addysgwr ac ieithydd drwy hyfforddiant, yn archwilio llythrennedd gweledol a mynegiant creadigol, a sut mae dimensiwn ar-lein ei phrosiect byd-eang Children of Vision yn grymuso pobl ifanc i rannu eu gweledigaeth unigryw o’r byd.

Bydd y drafodaeth hon yn digwydd ar-lein drwy Zoom – byddwn yn rhoi manylion y cyfarfod a gwybodaeth dechnegol bellach pan fyddwch yn archebu lle.

Mae’r digwyddiad hwn yn un o gyfres o sgyrsiau gydag artistiaid a chynulleidfaoedd am rôl ffotograffiaeth mewn mynegi diwylliant a hunaniaeth. Mae’r digwyddiad yn cysylltu â Galwad Agored Dychmygu’r Genedl-wladwriaeth yn rhan o’n cydweithio rhwng India a Chymru.

Mwy o wybodaeth

Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth

Dim ond ychydig dros fis sydd ar ôl i gyflwyno eich cynnig ar gyfer ein cyfle diweddaraf mewn partneriaeth â’r Chennai Photo Biennale Foundation, ‘Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth’ - mae pedwar grant ar gael, dau i artistiaid yng Nghymru, a dau i artistiaid yn India.

Mwy o wybodaeth

© Clare Gallagher

A Woman's Work

Mae arddangosfa newydd, The Muse of the Greenhouse, yn agor yn Oriel Ffotograffiaeth Kaunas o 25 Gorffennaf. Mae’r arddangosfa, sy’n cynnwys yr artistiaid Irena Giedraitiene (Lithwania), Clare Gallagher (Gogledd Iwerddon), Jaana Kokko (Y Ffindir) ac Elīna Brasliņa (Latvia) ac sydd wedi’i churaduro gan Jana Kukaine (Latvia), wedi ei hadeiladu o amgylch y syniad o’r tŷ gwydr a’i ystyron cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd niferus.

Yn y cyfamser, yn Oriel Ffotograffiaeth Iwerddon, mae’r arddangosfa Delta gan Hannah Modigh wedi ail agor am wythnos yn unig, o 22 hyd 31 Gorffennaf. Mae’r arddangosfa’n rhad ac am ddim ond mae’n rhaid archebu lle, felly gwelwch y wefan i gael rhagor o fanylion.


Dosbarth 2020

Roeddem eisiau cymryd y cyfle i daflu’r sbotolau ar y rheiny sy’n graddio yr Haf hwn o gyrsiau ffotograffiaeth a chelfyddydau yng Nghymru. Llongyfarchion i’r genhedlaeth nesaf o ffotograffwyr ac artistiaid yng Nghymru – edrychwn ymlaen yn fawr at weld beth wnewch chi nesaf.

Mwy o wybodaeth


Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


Bwrsarïau Sefydliad Martin Parr

Mae Sefydliad Martin Parr wedi lansio bwrsari ffotograffiaeth yn ddiweddar i gefnogi ffotograffwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y DU. Mae tri bwrsari i gyd, a phob un yn darparu £1,000 i alluogi i ffotograffydd dogfennol gwblhau prosiect sydd ar waith yn barod neu gychwyn prosiect newydd.

Mwy o wybodaeth

Cystadleuaeth ffoto Design Circle

Mae Design Circle wedi lansio cystadleuaeth newydd i dynnu llun o’r gorau o bensaernïaeth 20fed Ganrif Cymru. Mae tair gwobr ariannol ar gael yn ogystal â chyfleoedd i gael eich cynnwys mewn arddangosfeydd yn y dyfodol ac mewn cyhoeddiad.

Mwy o wybodaeth

Gwobr ysgrifennu ffotograffiaeth SOURCE

Mae Source yn chwilio am ysgrifennwyr newydd ac amrywiol i weithio gyda’r cylchgrawn. Mae hwn yn wahoddiad agored i unrhyw un sydd heb ysgrifennu i Source o’r blaen i gyflwyno erthygl heb ei chyhoeddi i ni ei darllen (uchafswm o 700 gair). Mae gwobr o £500 am eu hoff erthygl, a chyfleoedd cyhoeddi posibl i ddilyn.

Mwy o wybodaeth

Galwad agored Photoworks / English Heritage

Mae Photoworks yn gweithio gydag English Heritage, yn rhan o Shout Out Loud sy’n gofyn i ffotograffwyr ifanc greu gwaith celf ffotograffig digidol newydd sy’n archwilio eu treftadaeth – yn enwedig treftadaeth nad oes neb wedi adrodd ei hanes.

Mwy o wybodaeth