Newyddlen Mis Gorffennaf

Green Dark
Yn dilyn noson agoriadol gyffrous ar Ddydd Mercher 28 Gorffennaf, rydym yn hapus iawn bod arddangosfa wych Zillah Bowes yn agored yn Fanny Street yn awr tan Ddydd Sadwrn 14 Awst.
Efallai y byddwch yn adnabod rhai o luniau Zillah o Nifer o Leisiau, Un Genedl yn 2019, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â’r Senedd. Mae Green Dark yn cyflwyno golwg fanylach ar y gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed yng Nghanolbarth Cymru, yn archwilio bywyd dynol a phlanhigion, a’r trawsnewid rhyngddyn nhw dan gysgod dyfodol sy’n ansicr o ran ei hinsawdd.
Oriau agor yr oriel yw Dydd Mercher i Ddydd Sadwrn, 12-5pm. Nid oes angen archebu tocyn, ond byddwn yn gofyn am enw a rhif ffôn cyswllt pan gyrhaeddwch

More Than a Number - Ffotoview a gweithdai
Roeddem wrth ein boddau’n lansio More Than a Number – rhan o’n prosiect Ffotograffiaeth ac Affrica – mewn symposiwm bythefnos yn ôl.
Mae More Than a Number yn archwilio’r ffordd y meddyliwn am Affrica sydd wedi’i dal rhwng y modern a’r traddodiadol, a sut y gall gwahanol ddiwylliannau gynhyrchu ystyr drwy luniau. Byddwn yn cynnal gweithdai artistiaid ar-lein ar 16, 17 ac 18 Gorffennaf (archebwch eich tocynnau yma) ond yn y cyfamser, archwiliwch waith y 12 artist perthnasol isod.
Dydd Mawrth Te a Theisen
Mae Dyddiau Mawrth Te a Theisen yn dychwelyd! Roedd yn ddigwyddiad misol poblogaidd ar ein safle blaenorol ym Mhenarth, a byddwn wrth ein boddau’n eich croesawu unwaith eto i’n horiel yn Fanny Street. Galwch draw ar Ddydd Mawrth 3 Awst rhwng 11am ac 1pm i gael paned, cacen a sgwrs, ac hefyd i fwynhau’r arddangosfa.

Llyfr a Mis
Y llyfr dan sylw fis yma yw Scaffold to the Moon, gan Huw Alden Davies!
Cafodd hwn ei gyhoeddi tua diwedd y flwyddyn y llynedd gyda chwmni ffotolyfrau Davies ei hun, iPidgeon. Mae Scaffold to the Moon yn hanes am fywyd, gobaith, breuddwydion a dyheadau ac yn deyrnged i’r rheiny sy’n ein siapio a’n hysbrydoli ni. Mae’n archwilio llinellau adrodd stori mewn ffotograffau a darluniau. Mae monograff / ffotolyfr Huw Alden Davies yn astudiaeth ddramatig, a doniol yn aml iawn, o dad yr artist - sgil-gynnyrch cenhedlaeth - a’i fam ymroddgar, sy’n gymeriadau canolog o’i ardal annwyl, y Tymbl.
Efallai y byddech chi hefyd yn mwynhau:
Tir/Môr
14 Awst yw’r cyfle olaf i weld arddangosfa Tir/Môr Mike Perry yn Oriel Thelma Hulbert yn Nyfnaint. Mae’r arddangosfa hon yn agored yn awr hefyd yn Oriel y Parc yn Nhyddewi tan Ionawr 2022.
Deep Dive Archive
Mae Artes Mundi yn cynnal clwb sy’n ymwneud yn rhannol â darllen ac yn rhannol ag athroniaeth, lle mae Yvonne Connikie yn rhannu enydau arwyddocaol mewn Hanes Celf Brydeinig Du. Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ail sesiwn o gyfres pedair rhan.
Cyhoeddiadau am Ŵyl yr Ymylon
Mae Gŵyl Northern Eye ym Mae Colwyn wedi cyhoeddi’r artistiaid cyntaf i gael eu cynnwys yn arddangosfeydd a digwyddiadau’r ymylon yr ŵyl ym mis Hydref. I ganfod rhagor am y gweithgareddau hyn, sy’n rhad ac am ddim, ac i weld pwy sydd wedi cyhoeddi, gwelwch y wefan isod.
Galwad Agored Peckham 24
Mae’r ceisiadau’n cau cyn hir yn yr alwad am gynigion ar gyfer yr arddangosfa yn Peckham 24 2021. Bydd y cynnig llwyddiannus wedi’i gynnwys mewn sioe flaenllaw yn Oriel Copeland, Llundain, ac mae’n rhan o genhadaeth yr ŵyl i hyrwyddo talent newydd mewn ffotograffiaeth gyfoes.