Sianel / 26 Gorff 2022

Cylchlythyr mis Gorffennaf


'just like in the pictures' © John Paul Evans

Y cyfle olaf i archebu: Y Gofod Domestig mewn Ffotograffiaeth a Chelf

Mae gennych amser o hyd i gadw eich lle yn ein digwyddiad nesaf, Y Gofod Domestig mewn Ffotograffiaeth a Chelf, sy’n digwydd yfory, Dydd Iau 28 Gorffennaf. Yn y drafodaeth banel hon bydd Cyfarwyddwr Ffotogallery, Siân Addicott (y cyflwynydd) yn cael cwmni John Paul Evans, Rosy Martin a Dafydd Williams, sydd oll yn artistiaid sy’n archwilio themâu tebyg yn eu gwaith eu hunain drwy amrywiol ddulliau.

Byddem yn argymell eich bod yn archebu lle, ond nid yw’n hanfodol.

Mwy o wybodaeth

Dathlu Pride yn Ffotogallery

Yn y cyfnod sy’n arwain at Pride Cymru, rydym wedi ymroddi mis Awst i gyd i raglen amrywiol o ddigwyddiadau sy’n dathlu’r gymuned LHDTQI+. Am ei fod yn cynnig gweithdai creadigol, trafodaethau panel, sgyrsiau ag artistiaid, dangos ffilmiau, a mwy, mae’n sicr y bydd rhywbeth i’w gael i bawb. Mae’r digwyddiadau i gyd am ddim ac yn agored i bawb – rhaid cadw lle ar gyfer rhai o’r ddigwyddiadau sy’n gyfyngedig o ran lle felly archebwch yn awr a pheidiwch â cholli cyfle.

Mwy o wybodaeth

© Caerbladon

More Than A Number yn WOMAD

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod ein harddangosfa ddiweddar More Than A Number, sy’n cynnwys gwaith gan ddeuddeg artist o ddeg gwlad, yn cael ei dangos erbyn hyn mewn nifer o safleoedd yn Malmesbury yn rhan o WOMAD. Gallwch weld yr arddangosfa yn Caerbladon, Llyfrgell Malmesbury ac Abaty Malmesbury hyd 30 Gorffennaf, a bydd curadur yr arddangosfa, Cynthia Sitei, yno Ddydd Sadwrn yma o 11am hyd 1pm i siarad am y prosiect.

Mwy o wybodaeth

Llyfr newydd yn y siop.

Rydym wrth ein boddau bod Carnifal ar werth yn awr yn ein siop lyfrau ar-lein ac yn yr oriel. Cafodd ei gynhyrchu gan Huw Alden Davies a’i ddylunio gan yr artist/curadur arobryn Abby Poulson. Mae Carnifal yn cychwyn gyda geiriau Dr. Paul Cabuts, sy’n adnabyddus am ei gyfraniad i Brosiect y Cymoedd, ac mae hyn yn gosod y tôn wrth i ni gychwyn ar daith drwy hanes gweledol carnifal Tymbl. Mae’n cynnwys gwaith gan ddeg ffotograffydd, yn cynnwys Huw Alden Davies, Peter Finnemore, Mohamed Hassan, Dan Staveley, Abby Poulson, Jason Thomas, Jaz Guise, Sal Nordan, Dorian Caba a Gwyn Edwards; ac mae’n cynnwys lluniau o nifer o archifau personol. Mae Carnifal yn ddogfen sy’n dathlu cymuned a chydweithio mewn cyfnod o ymraniad a phegynu gwleidyddol.

Gallwch gael copi isod.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd yr hoffech:

Leaf Drip, 2022 © Efa Blosse-Mason

Queer Reflections: On Your Face x Glynn Vivian

Mae’r gydweithfa On Your Face wedi dod ynghyd i lenwi gofod, i ymateb a myfyrio ar y gwaith celf sy’n rhan o gasgliad parhaol Glynn Vivian sy’n perthyn i bobl Abertawe. Mae’n cael ei ddangos tan 18 Medi

Mwy o wybodaeth

© Lee-Ann Olwage, Belinda

Dydd Sadwrn Arddangosfeydd yr Haf RPS

Dewch i wrando ar sgyrsiau rhad ac am ddim gyda ffotograffwyr sy’n arddangos, a chymryd rhan mewn sesiynau portreadau tunteip, ymuno â gweithdai cyanoteip, a mwynhau’r arddangosfeydd ffotograffiaeth cyfredol yn RPS ar ddydd Sadwrn 6 Awst.

Mwy o wybodaeth

© Jon Pountney

Us Here Now

Mae Us Here Now yn ddathliad gan Jon Pountney a Common Wealth o bobl sy’n byw a gweithio yn Nwyrain Caerdydd neu sy’n hanu o’r ardal honno, gyda’u straeon a’u grym. Mae’r arddangosfa i’w gweld erbyn hyn yn Oriel y Dyfodol, Pierhead, hyd 24 Medi.

Mwy o wybodaeth

Amgueddfa Dros Nos

Profwch noson lawn hwyl yn yr Amgueddfa o gysur eich cartref eich hun yn y digwyddiad rhithiol hwn i deuluoedd. Adeiladwch wersyll, crewch eich binocwlars eich hun, a pharatowch am antur hollol unigryw yn yr Amgueddfa. Archebwch eich tocynnau isod.

Mwy o wybodaeth