Newyddlen mis Mehefin

Unseen
Mae’n bleser mawr gennym agor arddangosfa Suzie Larke Unseen yr wythnos hon! Mae’r arddangosfa’n ymdrin â materion lles a gwytnwch, ac yn defnyddio ffotograffiaeth i helpu pobl i fynegi eu profiadau o anawsterau meddyliol.
Rydym yn dangos yr arddangosfa’n o 30 Mehefin hyd 17 Gorffennaf; amseroedd agor ein horiel yw Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 12pm hyd 5pm.
Does dim rhaid i chi archebu o flaen llaw i weld yr arddangosfa yn ystod y dydd, ond mae amser ar ôl i hyd i sicrhau eich tocyn ar gyfer y digwyddiad agoriadol heno (sy’n cynnwys lansio cyhoeddiad newydd Suzie).
Mae’r oriel yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion COVID; dylai pawb wisgo masgiau wyneb bob amser heblaw am y bobl sydd wedi eu heithrio rhag gwneud, ac mae hylif diheintio’r dwylo ar gael drwy’r lle i gyd. Rydym yn annog ymwelwyr i lawrlwytho Ap COVID-19 y GIG a sganio’r cod QR wrth iddynt fynd i mewn i’r oriel.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r oriel!
Diwrnod Lles y Teulu
Ymunwch â ni Ddydd Sadwrn yma, 3 Gorffennaf, i fwynhau diwrnod lles y teulu AM DDIM a fydd yn orlawn o weithgareddau i bob oedran – dychmygwch, Drag Queen Story Hour UK, Tai Chi a chreu collage! Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio gyda Suzie Larke i dynnu a golygu eich lluniau eich hun. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar y diwrnod, ac i archebu lle ar gyfer gweithgareddau, dilynwch yddolen isod.

© Yoriyas Yassine Alaoui
Ffotograffiaeth ac Affrica: Mwy Na Dim Ond Rhif
Yn rhan o’n cyfres Ffotograffiaeth ac Affrica, mae’n bleser mawr iawn gennym lansio More Than a Number ar 14 Gorffennaf 2021. Mae’r prosiect hwn yn gwahodd y gynulleidfa i ymddiddori yn y gwaith eithriadol hwn sy’n procio’r meddwl gan 11 o ffotograffwyr o bob cwr o Affrica. Mae’n ein hannog i edrych yn fanwl ac yn glir i wyneb yr unigolyn o’n blaenau a dechrau sgwrsio. Mae wedi ei seilio ar dair thema: Cynrychioli Ehofndra, Parthau Cysylltu a Chymdeithasoldeb Radicalaidd, a bydd y rhain yn cael eu harchwilio gyda’r artistiaid cysylltiedig drwy gyfres o symposia ac erthyglau ar Ffotoview.
Bydd y symposiwm cyntaf ar zoom ar Ddydd Mercher 14 Gorffennaf, 2-4pm a bydd yn cynnwys trafodaeth gydag artistiaid a churaduron sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Llyfr y Mis
I ddathlu ei gyhoeddiad yr wythnos diwethaf, Many Voices, One Nation yw Llyfr y Mis ar gyfer mis Mehefin! Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu at ei gilydd ugain cyfraniad, hyd yn hyn, gan artistiaid sydd wedi eu seilio yng Nghymry i’r rhaglen Nifer o Leisiau, Un Genedl; dewch yn ôl yma eto i weld rhagor o gyhoeddiadau ynglŷn â’r prosiect hwn!
Penodiad Newydd
Mae’n bleser mawr gennym groesawu Cath Cains i dîm Ffotogallery fel rheolwr Dysgu ac Ymgysylltiad newydd. Mae hi’n gyfrifol am ymgysylltiad y cyhoedd, allgymorth cymunedol a threfnu gweithdai a gweithgareddau i bob oedran. Byddai Cath wrth ei bodd yn clywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni!
Efallai bod gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd:
Land/Sea - Mike Perry
Mae arddangosfa deithiol Ffotogallery: Land/Sea gan Mike Perry yn agor yn Oriel y Parc yn St David's o 10 Gorffennaf. Mae’r arddangosfa’n dod â dau o brosiectau diweddar Perry at ei gilydd, Wet Deserts a Môr Plastig.
Celf ar y Cyd
Llongyfarchiadau’r i’r artist Antonia Osuji o Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 am gael ei chomisiynu ar gyfer y prosiect diweddaraf gan Gyngor Celfyddydau Cymru.