Sianel / 4 Gorff 2022

Cylchlythyr Mehefin

© Kamila Jarczak

Rydym wedi agor! Galwch yn yr oriel o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn 12-5pm i gael cipolwg ar ein harddangosfa newydd What is lost… what has been, sy’n dangos gwaith gan John Paul Evans. Mae gennym gyfres lawn o ddigwyddiadau ar y gweill dros y misoedd nesaf hefyd, felly disgwyliwch ragor o fanylion.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cynthia Sitei yn ymuno â thîm Ffotogallery yn barhaol o fis Gorffennaf ymlaen mewn rôl ddatblygu newydd fel Curadur. Bydd Cynthia yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr ac yn canolbwyntio ar ymchwilio a datblygu ein rhaglen arddangosfeydd. Ymunodd Cynthia â Ffotogallery yn 2021 fel Cynhyrchydd Creadigol ar ôl derbyn dyfarniad bwrsariaeth greadigol Weston Jerwood. Ers hynny mae hi wedi arwain y gwaith curadu a chynhyrchu ar nifer o brosiectau llwyddianus yn cynnwys More Than a Number a Where’s My Space?, gan ddod yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Yn gynharach fis yma cafodd Cynthia ei dewis i ymuno â’r Rhwydwaith Celf Prydeinig a fforwm curadu rhyngwladol yr Yale Center for British Art (YCBA). Bydd y grŵp dethol hwn o hyd at 12 cyfranogwr yn cael cyfnod preswyl o wythnos yn New Haven, UDA ym mis Hydref.

Dyma gyhoeddodd BAN: “Gyda phwyslais ar ddysgu ar y cyd, meddwl yn archwiliol, rhannu a myfyrio, bydd y Fforwm yn gyfle unigryw i archwilio hanes, profiad presennol a dyfodol curadu celf Brydeinig, creu cysylltiadau proffesiynol newydd, a mwynhau mynediad breiniol at gasgliadau ac adnoddau gwych yr Yale Center for British Art.”

© Kamila Jarczak

Dydd Mawrth Te a Theisen

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf, 11am - 1pm

Mae Dydd Mawrth Te a Theisen yn ôl fel digwyddiad cymdeithasol misol. Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis yn ein horiel hyfryd i fwynhau sgwrs gyfeillgar dros ddiod boeth a chacen. Byddwn yn agored rhwng 11am a 1pm gyda staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfeydd a ddangoswn.

Mwy o wybodaeth

'Walter' © John Paul Evans

Y Gofod Domestig Mewn Ffotograffiaeth a Chelf

Dydd Iau 28 Gorffennaf, 6-8pm

Law yn llaw â’n harddangosfa bresennol mae’n bleser mawr gennym gynnal trafodaeth panel ar Ddydd Iau 28 Gorffennaf, yn archwilio’r gofod domestig mewn ffotograffiaeth a chelf. Gan weithio gyda’i bartner Peter, mae John Paul yn defnyddio portreadaeth berfformiadol, bywyd llonydd a collage i ailddychmygu mannau domestig a chyhoeddus. O ddelweddau manwl sydd wedi eu hadeiladu’n ofalus, i ddogfennaeth ystyrlon o gymyl-luniau, mae’r gwaith yn chwareus ac yn ingol o dyner ar yr un pryd.

Hoffem i chi ymuno â ni i fwynhau noson o sgwrsio i’ch ysbrydoli rhwng 6 ac 8pm yn ein horiel hyfryd yn Cathays. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn hir. Byddem yn argymell eich bod yn cadw lle ond nid yw’n hanfodol.

Mwy o wybodaeth

Sesiwn Holi ac Ateb Dewis Gymunedau

Hoffech chi wybod mwy ynglŷn â sut i wneud cais ar gyfer galwad agored Dewis Gymunedau? Yn ddiweddar cawsom sesiwn holi ac ateb ond, os oeddech chi wedi ei golli, gallwch ei wylio ar-lein yma. Os nad yw’n ateb eich cwestiynau i gyd, ewch i’n gwefan neu gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol.

Mae’r alwad agored hon am artistiaid a chydweithfeydd sy’n defnyddio eu celf i greu a datblygu cyrff o waith sy’n mynegi eu barn a’u sylwadau ynglŷn â pherthyn a chynhwysiad.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Dymor Diwylliant India/DU Ynghyd gan y British Council sydd newydd ei gyhoeddi, sy’n dathlu’r berthynas hirsefydlog rhwng y ddau.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd yr hoffech:


© Helen Sear

Cymrodoriaeth Cymru Fenis 10

Mae Cymrodoriaeth Cymru Fenis 10 yn ddyfarniad taledig 6 mis unigryw i ddeg unigolyn sy’n gweithio yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 7 Gorffennaf 2022 am 5pm.

Mwy o wybodaeth

Gŵyl yr Ymylon Cwiar

Dan arweiniad y tîm sy’n sail i’r Queer Emporium, mae’r ŵyl hon yn ymestyn drwy’r ddinas gyfan ac yn cynnwys theatr, comedi, cerddoriaeth fyw, ffilm, drag, arddangosfeydd celf weledol, dawns a’r celfyddydau digidol. Gwelwch y rhaglen lawn isod.

Mwy o wybodaeth

Portread o Brydain

Mae Portread o Brydain, sydd yn ei chweched flwyddyn erbyn hyn, yn ddathliad o hunaniaeth; yn gyfle i ddathlu amrywiaeth cenedl sy’n newid. Eleni gwahoddir pob ffotograffydd i gynnig un portread yn rhad ac am ddim. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2022.

Mwy o wybodaeth

Cynllun Mentora i Raddedigion

Mae Redeye wedi lansio eu Cynllun Mentora i Raddedigion 2022, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad i raddedigion ffotograffiaeth newydd tra maen nhw’n symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd ar ôl gadael y brifysgol. Mae’r ceisiadau’n agored i fyfyrwyr BA ac MA yn eu blwyddyn derfynol, a’r dyddiad cau yw 18 Gorffennaf.

Mwy o wybodaeth