Sianel / 1 Chwef 2022

Meet the Kickstarters! Freya Bruhin

Mae Ffotogallery wedi cyfweld pob un o aelodau ein tîm Kickstart, a threfnwyd hynny gan un o’r bobl ar Kickstart Joshua Jones, am eu bod nhw’n eu gadael ni nawr i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r cyfweliadau blog hyn yn ffordd o ddathlu eu creadigedd a’u gwaith caled, i ddangos pwy ydyn nhw ac i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i Ffotogallery yn ystod yr amser maen nhw wedi bod yma. Os ydych chi wedi bod i’r Ŵyl Diffusion neu i unrhyw rai o’n harddangosfeydd a'n digwyddiadau, yna byddwch wedi gweld eu hwynebau’n eich croesawu wrth y drws, yn paratoi diodydd neu’n dogfennu’r digwyddiad.

Gair amdanoch chi:

Rwy’n ddarlunydd o Norwich, Norfolk. Mae gen i radd BA mewn darlunio o Brifysgol Brighton, ac rwy’n rhedeg busnes bach yn gwerthu dillad a phrintiau o’m gwaith o dan yr enw ‘Slime Pixie’

Gallwch weld fy ngwaith celf ar fy nghyfrif Instagram: @slimepixie.art

Beth yw rôl eich swydd yn Ffotogallery, a beth yw diwrnod gwaith arferol i chi?

Rwy’n Gynorthwyydd Technegol yn Ffotogallery. Mae’r hyn a wnaf o ddydd i ddydd yn amrywio’n sylweddol. Rwyf wedi gweithio’n bennaf mewn trefnu digwyddiadau yn y gymuned, fel ffeiriau a gweithdai, a gweithio ynddyn nhw. Rwy’n aml yn helpu gyda thasgau mwy ymarferol fel fframio a thynnu fframiau gwaith celf, a gosod a goruchwylio arddangosfeydd.

Ydych chi wedi gweithio ar arddangosfa neu brosiect yr ydych yn arbennig o falch ohonynt?

Roeddwn yn hapus iawn â’r ffordd y gweithiodd y ffair sînau y bûm yn helpu i’w threfnu yng Ngwesty’r Westgate yng Nghasnewydd ar ddiwedd Gŵyl Diffusion. Roedd pawb yn yr oriel wedi cyfranogi mewn un ffordd neu’r llall yn y gwaith o drefnu’r digwyddiad, ond roedd cyfran fawr o’r cyfrifoldeb arnaf innau a Cath. Roeddwn i’n ansicr a fyddai fy sgiliau trefnu’n ddigon da i’r gwaith, ond daeth pethau at ei gilydd yn naturiol iawn. Roedd gweld pobl o Gasnewydd yn cymryd diddordeb mor fawr yn y digwyddiad yn foment o falchder mawr i mi.

Oes gennych chi hoff atgof o weithio yn Ffotogallery?

Er bod llawer o atgofion hwyliog iawn gennyf o weithio yn yr oriel, byddwn yn dweud bod y mwyafrif ohonyn nhw’n gysylltiedig â gweithio gyda gweddill y tîm. Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda chynifer o bobl frwdfrydig o greadigol. Ymysg fy hoff ddyddiau roedd diwrnod agor sioe Maryam Wahid, a pharti cloi Diffusion, oherwydd cefais ddod i adnabod y bobl yr oeddwn yn gweithio â nhw go iawn, ar lefel fwy personol.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl Ffotogallery?

Yn ddelfrydol, byddwn yn hoffi parhau i weithio yn yr un maes. Rydw i wedi bod yn gwneud cais am wahanol swyddi mewn orielau ac mae’n bosibl bod gen i ddiddordeb mewn gwneud gradd Meistr mewn Curadu hefyd, am fod fy amser yn Ffotogallery wedi cadarnhau fy niddordeb enfawr mewn curadu.

Instagram: @slimepixie.art