Sianel / 2 Mai 2018

Cwrdd â'r Tîm - Phil Scully

Dywedwch ychydig bach wrthym amdanoch chi'ch hun

Dw i'n 30 mlwydd oed, ac fe'm ganwyd yng Nghaerdydd. Astudiais Hyrwyddo Ffasiwn a Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru (Prifysgol Morgannwg bryd hynny). Yn ogystal â fy rôl yn Ffotogallery, dw i hefyd yn gweithio i gwmni bwyd stryd ardderchog Ffwrnes yng Nghaerdydd, sy'n gweini peth o'r pizza gorau yng Nghymru.

Beth yw eich rôl yn Ffotogallery a beth mae hynny'n ei olygu?

Fi yw'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu newydd. Dechreuais fel ‘intern’ rhyw bedair blynedd yn ôl - treuliais rai misoedd yn gweithio gyda'r tîm ar 'Diffusion: Looking for America' a 'Bedazzled'. Dychwelais yn 2017 i wneud ychydig o waith llawrydd ar ŵyl 'Diffusion: Revolution' a helpu i ehangu a datblygu presenoldeb yr ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol. Nawr dw i'n edrych ymlaen at ddatblygu'r rôl honno ymhellach fel aelod o'r tîm craidd.

Beth a'ch ysbrydolodd chi i weithio yn y celfyddydau?

Roedd fy Mam yn gweithio gyda sefydliad celfyddydol pan oeddwn i'n blentyn felly cefais f'ysbrydoli gan y diwydiannau creadigol yn gymharol ifanc.

Oes gennych chi hoff Brosiect neu Arddangosfa ers bod gyda Ffotogallery?

Ar hyn o bryd dw i'n gweithio ar brosiect Platfform Ffotogallery, rhaglen breswyl ar Instagram sy'n caniatáu i ffotograffwyr addawol rannu eu gwaith gyda chyfoedion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae'n fodd iddyn nhw ddatblygu eu cynulleidfa ac i dderbyn adborth. Dw i'n credu ei bod hi'n bwysig bod gan dalentau newydd rwydwaith er mwyn eu helpu nhw i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Rhowch ffaith ddiddorol amdanoch chi'ch hun i ni

Daliais law Gwen Stefani un tro wrth iddi ganu i fi!