Sianel / 20 Ion 2022

Cyhoeddi mai Siân Addicott yw’r Cyfarwyddwr newydd

Mae Ffotogallery yn falch o gyhoeddi mai Siân Addicott fydd ei Chyfarwyddwr newydd. Bydd Siân yn ymuno â Ffotogallery ar ddechrau Ebrill o’i rôl bresennol fel Pennaeth Ffotograffiaeth Israddedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Ymunodd Siân â’r Brifysgol yn 2013, cyn dod yn Gyfarwyddwr Rhaglen y rhaglen BA Ffotonewyddiaduraeth a Dogfennaeth yn 2016. Yn 2019, cymerodd arweinyddiaeth y rhaglen ffotograffiaeth israddedig ehangach, gan gwmpasu Ffotograffiaeth Ddogfennol ac Actifaeth Weledol a Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Cyn ymuno â’r Brifysgol yn 2013, treuliodd Siân wyth mlynedd yn gweithio fel Golygydd Rhyngwladol yn Camera Press, un o asiantaethau ffotograffiaeth annibynnol fwyaf y DU.

Dywedodd Siân “Rwy’n falch iawn i gael y cyfle i arwain tîm Ffotogallery ac adeiladu ar ei lwyddiant fel cartref ffotograffiaeth gyfoes yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at archwilio partneriaethau cydweithredol cyffrous a newydd gyda ffotograffwyr, artistiaid a sefydliadau, a gyda chymunedau ledled Cymru a thu hwnt, a helpu i ddatblygu potensial Ffotogallery yn dilyn ei adleoliad diweddar. Ar adeg pan fo etifeddiaeth ffotograffiaeth a’i rôl barhaus wrth lunio hunaniaethau diwylliannol yn cael ei herio a’i hailystyried, yn gwbl briodol, ni fu erioed gyfle mwy amserol i sicrhau bod Ffotogallery yn ofod croesawgar a chynhwysol ar gyfer ffotograffiaeth flaengar yng Nghymru. “

Dywedodd Mathew Talfan, Cadeirydd Ffotogallery, “Rydym wrth ein bodd gyda phenodiad ein Cyfarwyddwr newydd, ac yn credu y bydd Siân yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl. Mae ei gwybodaeth ddofn o ymarfer ffotograffig, ei chefndir cyfunol mewn lleoliadau masnachol ac addysg yn ogystal â gwir ddealltwriaeth o hunaniaethau diwylliannol yng Nghymru a’i hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol yn creu llwyfan cryf iawn i arwain Ffotogallery arno.”