Sianel / 26 Tach 2020

Newyddlen mis Tachwedd

© Jack Osborne

Nifer o Leisiau, Un Genedl 2

4 Rhagfyr 2020 – 23 Ionawr 2021

Oriau Agor: Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 11am – 5pm (Ar gau o 20 Rhagfyr 2020 – 5 Ionawr 2021 ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.)

Wrth i Gymru ddod allan o wyth mis heriol cyntaf y pandemig, mae Ffotogallery yn ailagor ei ddrysau ar 4 Rhagfyr gydag arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol ein cenedl. Mae Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 yn cynnwys gwaith deuddeg o ffotograffwyr dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae’r arddangosfa’n cyfleu cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr.

Cychwynnodd y rhaglen Nifer o Leisiau, Un Genedl ei bywyd fel arddangosfa deithiol a ddatblygwyd fel cydweithrediad rhwng Ffotogallery a Senedd Cymru, oedd yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoliad yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi galluogi i Ffotogallery hefyd wneud ei oriel yn ddiogel rhag Covid ac yn groesawgar i ymwelwyr.

Gallwch ganfod rhagor am bob un o’r artistiaid sy’n arddangos drwy edrych ar ein tudalen benodol i’r prosiect yn y fan yma.

Mwy o wybodaeth

Ymweld â Ffotogallery

Rydym wedi ail drefnu’r oriel a’r dderbynfa i ganiatáu i bobl gadw pellter cymdeithasol a mwynhau’r arddangosfa heb orfod cyffwrdd ag unrhyw beth. Rydym hefyd wedi diweddaru ein technoleg, toiledau i’r anabl, ein llyfrgell a’r seddi drwy’r adeilad cyfan gan wneud profiad Ffotogallery yn fwy hygyrch i ymwelwyr ar-lein a’r rhai sy’n ymweld yn gorfforol. Rydym yn cydnabod na fyddwn yn dychwelyd i wasanaeth arferol yn fuan iawn, ond rydym yn gwahodd ein cyfeillion, ein cefnogwyr a’r cyhoedd i ymuno â ni ar y daith honno.

Argymhellwn eich bod yn archebu eich ymweliad â Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 yn Ffotogallery o flaen llaw gan ddefnyddio’r ddolen hon. Os na fyddwch wedi archebu eich ymweliad o flaen llaw, efallai y bydd gofyn i chi aros tu allan os ydyn ni wedi cyrraedd ein uchafswm ymwelwyr.

Mae’r oriel yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion diogelu rhag COVID. Dylid gwisgo masgiau wyneb bob amser o fewn yr adeilad heblaw bod y gwisgwr wedi’i eithrio, ac mae hylif diheintio’r dwylo ar gael drwy’r adeilad cyfan. Rydym yn annog ymwelwyr i lawrlwytho Ap COVID-19 y GIG a sganio’r cod QR wrth fynd i mewn i’r oriel.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ymweld, yna mae croeso i chi gysylltu â ni ar [email protected] neu 029 2034 1667.

Archebu Nawr

Y cyfle olaf i wneud cais: Cynhyrchydd Creadigol

Dim ond ychydig o amser sydd ar ôl i wneud cais am rôl y Cynhyrchydd Creadigol yn Ffotogallery! Mae hwn yn gyfle i dreulio deuddeg mis yn gweithio i ni mewn cyfnod arbennig o gyffrous; eleni rydym yn lansio tymor o weithgareddau ymgysylltu ac arddangosiadau diwylliannol amrywiol yn ein canolfan newydd yng Nghaerdydd. Byddwn yn cymryd arddangosiadau Ffotogallery ar daith, yn creu cynnwys ar-lein ac yn darparu’r bumed Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, sy’n digwydd bob yn ail flwyddyn, yn hydref 2021.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 27 Tachwedd, 5pm

Mwy o wybodaeth

#IV-Anna Aurora Astrup-Plate1 Astrups Horn © Tonje Bøe Birkeland

Yr Artist dan Sylw ym mis Tachwedd – Tonje Bøe Birkeland

Ganed Tonje Bøe Birkeland yn Bergen, Norwy yn 1985 a derbyniodd MFA o Academi Celf a Dylunio Bergen. Ers 2008 mae hi, drwy The Characters, wedi rhoi safle i ferched o fewn y dirwedd wrth archwilio dilysrwydd hanes. Er bod ysgogiadau rhamantus y crwydrwr gwrywaidd wedi eu dogfennu’n dda, ym mhrosiect Birkeland mae hi’n dangos y fforiwr benywaidd mewn Tiriogaeth Anhysbys. O flaen yr arwres mae’r daith ymchwil fawr yn ymrithio; oddi tani, mae hanes yn ffurfio.

Mwy o wybodaeth