Sianel / 29 Hyd 2020

Newyddlen mis Hydref

Y Diweddaraf am Nifer o Leisiau, Un Genedl 2

© Abby Poulson

Roeddem wedi bwriadu’n wreiddiol i’r arddangosfa Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 agor ganol mis Tachwedd ond mae wedi ei ohirio am ychydig oherwydd y cyfnod atal byr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Byddwn yn ail agor yn awr o 26 Tachwedd, a bydd slotiau y gallwch eu harchebu ar gael yn ystod yr ychydig ddiwrnodau cyntaf er mwyn cadw nifer ein hymelwyr ar y lefelau a ganiateir. Bydd cyfle hefyd i bobl sy’n methu ymweld â ni yng Nghaerdydd fwynhau’r arddangosfa ar-lein ac ymuno â sgyrsiau, dadleuon a gweithgareddau eraill. Bydd rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan cyn hir ac yn newyddlen mis nesaf.

Mwy o wybodaeth



Cyfle i Gynhyrchydd Creadigol – Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood

Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Creadigol i ymuno â’r tîm yn Ffotogallery am ddeuddeg mis. Cewch eich cefnogi i gyflawni eich prosiect creadigol eich hun, i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad drwy gydol y flwyddyn, ac i wella eich rhagolygon gyrfaol.


Mae’r cyfle hwn yn un o hanner cant o Fwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-22, sef rhaglen sy’n rhoi cyfleoedd datblygu gyrfa i unigolion dawnus o gefndiroedd sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd ar draws y celfyddydau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm Dydd Gwener 27 Tachwedd 2020

Mwy o wybodaeth


Yr Artist dan Sylw ym mis Hydref – Robert Rutöd

© Robert Rutöd

Yr artist o’n cronfa ddata Rhagolygon Ewropeaidd a fydd o dan sylw fis yma yw’r ffotograffydd o Awstria, Robert Rutöd gyda’i brosiect ‘Right Time Right Place’.

“Mae’r delweddau’n cylchdroi o amgylch y cwestiwn ‘a yw hi’n bosibl i berson fod yn y lle cywir ar yr amser cywir?’ A yw’r cyflwr delfrydol o ofod ac amser yn rhywbeth a roir i ni neu a ydyw’n gyflwr rydyn ni wedi bod yn byw ynddo ers amser hir heb sylweddoli mor ffodus ydyn ni? Gobeithio nad ydw i wedi llwyddo i ateb y cwestiwn hwn.”

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd bod gennych ddiddordeb yn y canlynol:


Swydd Trysorydd yn Ffotogallery

Dyma’r cyfle olaf i wneud cais i ymuno â bwrdd Ffotogallery fel Trysorydd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Hydref 2020, 5pm.

Mwy o wybodaeth



Ffotogallery a Diffusion ar AM Cymru

Gallwch ganfod Ffotogallery a Gŵyl Diffusion ar AM Cymru erbyn hyn, sef platfform digidol newydd sy’n ymrwymo i arddangos y gerddoriaeth a’r gelfyddyd orau o Gymru.

Mwy o wybodaeth



Cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Grant India / Cymru

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi enwau’r artistiaid sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau Dychmygu’r Genedl-wladwriaeth, sef cydweithrediad rhwng Ffotogallery/Gŵyl Diffusion a Chennai Photo Biennale.

Mwy o wybodaeth


Gweithdy Mygydau Calan Gaeaf

Os na allwch feddwl am syniadau ar gyfer gwyliau’r hanner tymor, beth am ystyried y gweithdy Mygydau Calan Gaeaf hwn gyda Megan Elinor a Chelfyddydau Canolbarth Cymru? Mae’n addas i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Mwy o wybodaeth



Chapter o’ch cartref

Gwelwch raglen ar-lein Chapter o ffilmiau rhithwir sy’n cael eu dangos a sgyrsiau a digwyddiadau comedi sy’n digwydd yn ystod cyfnod clo presennol Cymru.

Mwy o wybodaeth

Go Home Polish ar All 4

Gallwch wylio Go Home Polish yn awr drwy’r gwasanaeth dal i fyny ar All 4, ynghyd â’r gweithiau eraill sydd ar y rhestr fer ar gyfer Iris 2020. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd draw i irisprize.org i ddal i fyny â digwyddiadau’r ŵyl hefyd.

Mwy o wybodaeth