Sianel / 13 Medi 2021

Opportunity: Cyfarwyddwr

Ffotogallery yw un o sefydliadau blaenllaw’r DU ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes a chelfyddyd y lens. Mae’r sefydliad wedi ei seilio yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, ac mae’n comisiynu ac yn cyflwyno gwaith rhagorol ac amrywiol o Gymru a’r byd, yn cefnogi datblygiad artistiaid, ac yn arddangos gwaith cyffrous newydd a ddatblygwyd yng Nghymru.

Ers ei ffurfio yn 1978, mae Ffotogallery wedi bod ar reng flaen y datblygiadau newydd mewn ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens yng Nghymru a thu hwnt, gan annog y cyhoedd i ddeall ffotograffiaeth a chael gwerthfawrogiad ehangach o’r rôl y mae’n ei chwarae yn ein dealltwriaeth o’r byd o’n hamgylch.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol ac uchelgeisiol i gymryd rôl y Cyfarwyddwr, a darparu arweiniad artistig a strategol i’r sefydliad.

Gwelwch Becyn y Swydd i gael rhagor o fanylion y rôl, ynghyd â rhagor o wybodaeth gefndir am Ffotogallery.

Y Dyddiad Cau: 29 Hydref 2021