Sianel / 12 Mai 2021

Ffotograffiaeth a... Lles

Recordiad o’r drafodaeth ar-lein a gafwyd ar 29 Ebrill 2021, dan arweiniad Ffotogallery. Mae Mary Farmilant sy’n gweithio o Chicago yn cyflwyno dau o’i phrosiectau, 'See You On The Other Side' a 'Natura Consonant', ac yn dilyn hynny mae Suzie Larke mewn trafodaeth â’r seicolegydd cwnsela Dr Annie Beyer a’r ddigrifwraig Jayde Adams, am ei phrosiect diweddaraf ‘Unseen’.