Sianel / 17 Chwef 2023

Pink Portraits Revisited

Yn ystod Mis Hanes LHDT+ 2023 bydd y genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol LHDTC+ sy’n gweithio tu ôl i’r camera mewn ffilm a theledu’n cael eu dathlu gyda deg portread newydd a gymerwyd gan y ffotograffydd o Gymro Dylan Lewis Thomas. Dewiswyd Dylan o’n galwad agored ar gyfer y comisiwn Pink Portraits allan o nifer fawr o geisiadau o safon eithriadol o uchel.

Meddai Dylan: “Rwy’n hynod o ddiolchgar ac wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y comisiwn hwn – fel dyn hoyw a balch, rwyf wrth fy modd cael tynnu llun pobl ddawnus LHDTC+ sydd mor fedrus ac sy’n ysbrydoli”.

Mathew David, Actor/Writer/Director

Gellir gweld Pink Portraits Revisited ar hyd a lled Caerdydd yn ystod Mis Hanes LHDT+ mewn mannau cyhoeddus a gyflenwir gan JackArts yn ogystal ag adeiladau ar draws y ddinas. Gŵyl Gwobr Iris sy’n cynhyrchu’r prosiect mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Ffotogallery a Phrifysgol De Cymru.

Cafodd y prosiect Pink Portraits Revisited ei lansio gan Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd Colin Riordan yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar Ddydd Llun 13 Chwefror. Yn ymuno â Dylan ar gyfer y lansiad roedd pob un o’r deg a eisteddodd ar gyfer y portreadau, a’r wraig wadd oedd cyd-sylfaenydd Mis Hanes LHDT+ Sue Sanders.

Meddai Ben Lewis, Cyfarwyddwr Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn brosiect gwych i Brifysgol Caerdydd gymryd rhan ynddo yn ystod Mis Hanes LHDT+, yn enwedig am ei fod yn cael ei roi at ei gilydd gan Wobr Iris a oedd yn bartneriaid yn y Pink Portraits gwreiddiol12 mlynedd yn ôl.

“Rwyf wrth fy modd hefyd bod Sue Sanders a sefydlodd y Mis Hanes LHDT+ wedi gallu ymuno ar gyfer y lansiad. Mae’r portreadau’n wych, ac rwy’n arbennig o falch bod pedwar o’r rhai a eisteddodd yn raddedigion o Brifysgol Caerdydd.”

Jess Hope Clayton, Digital Journalist / Content Creator

Y deg eisteddwr sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon yw:

Bradley Siwela (Fo/Ef) Cynhyrchydd | Camera Cynorthwyol | Gwrandäwr gwych

Efa Blosse Mason (Hi/Nhw) Animeiddiwr | Cyfarwyddwr | Yn caru straeon gwerin a mytholeg

El Bergonzini (Nhw/Eu) Golygydd | Rheolwr Llawr | Yn caru coffi

Jess Hope Clayton (Hi) Newyddiadurwr Digidol | Crëwr Cynnwys | Cantores yn y Gawod

Liam Ketcher (Fo/Ef) Gweithredwr Camera | Newyddiadurwr | Yn caru heicio!

Margarida Maximo (Hi) Ffotograffydd | Crëwr Cynnwys | Yn caru grisialau

Mathew David (Fo/Ef) Actor | Ysgrifennwr | Ffanatig Batman

Oojal Kour (Hi) Ysgrifennwr | Ffotograffydd | Yn caru cathod

Rebs Fisher-Jackson (Hi) Sgriptiwr Ffilmiau | Goruchwyliwr Sgriptiau | Swiftie

Seth Edmonds (Fo/Ef) Gweinyddwr Gŵyl | Cynhyrchydd | Yn caru cathod

Meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: “Mae hon yn ffordd wych o ddathlu mis Hanes LHDT+. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn ddathlu talent newydd drwy gomisiynu ac arddangos gwaith Dylan Lewis Thomas.

"Mae’n gyffrous bod y portreadau hyfryd hyn yn mynd i gael eu gweld drwy Gaerdydd gyfan, gan dynnu sylw at y bobl greadigol sydd ynghudd yn aml iawn yn gweithio tu ôl i’r camera. Mae’r eisteddwyr a ddewiswyd yn cynrychioli rhai o’r doniau mwyaf amrywiol ac egnïol sydd gennym yma yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at rannu portreadau Dylan gyda chi."

Bradley Valentine Siwela, Film Student

Y Pink Portraits gwreiddiol: Yn 2010 aeth Gwobr Iris, ynghyd â Chyngor Ffilmiau’r DU ati i gomisiynu’r ffotograffydd portreadau enwog o’r Alban, Donald MacLellan, i dynnu llun 20 o bobl broffesiynol sy’n hoyw a lesbiaidd ac sy’n gweithio o flaen a thu ôl i’r lens. Roedd y rhain yn cynnwys Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Syr Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward a Syr Antony Sher.

I ddarllen rhagor am y prosiect a gweld y gyfres lawn o bortreadau, edrychwch yma.