Sianel / 7 Mai 2020

The Place I Call Home yr Emiraethau Arabaidd Unedig - Ffilm

Yn dilyn cyflwyno’r canllawiau lleol am yr argyfwng coronafeirws presennol, mae’r arddangosfa The Place I Call Home yng Nghanolfan Gelfyddydau Maraya ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd. Gallwch weld yr arddangosfa ei hun ar-lein erbyn hyn drwy fynd ar daith gerdded rithwir 360° o’i chwmpas ac, yn ogystal, mae Canolfan Gelfyddydau Maraya wedi cynhyrchu’r ffilm hon lle gallwch ganfod rhagor am y prosiect cyfan, yn ogystal â chwrdd â rhai o’r artistiaid a gwrando arnyn nhw’n siarad am eu gwaith a’u syniadau o gartref.

Mae dyddiadau’r arddangosfa wedi eu hymestyn erbyn hyn felly, pan fydd yr oriel yn ail agor bydd amser ar ôl o hyd i chi ymweld yn bersonol. Gwiriwch wefan y safle i gael rhagor o fanylion.