Sianel / 31 Awst 2021

Taith Rithiol – Unseen

Os nad oeddech chi wedi gallu ymweld â’r oriel yn bersonol i weld arddangosfa Suzie Larke Unseen, neu os ydych yn syml iawn eisiau gweld y gwaith eto, mae’n bleser mawr gennym allu cynnig taith rithiol newydd o’r sioe sy’n cael ei chyflwyno yn ein horiel yn Fanny Street.

Amcan Unseen yw helpu pobl i fynegi eu profiadau drwy gyfrwng ffotograffiaeth gysyniadol. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth a thrafodaeth am les meddyliol a’n huno ni yn y sylweddoliad bod pawb yn mynd drwy gyfnodau anodd – ac yn gallu eu goresgyn.