Sianel / 14 Awst 2022

Taith Rithwir: What is lost...what has been

Mae’r casgliad hwn o gyfresi John Paul Evans, sy’n cael eu harddangos gyda’i gilydd am y tro cyntaf, yn gofyn cwestiynau am berthynas ffotograffiaeth gyda chof, cariad, colled a chynrychiolaeth.

Gan weithio gyda’i bartner Peter, mae’r artist yn defnyddio portreadu perfformiadol, bywyd llonydd a collage i ailddychmygu mannau cyhoeddus a domestig. O ddelweddau manwl sydd wedi eu hadeiladu’n ofalus i ddogfennu cymyl-luniau yn ystyrlon, mae’r gwaith yn chwareus ac hefyd yn ingol o dyner. Mae gwaith John Paul Evans yn ein hatgoffa o’r traddodiadau gweladwy, a’r strwythurau cymdeithasol all fod yn anweladwy, sy’n eithrio grwpiau sy’n dioddef gorthrwm, gan gynnwys y gymuned LGBTQIA+ a nifer o grwpiau eraill hefyd.