Sianel / 6 Ebr 2020

Gair Wythnosol

Croeso i’r ail rifyn o air wythnosol newydd Ffotogallery! Tra bydd ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, byddwn yn dal ati i weithio o adre i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

© Robxn Gough Photography

Amser Cystadlu

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffeg #colour yr wythnos diwethaf, Robxn Gough Photography (@robxngoughphotography)! Diolch i bawb a roddodd gynnig arni – dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn sefydlu oriel ar-lein o’r holl geisiadau a dderbyniwn, felly cadwch eich llygad ar ein tudalen ‘Sianel’.

Rydym yn cychwyn yr wythnos gyda thema newydd – onglau. Gallwch ddehongli’r thema fel y mynnwch - er enghraifft, gallech roi cynnig ar dynnu lluniau o un gwrthrych o wahanol onglau. Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar hyn ein hunain – dyma rai esiamplau i’ch ysbrydoli chi. Peidiwch â bod ofn arbrofi!

Sut i roi cynnig arni:

Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #angles. Byddwn yn ail bostio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni. Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


Work to be Done - Taith Rithwir

Os na chawsoch gyfle i weld ein harddangosfa ddiweddaraf, gallwch ei gweld yn awr yn y daith rithwir hon a grëwyd gan ein ffrindiau yn CultVR Lab.

Mwy o wybodaeth

Ffotogallery Platform

Rydym yn dal i dderbyn cynigion ar gyfer @ffotogalleryplatform! Os oes gennych ddiddordeb mewn dangos eich gwaith, cliciwch ar ‘Mwy o wybodaeth’ i gael rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud cais.

Mwy o wybodaeth

52 Frames

Mae 52Frames yn gymuned fyd-eang o bobl sy’n frwdfrydig iawn am ffotograffeg sy’n cydweithio i wella eu sgiliau ffotograffeg.

Mwy o wybodaeth

Covid-19 Archive

Sefydlwyd Covid-19 Archive gan Public Source sydd wedi ei seilio ym Manceinion. Mae hwn yn brosiect parhaus sy’n dangos gwaith ffotograffwyr dogfennol, newyddiadurwyr ac awduron sy’n cofnodi’r digwyddiadau hyn ar draws y byd.

Mwy o wybodaeth

The Collective

Mae The Collective yn gylchgrawn ar-lein sy’n gwahodd y gymuned gelfyddydol i gyflwyno darn o gelf bob dydd drwy Instagram. Gwelwch y post hwn i gael rhagor o fanylion.

Mwy o wybodaeth

CultVR Lab

Mae gan Cultvr archif gyfan o sganiau 3D, ffotograffau a fideo 360° felly os hoffech fwynhau ychydig o ddiwylliant Cymreig o’ch ystafell fyw yna cymerwch sbec ar eu gwefan.

Mwy o wybodaeth