Sianel / 2 Meh 2020

Gair Wythnosol - 1/6/20

Croeso i’r degfed rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o adref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw yn eich cartrefi, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

© Ania Ready (@aniaready)

Amser Cystadlu – Adref

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #glitch yr wythnos diwethaf, Ania Ready (@aniaready)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.

Ysbrydolwyd thema yr wythnos hon – adref – gan y ffotograffydd Ed Brydon. Fel rhywun a allfudodd o Ogledd Cymru i Efrog Newydd, roedd Brydon yn chwilio’n barhaol am gysylltiad ag adref ac, yn ddiweddarach, cafodd hyd i’r cysylltiad drwy ddathliad o dreftadaeth Gymreig yn yr ardal. Mae ei brosiect ar gyfer Many Voices, One Nation dan y teitl ‘The Singing Hills’ yn bortread o’r cymunedau Cymreig yn America, a’u cysylltiadau â Gogledd Cymru.

Hoffem i chi dynnu llun o’r hyn y mae ‘adref’ yn ei olygu i chi – efallai mai eich cartref eich hun ydyw, neu wrthrych neu berson sy’n gwneud i chi deimlo’n gartrefol. Efallai mai’r olygfa o’ch ffenestr ydyw. Peidiwch â bod ofn arbrofi – a chofiwch gadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol lleol os ydych yn bwriadu tynnu lluniau tu allan.

Heulwen Jones, Old Colwyn, North Wales © Ed Brydon

Sut i gystadlu:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #home. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: Hanner nos ar Ddydd Sul 7 Mehefin.


Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:

Ceisiadau’r wythnos diwethaf

Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #lowlightphotography yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau ynghyd â’r diweddaraf gan Ffotogallery.

Mwy o wybodaeth

FfotogalleryPlatform

Yn ymuno â ni o heddiw ymlaen ar @ffotogalleryplatform mae Robxn Gough – mae Robxn yn fyfyriwr-ffotograffydd sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd ac mae’n arbenigo mewn portreadaeth a digwyddiadau.

Mwy o wybodaeth


Cynulliad i Artistiaid

Mae’r tîm Artes Mundi yn cynnal sgwrs p’nawn anffurfiol sy’n agored i’r holl ymarferwyr sydd wedi eu seilio yng Nghymru. Mae hwn yn fforwm agored lle gall artistiaid ddod ynghyd i rannu syniadau a safbwyntiau wrth i unigolion a sefydliadau addasu a dechrau dychmygu a siapio eu cyd-ddyfodol gyda’i gilydd.

Mwy o wybodaeth

Galwad i gynnig digwyddiadau

Mae Autograph yn gwahodd ymarferwyr creadigol sy’n dod i’r amlwg i gyflwyno cynigion ar gyfer digwyddiadau sydd i ddigwydd ar eu platfformau ar-lein rhwng 2020 a misoedd cynnar 2021. Y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno yw Dydd Mercher 1 Gorffennaf.

Mwy o wybodaeth

Pen-blwydd Hapus Photoworks

Eleni mae Photoworks yn dathlu eu 25ain pen-blwydd felly beth am gyfranogi a chyfrannu at eu rhestr chwarae pen-blwydd – a gwnewch yn siŵr eich bod wedi tanysgrifio i’w taflen newyddion i glywed am eu digwyddiadau pen-blwydd.

Mwy o wybodaeth

#CreativeNetwork

Mae #CreativeNetwork, a lansiwyd gan Voluntary Arts ym mis Mawrth, yn gynulliad ar-lein dyddiol sy’n agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y celfyddydau, diwylliant a chreadigedd a fyddai’n croesawu’r cyfle i siarad gyda phobl eraill am ddelio gyda’r argyfwng presennol, y sialens o weithio o gartref a’r hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd i greu newidiadau cadarnhaol.

Mwy o wybodaeth