Gair Wythnosol - 11/5/20
Croeso i’r seithfed rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o adref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

Mae ‘Nifer o Leisiau, Un Genedl’ yn Mynd Ar-lein
Yn anffodus, o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19, mae arddangosfa derfynol y daith Nifer o Leisiau, Un Genedl oedd i fod i agor yr wythnos hon yn Galeri Caernarfon wedi gorfod cael ei chanslo. Er nad yw’r arddangosfa’n agored yn ffisegol, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid yn Senedd Cymru i ddod â’r arddangosfa i chi yn eich cartrefi, drwy ddangos gwaith pob un o’r chwe artist a gomisiynwyd ar ein platfform Ffotoview. Gallwch ganfod rhagor am y prosiect yn y fan yma, a chlicio’r botwm isod i ymweld â Ffotoview.

Amser Cystadlu
Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #collage yr wythnos diwethaf, Thomas Pyner (@thomaspyner)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.
Y thema ar gyfer cystadleuaeth yr wythnos hon yw archif. Y tro hwn rydym yn cymryd ein hysbrydoliaeth gan y ddau ffotograffydd Luce + Harry, sydd â phrosiect ar gyfer Many Voices One Nation sy’n defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau newydd ffotograffig, ar y cyfryngau ac yn yr archifau i gyflwyno naratif sy’n adlewyrchu profiadau mewnfudwyr i Gymru o Hwngari ac Eritrea. Ewch i edrych drwy eich hen luniau teulu, neu efallai bod gennych gasgliad o ffotograffau rydych wedi eu canfod yr hoffech eu rhannu gyda ni? Gorau po hynaf ydyn nhw!

Sut i roi cynnig arni:
Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #archif. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.
Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person sy’n ymgeisio.
Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:
Ceisiadau’r wythnos diwethaf
Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #collage yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau a’r diweddaraf gan Ffotogallery hefyd.

Llyfrau artistiaid rhad ac am ddim
Mae amgueddfa Solomon R. Guggenheim wedi sicrhau bod mwy na 200 o’u llyfrau artistiaid ar gael i’w lawrlwytho a’u gweld ar-lein am ddim. Ewch i’w harchif ar-lein a phorwch drwy eu casgliadau.

Yr wythnos hon ar Platfform byddwn yn clywed gan deulu Leech a osododd y sialens iddynt eu hunain i ail greu paentiadau a lluniau llonydd o ffilmiau eiconig, fel ffordd hwyliog o gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau o amgylch y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfrif isod.

All in a Day’s Work
Ar ein Platfform Ffotogallery diweddaraf, mae’r artist preswyl David Collyer wedi gweld ei brosiect ‘All in A Day’s Work’ yn ymddangos yn y Guardian Online. Dogfennodd David waith dyddiol y staff yn Ysbyty Nevil Hall yn Y Fenni wrth iddyn nhw wynebu’r pandemig coronafeirws.

BALTIC: What’s Online
Mae Canolfan Gelf Gyfoes BALTIC yn Newcastle wedi symud ei holl raglennu ar-lein. Ewch draw i’w gwefan i weld darnau o fideo ac arddangosiadau ar-lein, ac mae ganddyn nhw hefyd gyfres ‘Cwrdd a Chreu Ar-lein’ i blant oed cynradd.

Elementary Blueprint
Nod y prosiect hwn sydd wedi ei sefydlu gan Stills yng Nghaeredin yw canfod ffordd wahanol o ddogfennu’r cyfnod heriol hwn. Maen nhw’n gwahodd cyfranogwyr i ddinoethi papur ‘cyanoteip’ i’r elfennau y tu allan i’w tai am gyfnod dewisedig o amser, a’i rannu gyda’r oriel i gael ei arddangos yn eu harddangosfa ar-lein.
Our Creative Cardiff
Mae Our Creative Cardiff yn brosiect adrodd straeon digidol newydd sy’n galw ar ymarferwyr creadigol hunangyflogedig i greu gwaith sy’n adlewyrchu naratif creadigol Caerdydd. Gallwch ganfod rhagor gan Gyfarwyddwr Creative Cardiff, Sara Pepper.