Gair Wythnosol - 13/4/20
Croeso i’r trydydd rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o adre i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

Amser Cystadlu
Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffeg #angles yr wythnos diwethaf, Aled Davies! Diolch i bawb a roddodd gynnig arni – dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn sefydlu oriel ar-lein o’r holl geisiadau a dderbyniwn, felly cadwch eich llygad ar ein tudalen ‘Sianel’.
Rydym yn cychwyn yr wythnos gyda thema newydd – sil ffenestr. Am ein bod wedi ein hysbrydoli gan lyfr Daniel Blaufuks, Attempting Exhaustion, lle mae’n tynnu llun yr un ffenestr yn ei gegin rhwng 2009 a 2016, hoffem i chi dynnu llun eich bywydau llonydd sil ffenestr chithau (ac mae’n amser delfrydol ar hyn o bryd!). Ystyriwch gyfansoddiad y gwrthrychau, amser o’r dydd a sut mae’n effeithio ar y golau. Diolch i Daniel am adael i ni gyfeirio at ei dudalen Instagram i weld rhagor o esiamplau. Peidiwch â bod ofn arbrofi!

Sut i roi cynnig arni:
Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #windowsill. Byddwn yn ail bostio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.
Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni. Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.
Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:
Meet Me at The Museum
Mae gan Art Fund gasgliad o bodlediadau o’r enw Meet Me At The Museum, sy’n cynnwys wynebau adnabyddus fel Miles Jupp, Phil Wang, a Russell Kane wrth iddyn nhw archwilio amrywiol amgueddfeydd o amgylch Prydain.
The Rencontres D’Arles At Home
Mae Les Rencontres De La Photographie wedi darparu casgliad o ddeunyddiau ar-lein sy’n cynnwys teithiau rhithwir 3D, fideos ac uchafbwyntiau o rifynnau blaenorol yr ŵyl. Gwelwch eu newyddlen ddiweddaraf isod.
Live Connection
Mae Francesco Matteo Gallery wedi lansio ‘Live Connection’ ar Instagram, gan ddod â’u hartistiaid at ei gilydd mewn sgwrs fyw i gysylltu a rhannu syniadau drwy eu harferion. Bydd y sgyrsiau sydd wedi’u recordio ar gael ar-lein hefyd yn dilyn y digwyddiadau byw. Gwelwch eu porthiant Instagram i gael rhagor o fanylion.
Garage Digital
Y llynedd cafodd Garage Digital ei lansio gan Garage Museum of Contemporary Art. Platfform rhithwir ydyw i geisio dod ag artistiaid at ei gilydd i archwilio mathau newydd o ddiwylliant gweledol sy’n codi o’r deialog cyfoes rhwng technoleg a chymdeithas.
Sofa Sessions
Mae cyfres Martin Parr Foundation ‘Sofa Sessions: Conversations with Martin Parr’ ar gael i’w gwylio ar-lein. Mae cyd-ffotograffwyr yn ymuno â Martin Parr i drafod eu harferion, ac mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys y ffotograffydd Magnum, Alec Soth.
Iris Prize
Mae Iris Prize yn darparu tair ffilm i’w gwylio ar-lein yn rhad ac am ddim ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin yn barod ar gyfer gŵyl eleni ym mis Hydref. Mae’r ffilm fis yma, ‘Colonial Gods’, ar gael yn barod i’w gwylio, ac yn dilyn hynny ‘Daisy & D’ ym mis Mai a ‘Wild Geese’ ym mis Mehefin.