Sianel / 15 Meh 2020

Gair Wythnosol - 15/6/20

Croeso i’r ail rifyn ar ddeg o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o gartref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw yn eich cartrefi, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

© Victoria Gretchen Carter


Amser Cystadlu – Ffotograffiaeth Ddu a Gwyn

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #object yr wythnos diwethaf, Victoria Gretchen Carter (@victoriagretchencarter)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.

Dyma’r rhifyn olaf o’n cystadleuaeth ar-lein ac mae ei thema’r wythnos hon – ffotograffiaeth ddu a gwyn – wedi ei hysbrydoli gan yr artist James Hudson sydd â gwaith yn Nifer o Leisiau, Un Genedl. Mae James yn defnyddio ffotograffiaeth ddu a gwyn i adrodd hanes ei daith feic drwy gefn gwlad o’r Senedd hanesyddol ym Machynlleth i’r Senedd fodern yng Nghaerdydd. Fel gwaith o ffuglen celfyddyd graffig, yn hytrach na dogfennaeth fwy uniongyrchol, mae’r prosiect eisiau dangos i gynulleidfaoedd newydd y gweithgarwch, hanes a gwerth y weithred o seiclo drwy gefn gwlad yn ogystal â’r Senedd ei hun.

Byddem wrth ein boddau’n eich gweld chi’n cymryd rhan drwy rannu eich lluniau du a gwyn gyda ni! Mae rhagor o fanylion isod ynglŷn â sut i gymryd rhan, a chofiwch y gallwch archwilio’r prosiect Nifer o Leisiau, Un Genedl ar-lein ar ffotoview.org.



Sut i gystadlu:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #blackandwhitephotography. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: Hanner nos ar Ddydd Sul 21 Mehefin.

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


Cyfle i ffotograffwyr o India a Chymru

Mae’r Chennai Photo Biennale Foundation, mewn cydweithrediad â Gŵyl Diffusion-Cymru a gyda chefnogaeth y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cyhoeddi Galwad Agored ar gyfer dyfarnu grant i artistiaid cyfryngau’r lens a ffotograffwyr preswyl o India a Chymru i gyflwyno cynigion ar y thema – DYCHMYGU’R GENEDL-WLADWRIAETH. Mae’r cydweithredu hwn wedi galluogi cyfanswm o bedwar dyfarniad grant – i ffotograffwyr/artistiaid cyfryngau’r lens, dau o India a dau o Gymru – i gynhyrchu gwaith ar sail cynigion a gyflwynir drwy’r alwad agored.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Awst 2020, 11.59pm IST (7.59pm GMT)

Mwy o wybodaeth


Ceisiadau’r wythnos diwethaf

Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #object yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau a’r diweddaraf gan Ffotogallery hefyd.

Mwy o wybodaeth

Cynllun Cymorth i Raddedigion mewn Ffotograffiaeth

Mae Redeye wedi cyhoeddi eu rhaglen gymorth estynedig yn ddiweddar, sydd ar gael i bob myfyriwr ffotograffiaeth sy’n graddio yn 2020 yn y DU. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys gwaith gyda chyflog, mentora, sesiynau adborth a hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffotograffwyr dawnus.

Mwy o wybodaeth

Iris 2020 yn Mynd Ar-lein

Mae Gwobr Iris newydd gyhoeddi y bydd gŵyl eleni’n digwydd ar-lein ac y bydd yn rhad ac am ddim. Agorwch y ddolen isod i ganfod rhagor am yr ŵyl a sut y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth.

Mwy o wybodaeth

Amgueddfa Ffotograffau Covid

Sefydlwyd yr ‘amgueddfa rithwir’ hon i fod yn gapsiwl amser o fywyd yng nghyfnod y cwarantîn, ac mae’n rhoi cyfle i ffotograffwyr (proffesiynol ac amatur) drwy’r byd i gyd i rannu eu safbwynt am yr hyn a fydd ryw ddydd yn gyfnod rhyfeddol mewn hanes.

Mwy o wybodaeth

Gwobrau Jerwood / FVU

Mae Gwobrau Jerwood/FVU 2022 yn gyfle gwych i artistiaid y ddelwedd symudol sydd wedi eu seilio ym Mhrydain ac sydd ym mhum mlynedd gyntaf eu harferion proffesiynol. Mae Jerwood Arts a’r Film and Video Umbrella yn gwahodd artistiaid sydd yn gynnar yn eu gyrfaoedd i gynnig gweithiau uchelgeisiol newydd mewn unrhyw ffurf o’r ddelwedd symudol.

Mwy o wybodaeth

Dyddiadur o Drefforest

Mae’r artist o Nifer o Leisiau, Un Genedl, Jon Pountney, i’w weld yn yr erthygl hon yn y British Journal of Photography, yn rhannu lluniau a dynnodd yn ystod y cyfnod cloi yn ogystal â rhai o’r sylwadau yn ei ddyddiadur – dogfen o “gyfnod o fyfyrio, addysg a thwf”.



Image © Jon Pountney

Mwy o wybodaeth