Sianel / 23 Meh 2020

Gair Wythnosol - 22/6/20

Croeso i’r trydydd rhifyn ar ddeg – a’r olaf – o air wythnosol Ffotogallery! Dros y tri mis diwethaf, ers i ni gau ein drysau, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i’ch helpu chi i gadw’n greadigol gartref – drwy ein cystadleuaeth ffoto wythnosol, yr amrywiaeth o adnoddau a ddarparwn ar wahanol blatfformau ar-lein, a thrwy rannu gweithgareddau gan gyrff celfyddydol ymhellach i ffwrdd.

Er mai dyma ein diweddariad wythnosol olaf, byddwn yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd i roi gwybod i chi am ein gwaith, ac i ddod â newyddion i chi am gyfleoedd a digwyddiadau sydd ar y gweill. Mae ein swyddfeydd yn dal i fod ynghau, ond gallwch gysylltu â ni ar yr e-bost, felly cysylltwch ar [email protected].

© Marta Wawrzycka

Y Gystadleuaeth Ffoto Ar-lein

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau du a gwyn yr wythnos diwethaf, Marta Wawrzycka (@martawawrzycka)! Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi cynnig ar ein cystadlaethau wythnosol – gobeithio eich bod wedi eu mwynhau nhw cymaint â ninnau.

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


Ceisiadau’r wythnos diwethaf

Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer ein cystadleuaeth ffotograffiaeth ar-lein dros y 12 wythnos diwethaf ar ein gwefan - ewch draw i dudalen Sianel Ffotogallery.

Mwy o wybodaeth


Nifer o Leisiau, Un Genedl

Gobeithio eich bod wedi eich ysbrydoli gan y chwe artist a gomisiynwyd ar gyfer Many Voices, One Nation, yr arddangosfa deithiol dan gyd-ofalaeth Ffotogallery a Senedd Cymru i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoliad yng Nghymru. Byddai’r arddangosfa wedi cau erbyn hyn dan amgylchiadau arferol ond bydd y prosiect yn aros ar gael i’w gweld ar-lein ar ffotoview.org

Mwy o wybodaeth

Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth

Rhag ofn eich bod wedi colli ein cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, rydym yn falch iawn o fod yn creu partneriaeth gyda Chennai Photo Biennale, gyda chefnogaeth gan y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, i roi’r cyfle hwn i ffotograffwyr yng Nghymru ac yn India – gallwch ganfod rhagor isod.

Mwy o wybodaeth

SOURCE Magazine

Yn rhan o’u gwaith ymchwil ar gyfer rhifynnau’r dyfodol, mae SOURCE yn gwahodd ffotograffwyr sydd wedi eu seilio yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, neu sy’n dod o’r gwledydd hynny, i gyflwyno esiamplau o waith newydd, gyda’r cyfle i gwrdd â golygydd y cylchgrawn, derbyn adborth gwerthfawr a chael y cyfle i’w gwaith gael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn.

Mwy o wybodaeth

Photo Basel Ar-lein

Ymunwch â rhifyn rhithwir Photo Basel eleni, gyda 38 o ystafelloedd dangos rhithwir yn dangos mwy na 850 o weithiau celf a 30 o gyfweliadau – gyda chymorth realiti estynedig, gallwch hyd yn oed arddangos gwaith celf o’r ffair ar eich waliau eich hun gartref.

Mwy o wybodaeth

Prosiect Ffotograffiaeth Twll Pin DIY

Mae’r ffotograffydd o Dde Cymru, Katie Harrington, yn chwilio am bobl greadigol yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn y darn celf gymunedol hwn yn rhan o brosiect ‘Ein Caerdydd Creadigol’ Caerdydd Creadigol. Ewch draw i’w thudalen Instagram i gael rhagor o fanylion.

Mwy o wybodaeth