Sianel / 9 Meh 2020

Gair Wythnosol - 8/6/20

Croeso i’r unfed rhifyn ar ddeg o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o gartref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw yn eich cartrefi, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

© Sally Nordan (@salnordanphoto)

Amser Cystadlu - Gwrthrych

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #adref yr wythnos diwethaf, Sally Nordan (@salnordan)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.

Mae thema’r wythnos hon – gwrthrych – wedi ei hysbrydoli gan y ffotograffydd a’r artist Jon Pountney. Pwnc prosiect Jon ar gyfer Nifer o Leisiau, Un Genedl yw Senedd Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd yn 2018 i roi llais i bobl ifanc yng ngwleidyddiaeth Cymru. Tynnodd Jon luniau o’r bobl yn ei luniau gyda gwrthrych yr oedd pob un wedi dod â nhw o’u cartrefi oedd â rhyw arwyddocâd iddyn nhw. Hoffem i chi ganfod a thynnu llun gwrthrych yn eich cartref sy’n golygu llawer i chi.

Peidiwch ag anghofio ymweld â Many Voices, One Nation ar-lein yma: ffotoview.org

© Jon Pountney

Sut i gystadlu:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #object. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: Hanner nos ar Ddydd Sul 14 Mehefin.

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


Mae The Place I Call Home yn Ailagor

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyhoeddi bod ein harddangosfa deithiol The Place I Call Home wedi ailagor i’r cyhoedd yng Nghanolfan Gelfyddyd Maraya, Sharjah, yr Emiraethau Arabaidd Unedig.

Mwy o wybodaeth


Ceisiadau’r wythnos diwethaf

Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #glitch yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau a’r diweddaraf gan Ffotogallery hefyd.

Mwy o wybodaeth


The Indestructible Lee Miller

Ymunwch â’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol ar gyfer sgrinio ‘The Indestructible Lee Miller’, wedi ei draethu gan Antony Penrose ac Ami Bouhassane. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ffilm.

Mwy o wybodaeth


Love in Quarantine

Mae Love in Quarantine yn fenter artistig a chymdeithasol wedi ei sefydlu gan ZAWB yn Bilbao ar gyfer cyfnod y cwarantin. Mae’n defnyddio ei blatfform ar-lein i dynnu sylw at gyfuniad creadigol y cymunedau yn ystod y cyfyngiadau symud, gan gynnwys ffotograffiaeth, fideos, dawnsiau a digwyddiadau amrywiol eraill.

Mwy o wybodaeth


Cyfnodau Preswyl Ar-lein

Tra bo safleoedd brics a morter ar gau, a hynny cyhyd ag y gallwn weld i’r dyfodol, mae ArcadeCampfa yn arddangos gwaith artistiaid ar eu gwefan am gyfnodau preswyl ar-lein sy’n para mis.

Mwy o wybodaeth


Ffoto-Ryseitiau

Mae Street Level Photoworks yn Glasgow wedi creu cyfres o gardiau Ffoto-Ryseitiau, gyda chyfarwyddiadau’n dangos sut y gallwch ddefnyddio cynhyrchion pob dydd y cartref i greu printiau ffotograffig unigryw. Chwiliwch adran ‘newyddion’ eu gwefan i gael rhagor o fanylion.

Mwy o wybodaeth