Sianel / 30 Maw 2020

Croeso i air wythnosol newydd Ffotogallery

Croeso i air wythnosol newydd Ffotogallery! Tra bydd ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, byddwn yn dal ati i weithio o adref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion mudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

Amser Cystadlu

O heddiw ymlaen, rydym yn lansio ein cystadleuaeth ffotograffeg ar-lein newydd sbon i bob oedran ei mwynhau. Bob wythnos byddwn yn cyhoeddi thema newydd i chi weithio arni – thema’r wythnos hon yw lliw. Edrychwch yn fanwl o gwmpas eich tŷ a’ch gardd (os oes gennych chi un) i weld pa liwiau y gallwch eu canfod a thynnu eu lluniau. Rhoesom gynnig ar hyn ein hunain – dyma rai esiamplau i’ch ysbrydoli chi. Peidiwch â bod ofn arbrofi!

Sut i roi cynnig arni:

Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #colour. Byddwn yn ail bostio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yng ngair wythnosol yr wythnos ddilynol.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni. Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.


Adnoddau Ar-lein Ffotogallery

Os na welsoch ein post diwethaf, mae gennym nifer o blatfformau ar-lein i chi eu mwynhau.

Mwy o wybodaeth


Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:



Belfast Exposed

Mae Belfast Exposed yn creu gweithgareddau dyddiol i bobl gymryd rhan ynddynt – gwelwch eu gwefan i gael rhagor o fanylion ynglŷn â sut i gymryd rhan.

Mwy o wybodaeth


Mass Isolation Project

Os ydych chi eisiau rhannu eich profiadau wrth i chi ynysu, beth am gymryd rhan yn y prosiect hwn sydd ar Instagram? Gallery of Photography Ireland sydd wedi ei sefydlu, edrychwch ar eu cyfrif i ganfod rhagor.

Mwy o wybodaeth


Gobe Magazine

Mae gan Gobe Magazine awgrymiadau am brosiectau ffotograffeg y gallwch eu gwneud gartref.

Mwy o wybodaeth


Aesthetica Magazine

Mae gan Aesthetica lwyth o ddefnyddiau ar-lein, yn cynnwys erthyglau ac adolygiadau o arddangosfeydd. Rydym yn mwynhau eu post ‘Stay at Home: Art Podcasts’ yn arbennig.

Mwy o wybodaeth


The Photographers Network

Dan reolaeth 1854 Media, mae The Photogaphers Network yn gymuned a sefydlwyd ar Facebook mewn ymateb i ledaeniad Covid-19 er mwyn cychwyn trafodaethau rhwng artistiaid a phobl greadigol yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

Mwy o wybodaeth

Os ydych yn mwynhau cyfweliadau gyda ffotograffwyr a churaduriaid ffotograffeg, beth am bori’r gwefannau hyn: