Sianel / 9 Maw 2020

Work To Be Done - Meet the Artists

Mae 'Work to be Done' wedi lansio’n swyddogol yn Ffotogallery ac mae’n dangos gwaith gan 5 artist Nordig sy’n herio’r stereoteipiau am ryw, cartref a’r gweithle. Mae’r arddangosfa’n agored o ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn 11am – 5pm hyd 4 Ebrill 2020. Mae rhagor o wybodaeth isod am yr artistiaid a’u gwaith:


Johan Bävman - Swedish Dads

Mae Johan Bävman (ganed 1982, Sweden) yn ffotonewyddiadurwr llawrydd sydd wedi ei seilio yn Malmö, Sweden. Mae’n cyfuno ei brosiectau ffotograffiaeth ei hun gydag aseiniadau newyddiadurol o amgylch y byd. Mae ei waith wedi derbyn clod gan World Press Photo, POY, NPPA a’r gwobrau Sony Award, UNICEF Photo Award, TT Photography Award a Llun y Flwyddyn (Sweden).

Mae Swedish Dads wedi ei seilio ar gyfres o bortreadau o dadau sy’n perthyn i’r canran bychan hwnnw o dadau sy’n dewis aros adref gyda’u plant am chwe mis neu fwy. Gyda’r prosiect hwn, roedd Johan Bävman eisiau canfod pam roedd y tadau hyn wedi dewis aros adref cymaint yn hirach na’r rhan fwyaf o’u cyfoedion.

Pa fudd maen nhw wedi ei gael o’r profiad hwn? Ym mha ffordd mae’r penderfyniad i gymryd absenoldeb rhiant wedi newid eu perthynas gyda’u partner a’u plentyn? Pa ddisgwyliadau oedd ganddyn nhw cyn mynd ar absenoldeb rhiant?

Mae gan Sweden un o’r polisïau absenoldeb rhiant mwyaf hael yn y byd. Mae eu system bresennol yn caniatáu i rieni aros adref gyda’u plentyn am gyfanswm o 480 o ddiwrnodau, gan dderbyn lwfans gan y wlad ar yr un pryd. Mae naw deg diwrnod wedi eu clustnodi i bob rhiant, ac ni ellir eu trosglwyddo. Pwrpas annog tadau i gymryd mwy o absenoldeb rhiant yw hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Er gwaethaf lwfans hael, dim ond cyfran o dadau Sweden sy’n defnyddio eu habsenoldeb rhiant, a dim ond pedwar ar ddeg y cant o rieni sy’n rhannu’r amser yn gyfartal.

Mae gan Bävman ddwy nod yn y prosiect ffotograffiaeth hwn. Yn gyntaf, mae eisiau dangos polisi rhiant unigryw Sweden. Yn ail, mae eisiau ysbrydoli tadau eraill – yn Sweden a thu hwnt – i weld buddion positif cymryd rôl fwy gweithredol ym mywydau eu plant ifanc. Nid yw eisiau rhoi tadau ar bedestal yn y gyfres hon. Yn hytrach, mae’n ceisio ennyn dadl ynglŷn â pham yr ystyrir y tadau hyn yn dadau arbennig.

Nella Nuora - Midwife

Mae gwreiddiau Nella Nuora yn gryf mewn sinematograffi, maes y mae hi wedi gweithio ynddo’n broffesiynol am fwy nag ugain mlynedd. Yn ei gwaith mae hi’n bwriadu cyflwyno’r byd go iawn drwy ffilter o ysbryd cadarnhaol, harddwch a gobaith. Yn ei barn hi, dyma’r union nodweddion a allai ein hatal ni rhag disgyn i anobaith, yn ystod yr argyfwng ecolegol hwn. Ers 1999, mae Nuora wedi cael ei haseinio i gwmni darlledu cenedlaethol y Ffindir YLE.

"Mae’n fwy diogel i’ch plentyn gal ei eni ar y ward famolaeth hon nag yn unrhyw le arall yn y byd.”

Mae Mikko Tarvonen yn gweithio fel bydwraig ac yn gwybod sut i helpu plentyn i ddod yn ddiogel i’r byd a thawelu meddwl y rhieni mewn sefyllfa gyffrous. Arbenigedd Tarvonen yw monitro a dehongli siart calon plentyn. Rôl bydwraig yw helpu’r fam (etymoleg ’midwife’ yw mid = gyda, wife = menyw) ac asesu a yw’r plentyn angen cymorth o’r tu allan. Hyd yn hyd, y ffordd orau o archwilio plentyn yw dadansoddi’r gromlin gardiaidd y mae’r CTG yn ei thynnu. Mae un fydwraig yn addysgu’r fydwraig nesaf sut i ddehongli hon, drwy brofiad a blynyddoedd yn y gwaith.

Eto, ”Mae dau arbenigwr mewn geni plentyn: y fydwraig a’r fam ei hun.”

Mae’r testun wedi ei seilio ar erthygl newyddion YLE (Laura Kosonen, 12.10.2019), lle mae Nella Nuora yn tynnu lluniau o Mikko Tarvonen wrth ei gwaith.

Beta Bajgart - A Woman's Work

Mae Beta Bajgart (ganed 1975, Y Weriniaeth Tsiec) yn ffotograffydd llawrydd wedi ei seilio yn Nulyn sydd â chefndir mewn newyddiaduraeth fel gohebydd i radio cenedlaethol Tsiec. Mae ei gwaith yn ei chysylltu â chymunedau drwy amrywiaeth o gyfryngau – ffotograffiaeth, ffilmiau a chyfryngau print, ymgyrchoedd a phrosiectau cydweithio. Derbyniodd wobr am ei gwaith gan Network of Ireland yn y Categori Celf a chafodd ei chynnwys ar y rhestr fer am wobr gan Business to Arts yn 2018. Ar hyn o bryd mae hi ar gontract i’r cwmni darlledu cenedlaethol Gwyddelig RTÉ.

Mae A Woman’s Work yn perthyn i’r pwynt hwnnw lle mae celf yn cyfuno ag archifo gweledol. Ei fwriad yw grymuso menywod ac, ar yr un pryd, ein harchwilio ni ein hunain a’n lle mewn cymdeithas fodern. Drwy A Woman’s Work, llwyddodd Bajgart i gyfleu straeon 60 o ferched sydd wedi dewis llwybr gyrfaol mewn proffesiynau anarferol sy’n tueddu bod yn rhai gwrywaidd fel arfer. Wrth wneud y gwaith dechreuodd ystyried y stereoteipiau gwrywaidd a benywaidd sy’n parhau yn ein cymdeithas a’r ffaith bod angen eu hatal nhw drwy addysgu ein plant. Mae Bajgart eisiau dal ymlaen i gryfhau’r sgyrsiau am y ffordd y mae merched yn dewis eu proffesiynau ac am eu rôl yn y gymuned. Mae hi’n credu’n gryf bod dogfennu menywod sydd wedi herio eu cryfder mewnol i ddatblygu eu doniau a rhannu eu straeon drwy’r cyfryngau gweledol, yn ffordd o helpu, ysbrydoli, meithrin ac addysgu’r gymdeithas gyfan. Cafodd A Woman´s Work gan Beta Bajgart ei gyhoeddi hefyd fel llyfr ffotograffau yn 2017.

Katrīna Neiburga - Traffic

I Katrīna Neiburga, mae celf yn israddol i ddyhead am emosiwn, dilysrwydd a chadwraeth cof byw. Mae’n farddoniaeth sy’n gweithredu ar lefel y canfyddiad a’r teimlad: wedi ei ddinoethi hyd yr asgwrn, ei drochi mewn gwirionedd, yn llachar a phrydferth. Un o brif ffyrdd Neiburga o fynegi yw ei heiconograffi hynod bersonol, sy’n amlwg yn ei gosodiadau fideo, mewn arddangosfeydd ac fel cynlluniau set yn y theatr. Mae ganddi ddiddordeb mewn cymdeithaseg, ac mae hi’n ymchwilio rhagdybiaethau am natur pethau.

Mae gan Neiburga MA mewn Cyfathrebiad Gweledol o Academi Celf Latfia ac mae hi wedi astudio yn y Sefydliad Celf Brenhinol yn Stockholm, Sweden. Mae hi wedi bod yn arddangos ers 2000 ac mae hi wedi cyfranogi mewn arddangosfeydd dwyflynyddol yn Sydney (2006), Moscow (2007), Fenis (2015), a Kochi–Muziris (2016). Yn 2008, cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ars Fennica a derbyniodd gynhyrchiad cyntaf y Wobr Purvītis.

"Ychydig iawn ohonom sydd wedi bwrw ein bol wrth siarad â gyrrwr tacsi. Nid am y pris neu’r daith – ond am y smotiau sy’n pasio ffenestr y tacsi, y prisiau sy’n codi, gwleidyddiaeth: hynny yw, am fywyd yn gyffredinol. Gallai’r math hwnnw o sgwrs droi naill ai’n gyfaddefiad a geiriau o gysur gan ddieithryn, neu’n daith drwy diriogaethau a dinodrwydd y ddinas.

Yn yr un modd, ychydig iawn ohonom ni sydd wedi dod ar draws mathau arbennig o gasglwyr sy’n hel straeon pobl eraill, profiadau allanol sy’n cyd-blethu gyda’u math arbennig nhw o ffabrig. Mae Katrīna Neiburga yn un o’r bobl hynny sy’n casglu straeon – ar feithrin ffyngau te, am yr hyn y mae menywod yn ei gario yn eu bagiau, am bethau na fyddwn ni fel arfer yn eu dweud wrth unrhyw un heblaw gyrrwr tacsi neu gyd-deithiwr sy’n digwydd eistedd wrth ein hochr ar y trên. Ac eto, dydy Katrīna ddim yn gasglwr go iawn. Mae’n ymddangos yn bwysig iawn iddi fod yn rhan o’r sgwrs, adrodd stori a rhoi cynnig ar ofyn cwestiynau (sy’n bwysig iddi hi) i’r person y mae hi’n sgwrsio ag o. Mae chwilfrydedd hollbwysig yr artist yn sianelu “archaeoleg” dynol i greu sefyllfa sy’n gogwyddo i gyfeiriad y cyfrannwr.

Wrth newid o wrthrych i sefyllfa pan fydd yn creu ei chelf, mae Katrīna yn creu cydbwysedd meistrolgar rhwng dogfennu a ffuglen. Ar ôl penderfynu newid ei swydd dros dro a dod yn yrrwr tacsi mae hi’n cludo trigolion maestrefi Pārdaugava, yn siarad gyda’i theithwyr, yn gwrando ar eu straeon ac yn eu cofnodi nhw. Ac wedyn mae ymwelwyr y prosiect re:publika a phobl sy’n digwydd pasio ac sy’n digwydd cymryd diddordeb yn cael y cyfle i dreulio ychydig o amser yn yr hen gar Volga a gwylio deialogau’r gyrrwr tacsi gyda’i theithwyr ar fonitor bach.

Mae sefyllfaoedd ar hap wedi eu cyfuno gyda sefyllfaoedd a gynlluniwyd, neu yn hytrach gyfres o reolau a gafodd eu creu yn fympwyol, yn creu safle seico-ddaearyddol delfrydol. Mae’r teithiau tacsi heb eu cynllunio a’r bobl na ellir eu rhagweld yn gweithredu bron fel celfyddyd ddeilliadol grwydrol, yn gadael i wead dinesig annisgwyl ymddangos lle gallwch eich colli eich hun yn hanesion pa deithwyr bynnag sy’n digwydd dod i’r cerbyd.

Yn ail ran y prosiect mae cyfweliadau Katrīna gyda merched sy’n gyrru tacsi; y tro hwn, nid estyniad o’r cyd-destun sefyllfaol sydd yma ond ymddangosiad diddordeb gyda ffocws a amlygwyd yn y prosiect celf am fenywod elfennau Sestais (The Sixth Element) lle gwnaeth astudiaeth o wead ac olyniaeth y llinach merched yn ei theulu ei hun. Mae dadansoddiad yr artist yn edrych ar safle merched sy’n cael ei ddynodi gan draddodiadau a rolau cymdeithasol heb esboniad ffeministaidd eglur.

Mae straeon y gyrrwr tacsi gwallt brith am ddigwyddiadau rhyfedd yn dyddio o’r oes Sofietaidd, problemau ei theulu, anturiaethau a phryderon am ddyfodol ansicr yn creu portread o fenyw gref – un y mae hi mor hawdd uniaethu ag o os ydych yn byw yn Latfia. Adeiladu darnau cymysg o brofiadau pobl eraill yw ffordd Katrīna o wneud nodiadau yn yr ymylon ac efallai symud yn agosach at ysgrifennu corff o waith amdani ei hun yn y pen draw."

Testun gan Solvita Krese

Mikko Suutarinen - Truckers

Mae Mikko Suutarinen yn ffotograffydd o’r Ffindir sydd wedi ei seilio yn Helsinki, y Ffindir. Enillodd ei radd yn Sefydliad Dylunio a Chelfyddyd Gain Lahti.

Ar hyn o bryd mae Mikko yn gweithio i Helsingin Sanomat, y papur newydd mwyaf yn y Ffindir a’r gwledydd Nordig. Prif ffocws ei waith yw ffotograffiaeth ddogfennol yn ogystal â phrosiectau dogfennol tymor hir. Yn ei waith, byddai’n well gan Suutarinen wylio digwyddiadau o safbwynt y gwyliwr heb ymyrryd â’r cefndir naturiol. Mae ei ddiddordeb mewn ethnograffeg a’r sbardunau hynny sy’n dylanwadu ar ymddygiad dynol. Taflu golau ar faterion sy’n dod i’r amlwg nad ydynt efallai’n amlwg i’r cyhoedd yw prif ddiddordeb Suutarinen.

Ar rai o’i brosiectau mwyaf fel ”People and Cars” a ”Polar Light”, mae Suutarinen yn pwysleisio pwysigrwydd hunaniaethau unigol, eu harwyddocâd, yn ogystal â’r gydberthynas rhwng diwylliant, natur a phersonoliaethau. Derbyniodd y ddau brosiect gydnabyddiaeth Finnish Press Photos yn 2017 (Gwobr Anrhydedd Ffotonewyddiadurwr Newydd) ac yn 2018 (Ffoto-draethawd y Flwyddyn) yn y drefn honno. Mae gwaith Suutarinen wedi ymddangos mewn erthyglau papur newydd, cylchgronau a llyfrau yn y Ffindir.

Mae Deddf Cerbydau y Ffindir yn gofyn bod gan yrwyr tryciau, bysiau, lorïau a cherbydau cyfunedig gymhwyster proffesiynol mewn cludo nwyddau a theithwyr yn eu cerbydau. Mae’r hyfforddiant galwedigaethol yn cynnwys hyfforddiant am y gofyniadau sydd ar yrwyr, am ddiogelwch ffordd ac am ddiogelwch y gyrrwr a’r cerbyd, ac am arferion proffesiynol wrth gludo a gwneud swyddogaethau eraill y gyrrwr.

Gwaith gyrrwr tryc yw cludo nwyddau, llwytho a dadlwytho’r cargo, gofalu am y dogfennau cludiant a darparu gwasanaeth y cwsmer. Yn ogystal, mae’r gwaith yn cynnwys cynnal a chadw ceir a gwaith trwsio bychan. Mae’r gwaith yn gofyn annibyniaeth, cyfrifoldeb a phrydlondeb. Mae’r rheolau sy’n llywio oriau gwaith a chyfnodau gorffwys y gyrwyr yr un fath drwy’r Undeb Ewropeaidd a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd cyfan.

“Pan fydd dyn yn gwneud camgymeriad, camgymeriad ydyw. Pan fydd merch yn gwneud camgymeriad, chaiff hi ddim.”

Jenna Keinänen, 20

”Fi yw’r gyrrwr tryciau cyntaf yn fy nheulu ac rwy’n falch iawn o’r ffaith.”

Eveliina Heiskanen, 24

“Wedi i mi raddio fel gweithiwr trin gwallt, roeddwn i’n gwybod yn syth fy mod i yn y swydd anghywir. Ar ôl pythefnos a hanner, rhoddais y ffidil yn y to. Er bod mam-gu, tad-cu a dad yn gyrru tryc, doedd gen i ddim diddordeb mewn ceir nes i mi droi’n 17 oed.”

Jasmin Tuominen, 27

(Cyhoeddwyd y dyfyniadau hyn yn Helsingin Sanomat, Minttu Storgårds ja Pauliina Toivanen, 12.7.2017.)