Ffotogallery: Ein Stori 1978-2018

Ar 4 Medi 1978, agorodd yr oriel gyntaf yng Nghymru oedd wedi’i hymroddi i ffotograffiaeth yn Stryd Charles, Caerdydd, o dan yr enw Yr Oriel Ffotograffeg, Caerdydd. Yn briodol iawn, arddangosfa agoriadol yr oriel oedd Collected Photographs – Photographs from the collection of David Hurn.

O’r mis Medi hwnnw ymlaen, cychwynnwyd rhaglen arddangos uchelgeisiol ac amrywiol a redwyd yn bennaf gan wirfoddolwyr gyda chyfuniad o arddangosfeydd gwreiddiol a rhai a brynwyd i mewn. Yn ogystal â dangos gwaith ffotograffwyr oedd yn ennyn parch rhyngwladol megis Diane Arbus, Bill Brandt, William Klein a Raymond Moore, trefnodd yr oriel arddangosfeydd gan ffotograffwyr ifanc oedd yn dechrau dod i’r amlwg megis Martin Parr, Tish Murtha a Brian Griffin.

Parhaodd rhaglen arddangosfeydd hynod amrywiol yr oriel i fagu enw da, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Cychwynnodd yr arddangosfa deithiol fawr y Black Series/Recent Nudes gan y ffotograffydd Americanaidd adnabyddus Ralph Gibson, ac ym mis Rhagfyr 1980 cynhaliodd yr oriel arolwg estynedig o New Spanish Photography mewn partneriaeth ag Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg.


Cafodd Robert Greetham, gŵr gradd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ei benodi’n Gyfarwyddwr Ffotogallery yn 1982. O dan ei arweiniad ef, lansiwyd rhaglen newydd o arddangosfeydd gyda sioe thematig fawr a drefnwyd gan Ron McCormick a Susan Butler o’r enw Photography and Looking at Photographs yn archwilio sut mae pobl yn darllen delweddau ffotograffig. Cynhaliodd Ffotogallery gyfres o ddarlithoedd law yn llaw â hon yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, wedi eu trefnu gan David Hurn, oedd yn cynnwys siaradwyr megis Bill Jay, Bert Hardy a Syr Tom Hopkinson. Ymysg uchelbwyntiau eraill y rhaglen arddangosfeydd roedd sioe wreiddiol Burk Uzzle – A Retrospective, yn cynnwys gwaith un o ffotograffwyr mwyaf blaenllaw Magnum, a Welsh Open 1983 a ddetholwyd gan Keith Arnatt. Roedd New Perspectives on the Nude yn sioe arolygu graddfa fawr gyda Susan Butler yn giwrad arni. Roedd hon oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Robert Mapplethorpe, Jo Spence a Helen Chadwick, ac yn dilyn hynny Mario Giacomelli – A Retrospective, y sioe fawr gyntaf ym Mhrydain i ddilyn gyrfa gyfan ffotograffydd cyfoes blaenllaw’r Eidal.

Ym misoedd olaf 1983, ymadawodd Robert Greetham i weithio ar ei liwt ei hun a daeth Susan Beardmore yn Gyfarwyddwr newydd Ffotogallery, yn dilyn eu gwaith fel Gweinyddwraig yr Oriel. Gyda’i phenodiad hithau cafwyd pwyslais newydd ar gomisiynau mawrion yn canolbwyntio ar y cyfoes yng Nghymoedd De Cymru fel pwnc i ffotograffwyr. Yng nghyfrol nesaf Ffotoview, cyhoeddodd Susan Beardmore y byddai arddangosfa agoriadol The Valleys Project yn digwydd ym mis Chwefror 1984 gan ddatgan hyn: “gyda Phrosiect y Cymoedd, bydd Ffotogallery, dros gyfnod o dair blynedd, yn dogfennu bywyd a thirlun yr ardal hon mor llawn ag sy’n bosibl mewn ffotograffau”.

"If you're under 18, there's not much to do" © Mike Berry, The Valleys Project, 1985

Heblaw Prosiect y Cymoedd, cafwyd datblygiadau pwysig eraill yn ystod cyfnod Susan Beardmore fel Cyfarwyddwr. Ym mis Mai 1985, llwyfannodd Ffotogallery yr arddangosfa ôl-syllol fawr gyntaf ym Mhrydain o’r ffotograffydd Americanaidd Harry Callahan, sef arddangosfa a deithiodd i bedwar ar ddeg o safleoedd eraill yn cynnwys dau dramor. Yn yr un flwyddyn, cychwynnwyd Ffotoannual, sioe gan aelodau Ffotogallery, i roi cyfle i’r unigolion oedd yn cefnogi’r sefydliad arddangos eu gwaith yn yr oriel. Pan aeth yn rhy fawr i 41 Stryd Charles, bu Ffotogallery yn rhentu’r tri llawr uchaf mewn adeilad Fictorianaidd yn 31 Stryd Charles ar gyfer ei oriel a’i archif, ystafelloedd tywyll, gweithdy a swyddfeydd. Yn 1986, sefydlodd Ffotogallery PHOTO-AXIS, sef cymdeithas o orielau ffotograffiaeth a safleoedd arddangos perthnasol ym Mhrydain sy’n cyfnewid gwybodaeth, yn cefnogi prosiectau cydweithredol ac yn sefydlu codau ymarfer ar gyfer y sector ffotograffiaeth annibynnol.

Erbyn 1989, cafodd Ffotogallery ei gydnabod gan y Cyngor Celfyddydau yng Nghymru (sef Cyngor Celfyddydau Cymru yn ddiweddarach) yn ganolfan rhagoriaeth ymysg yr orielau yng Nghymru, ar sail ei hanes a’i botensial yn y dyfodol. Bryd hynny y trafodwyd am y tro cyntaf y dyhead i sefydlu’r Ffotogallery yn ‘Ganolfan Genedlaethol i Gelfyddydau Ffotograffig yng Nghymru’. Ymadawodd Susan Beardmore i ddod yn Gyfarwyddwr Oriel Mostyn yn Llandundo a daeth Chris Coppock, sylfaenydd a golygydd y cylchgrawn celf CIRCA a Chyfarwyddwr yr Art and Research Exchange, Belfast, i gymryd ei lle fel Cyfarwyddwr newydd Ffotogallery.



Yn ogystal â’r diddordeb oedd ganddo yn y rôl oedd gan ffotograffiaeth mewn cynrychioli gwrthdaro, yn arbennig hwnnw oedd yn gysylltiedig â’i brofiadau yng Ngogledd Iwerddon, cyfunodd Coppock lygad craff am arferion ffotograffig oedd yn dechrau dod i’r amlwg yn rhyngwladol gydag ymrwymiad i gomisiynu a chyflwyno gwaith newydd gyda Chymru’n destun iddo. Yn ogystal â goruchwylio’r ddau gomisiwn olaf ym Mhrosiect y Cymoedd, dangosodd Ffotogallery y gweithiau gwreiddiol Pigs and Ingots gan Tina Carr a Anne-Marie Schone a Celtic Light gan Pete Davis, dau ddehongliad cyferbyniol o dirlun Cymru. Comisiynodd Ffotogallery mewn partneriaeth ag Oriel Mostyn a The Photographers Gallery, yr arddangosiad Rubbish and Recollections oedd yn cynnig detholiad terfynol o weithiau gan yr artist sydd wedi’i seilio yng Nghymru, Keith Arnatt.

Roedd Unknown Depths yn gomisiwn o waith gan yr artist a enwebwyd am Wobr Turner, Willie Doherty, ac roedd hwn yn cynnwys delweddau mawrion gyda thestun yn archwilio cysyniadau o Ogledd Iwerddon a Chaerdydd. Cynhyrchwyd catalog mawr i gyd-fynd ag o, a dyma oedd y cyntaf mewn cyfres o fonograffau artistiaid a chyhoeddiadau thematig a gynhyrchwyd gan Ffotogallery dros y tri degawd nesaf.

Yng Ngwanwyn 1992, caeodd yr oriel i gael ei hadnewyddu, gan ail agor ym mis Hydref gyda Cross Currents gan John Davies, ac arddangosfa wreiddiol Ffotogallery o ffotograffau o dirlun dinesig a gwledig o ddeuddeg aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Erbyn 1993, roedd Ffotogallery wedi sefydlu Cynllun Noddwyr, gyda’r Arglwydd Snowdon, David Bailey, Jane Bown, yr awdur Jan Morris a’r gwneuthurwr ffilmiau Peter Greenaway, ymysg ffigurau nodedig eraill, yn addo eu cefnogaeth i’r sefydliad. Yn hwyrach y flwyddyn honno, dyfarnwyd Gwobr Cymrodor Rhyngwladol 1993 Cyngor Ffilmiau Cymru i Greenaway ac yn rhan o’r dathliadau cynhaliodd Ffotogallery yr arddangosfa wreiddiol The Audience of Macon oedd yn cynnwys 100 o luniau o’r ffilm, fideo ac actorion byw mewn gwisgoedd o’r 17eg Ganrif mewn blychau gwydr o fewn yr oriel a’r tu allan i’r oriel.

Yng nghanol yr 1990au, parhaodd Ffotogallery i gyflwyno arddangosfeydd arwyddocaol gyda chyhoeddiadau law yn llaw â nhw yn cynnwys Isolate gan Calum Angus Mackay, Familiar British Wildlife gan Clive Landen a Lost Territory, yn cynnwys gwaith dau o’r ffotograffwyr sy’n ennyn y parch mwyaf yn y Ffindir, Jorma Puranan a Pentti Sammallahti. Y flwyddyn ddilynol, gwahoddwyd Sammallahti yn ôl i wneud comisiwn lle bu’n teithio hyd a lled Cymru, yn cofnodi ei ganfyddiadau am y wlad.

Ehangwyd gweithgareddau addysgol Ffotogallery yn sylweddol yn y cyfnod yma, i gynnwys cyrsiau achrededig yn ystod y dydd a gyda’r nos, rhaglen Artistiaid mewn Ysgolion, seminarau, ymweliadau coleg a gweithgareddau ysgol i gyflwyno myfyrwyr i agweddau creadigol a thechnegol ffotograffiaeth. Cychwynnwyd arddangosfeydd gan artistiaid a ffotograffwyr oedd yn dod i’r amlwg gyda chysylltiadau agos â Chymru, yn cynnwys Gone to Earth Helen Sear, Police Force Paul Seawright a Portraits 1981-1994 Sue Packer. Roedd Us gan Clement Cooper yn archwilio treftadaeth hiliau cymysg drwy gyfres o bortreadau o unigolion Prydeinig-Affricanaidd a Charibïaidd yn byw yng Nghaerdydd, Lerpwl, Manceinion a Bryste.

Yn 1996, aeth Ffotogallery ati i gomisiynu Catherine Yass, artist ifanc lwyddiannus o Lundain, i gynhyrchu corff newydd o waith ar sail ei phrofiadau o’r amgylchedd gwaith yn ffatri Port Talbot British Steel. Am fod y gwaith dur yn dirnod pwysig yn Ne Cymru roedd hefyd yn symbol o gyfoeth diwydiannol y rhanbarth yn y gorffennol. Cafodd delweddau gwych Yass, a arddangoswyd fel blychau golau, eu prynu’n ddiweddarach gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhan o’u casgliad cenedlaethol.

Docks Way Disposal Site, Newport (from Reconnaissance) © Josef Koudelka

Comisiwn pwysig arall gan Ffotogallery yn 1999 oedd Reconnaissance Wales Josef Koudelka, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol a Magnum Photos. O’r 1980au ymlaen, roedd y ffotograffydd rhyngwladol adnabyddus yma wedi teithio’r byd yn chwilio am dirluniau o waith dyn a thirweddau diwydiannol oedd yn ymgorffori ein perthynas anghyfforddus â natur. Roedd teithio i Gaerdydd a Chymru i gofnodi’r hyn a oedd yno ar ôl i’r diwydiant ddod i ben yn estyniad naturiol i arferion ffotograffig Koudelka. Estyniad arall oedd defnyddio fformat panoramig mawr a oedd wedi dod yn arddull adnabyddus ganddo ef. Cafodd y gwaith a gynhyrchwyd ei symud i fyny i’r casgliad cenedlaethol, a chyhoeddodd Ffotogallery lyfr leporelo (yn plygu fel acordion) i gyd-fynd â’r arddangosfa deithiol.

Wrth i’r mileniwm ddod i ben, dathlwyd y milflwyddiant gan Ffotogallery gyda Just Another Day, oedd yn cynnwys ffotograffau a dynnwyd yng Nghymru dros 48 awr ar Nos Calan 1999 a Diwrnod Calan 2000, yn cynnwys gwaith gan Bruce Gilden, David Hurn, Max Kandolha, John Davies, Simon Norfolk, Sue Packer, Haydn Denman, Karen Ingham, Roger Tiley, Paul Cabuts ac Anthony Haughey.

Yn 2008, yn 30ain blwyddyn Ffotogallery, cafwyd rhaglen arbennig o gryf o arddangosfeydd yn cynnwys Niagara Alec Soth, Auditorium Sophy Rickett, Portraits Pieter Hugo a Bonfires John Duncan. Cychwynnodd Ffotogallery ddwy arddangosfa wreiddiol yn dathlu gwaith a gomisiynwyd a wnaed yng Nghymru dros y tri degawd blaenorol, I Hate Green a Fantasy and Denial. Roedd y detholiad yn cynrychioli llawer o ymatebion unigryw ac eang i gyfnod o newid cymdeithasol ac economaidd dramatig, yn cynnwys gwaith o The Valleys Project, A470 a Barrage, ochr yn ochr â phrosiectau artistiaid unigol megis Keith Arnatt, Catherine Yass, Josef Koudelka a Bedwyr Williams. Yn ogystal â rhoi trosolwg o’r ffordd mae artistiaid yn ymgysylltu â lleoliad penodol, roedd yr arddangosfeydd yn adlewyrchu rhai o’r newidiadau mewn ffotograffiaeth dros y tri degawd blaenorol oedd wedi gwneud y cyfrwng yn rym hanfodol a dynamig mewn celf a diwylliant cyfoes.

Dyfarnwyd Comisiwn 30ain Pen-blwydd Ffotogallery i’r artist Albanaidd Wendy McMurdo, a’r arddangosfa a gafwyd o ganlyniad i hynny, The Skater, oedd yr arddangosfa gyntaf yn 2009. Bryd hynny hefyd y cyrhaeddodd David Drake yn Gyfarwyddwr newydd Ffotogallery.

Gyda’i 30 mlynedd o brofiad blaenorol mewn curadu, cynhyrchu, cyhoeddi a rheoli celf, roedd Drake yn awyddus i sicrhau bod gweithgareddau Ffotogallery yn dilyn ymlaen yn naturiol o’i hanes hyd hynny tra bo hefyd yn adeiladu ar enw da’r sefydliad am ddarparu system gefnogi hanfodol i artistiaid yng Nghymru, ac yn cynhyrchu gwaith oedd yn ffurfio cofnod parhaus o ddiwylliant y genedl. Roedd yn dymuno lawn cymaint i ehangu dylanwad Ffotogallery drwy amgueddfeydd teithiol, prosiectau rhyngwladol, a chydweithio â sefydliadau ac orielau eraill, drwy gyhoeddi rhaglen addysg estynedig.

Yn 2009/10, crëwyd dwy arddangosfa a phrosiect cyhoeddi yn Ffotogallery, gyda Russell Roberts yn guradur arnynt. Roedd English Anxieties Tim Brennan yn cynnig ymateb cyfoes i ddeunydd yn y Mass Observation Archive, a The Silent Village, yn dangos gwaith gan Peter Finnemore, Paolo Ventura a’r awdur Rachel Trezise. Roedd y gwaith newydd a gynhyrchwyd ar gyfer yr amgueddfa a’r cyhoeddiad cyfatebol yn archwilio o safbwynt newydd y cysylltiadau amlwg rhwng amser a lle oedd yn diffinio ffilm wreiddiol Humphrey Jennings The Silent Village (1943), lle defnyddiwyd y pentref bychan, Cwmgïedd, ym Mlaenau Cwm Abertawe, i ddarlunio hanes y pentref Lidice yn Czechoslakia yn nwylo’r Natsïaid. Yn dilyn hynny, teithiodd yr arddangosfa i Mostyn a DOX ym Mhrag yn 2012, i gyfateb gyda 70ain pen-blwydd cyflafan Lidice.

from The Silent Village © Peter Finnemore

Hefyd aeth Ffotogallery ati i gomisiynu Peter Fraser i gychwyn prosiect ffotograffig mawr newydd yng Nghymru, gan ddychwelyd bum mlynedd ar hugain ar ôl ei gyfraniad i Brosiect y Cymoedd. Yn Lost for Words llwyddodd Fraser i gyfleu ysbryd y wlad mewn ffordd unigryw drwy ymweld â, a chofnodi, nifer o safleoedd amrywiol o ddiddordeb ledled Cymru.

Am fod technolegau newydd a chysylltedd y cyfryngau wedi ymwreiddio fwy a mwy yn ffabrig ein bywydau pob dydd, roedd Ffotogallery yn teimlo bod angen iddo ei ail-sefydlu ei hun fel sefydliad diwylliannol er mwyn galluogi i gynulleidfaoedd ymddiddori’n feirniadol yn yr holl ddulliau cyfoes o greu lluniau. I Ffotogallery, nid oedd y newidiadau yma’n ymwneud ag esgeuluso cryfderau traddodiadol y sefydliad mewn cyfryngau ffotograffig a thrwy’r lens, yn hytrach roedd yn ymwneud ag ehangu ei gynnig mewn ymateb i gyfleoedd digidol.

Cychwynnodd y broses hon yn hydref 2009 gyda Vision On, tymor a ymgysylltodd â’r gymuned ehangach mewn dathliad chwareus o botensial digidol drwy gyflwyniadau a gosodiadau artistiaid a gweithdai ymarferol ar themâu creadigedd digidol, technoleg ymgolli a chynhyrchu a chyflwyno data’n weledol ac yn glyweledol. Roedd Vision On yn cynnwys preswyliad gan y grŵp artistiaid rhyngwladol Ghana Think Tank, yn rhan o rwydwaith o felinau trafod wedi’u dosbarthu’n fyd-eang i ddefnyddio technolegau ffrydio byw i gysylltu pobl leol gydag eraill ym mhedwar ban byd, gan gydweithio i ganfod atebion creadigol i broblemau lleol.

Yn dilyn hynny yn fuan yn 2010, cynhaliwyd arddangosfa fawr o gelfyddyd gyfoes De Affrica, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gydag Oriel Djanogly ym Mhrifysgol Nottingham. Daeth Life Less Ordinary â gweithiau ffotograffiaeth, perfformiad, fideo a gosodiadau at ei gilydd gan genhedlaeth iau oedd eisiau symud i ffwrdd oddi wrth y naratifau mawrion am apartheid er mwyn archwilio syniadau mwy cymhleth am hunaniaeth. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith gan Tracey Rose, Nandipha Mntambo, Zanele Muholi, Pieter Hugo a Berni Searle, yn cynnwys gwaith fideo a ddewiswyd ar gyfer Artes Mundi 1, ac aeth i Amgueddfa Cymru i’w gadw yn y casgliad cenedlaethol.

Yn haf 2010, drwy gyfrwng perthynas efeillio’r ddinas, gwahoddodd Fotosommer Stuttgart y Ffotogallery i guradu a chyflwyno Here We Are – Dyma Ni, detholiad o waith newydd gan artistiaid ffotograffig wedi’u seilio yng Nghaerdydd, yn rhai oedd wedi hen sefydlu ac yn rhai oedd yn dechrau dod i’r amlwg. Yn ôl yng Nghymru, bu Ffotogallery yn cyflwyno Villes y ffotograffydd Magnum Raymond Depardon a’r cyflwyniad cyntaf yn y Deyrnas Unedig o gorff o waith newydd a hirddisgwyliedig Zed Nelson Love Me oedd yn canolbwyntio ar y diwydiant harddwch a’r cais byd-eang am berffeithrwydd esthetig. Yna teithiodd yr arddangosfa i Newcastle, Bradford a Wolverhampton .Yn dilyn Love Me cafwyd Condition Report: New Photographic Art from the Czech Republic oedd yn cynnwys gwaith chwe artist oedd yn gysylltiedig â’r Adran Ffotograffiaeth yn FAMU (Ysgol Ffilm a Theledu’r Academi Celfyddydau Perfformio) ym Mhrâg.

Agorodd 2011 gydag arddangosiadau yn y Pierhead ac yn Turner House, ar yr un pryd, o A Landscape of Wales gan y ffotograffydd o Gymru James Morris, sef prosiect mawr a gomisiynwyd ar y cyd gyda Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn edrych yn eang ar y tirlun cyfoes yng Nghymru. Yr arddangosfa nesaf oedd Darkroom, astudiaeth weledol farwnadol y ffotograffydd Michel Campeau, sydd wedi’i seilio yn Montreal, o ystafelloedd tywyll ffotograffig o amgylch y byd oedd yn cau o ganlyniad i ddatblygiadau mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn hynny cafwyd Anarcadia, sef tafluniad fideo a chyfres luniau i fynd ag o gan yr artist Prydeinig Ruth Maclennan, a ffilmiwyd yn ehangderau anialwch Kazakhstan, ac yna Patagonia, darluniad gwefreiddiol a thrawiadol Ken Griffith o fywyd yng nghymunedau Cymreig De America.

Llandudno (from A Landscape of Wales) © James Morris

Un o lwyddiannau arbennig y flwyddyn, yn artistig ac yn nhermau’r gynulleidfa a’r ymateb critigol, oedd y tymor Wish You Were Here yn Haf 2011. Nod y prosiect hwn, oedd yn ymestyn dros nifer o safleoedd, oedd archwilio ac amlygu’r pryderon cyfredol – yn gymdeithasol, cysyniadol a thechnegol – oedd yn amlwg ymysg cenhedlaeth newydd o artistiaid ffotograffig oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Roedd y tymor yn cyfuno sioeau allweddol gan artistiaid ffotograffig oedd yn dechrau dod i’r amlwg, Dawn Woolley, Rick Davies, David Barnes a Gawain Barnard a detholiad wedi’i guradu o artistiaid eraill yn yr arddangosfa grŵp This Unfolds. Yn dilyn tymor cyntaf Wish You Were Here, comisiynwyd tri phreswyliad newydd gan artistiaid y Cymoedd, Alicia Bruce a Zhao Renhui ym Mlaenafon a Sean Edwards yn Rhondda Cynon Taf. Cynhaliwyd ail dymor o Wish You Were Here yn Haf 2014.

Yn ogystal ag ymrwymiad Ffotogallery i ddatblygu talent ffotograffig yng Nghymru, mae cydweithio rhyngwladol mawr wedi bod yn ddimensiwn allweddol o waith y sefydliad dros y deng mlynedd diwethaf. Roedd yr arddangosfa Believing is Seeing a’r catalog cysylltiedig yn cyflwyno saith artist o Korea oedd yn mabwysiadu gwahanol agweddau tuag at waith ffotograffiaeth neu waith wedi’i seilio ar ffotograffiaeth. Ym mis Ionawr 2012, cyflwynodd Ffotogallery waith Daniel Blaufuks Works on Memory. Dyma oedd yr arddangosfa unigol gyntaf yn y Deyrnas Unedig gan un o artistiaid cyfoes mwyaf clodfawr Portiwgal, y mae ei waith yn cyfuno fideo, ffotograffiaeth, perfformiad, sain a gosodiad i archwilio materion yn ymwneud ag amser a chof.

Roedd Bi nam, a guradwyd gan Ffotogallery a’r artist Amak Mahmoodian, yn dangos gwaith ffotograffig oedd heb gael ei weld cyn hynny gan grŵp o artistiaid yn byw ac yn gweithio o dan amodau sensoriaeth eithriadol yn Iran. Roedd Voices of the South Atlantic, a ddatblygwyd dros 20 mlynedd gan yr artist o’r Ariannin, Adriana Groisman yn ymdrin â hanes Rhyfel y Falklands/Malvinas 1982, gan adrodd y stori o’r ddwy ochr. Cafodd ei amseru i gyd-daro â 30ain pen-blwydd y gwrthdaro, a chyflwynwyd yr arddangosfa gan Ffotogallery mewn cydweithrediad ag Autograph a Photofusion. Yn y flwyddyn ganlynol cafwyd dangosiad cyntaf y Deyrnas Unedig o Stasis, arddangosfa a chyhoeddiad i gyd-fynd ag o yn cynnwys tri chorff diweddar o waith gan yr artist adnabyddus Danaidd Trine Søndergaard, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Denmarc.

Yn 2013, i gyd-fynd â Lithwania’n cymryd Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd a’i chysylltiadau cryfion gyda Chymru, cyflwynodd Ffotogallery Borderliners, gyda gwaith dau o’r ffotograffwyr Lithwanaidd enwocaf, Aleksandras Macijauskas a Rimaldas Vikšraitis, enillydd y Wobr Discovery glodfawr yn Rencontres d’Arles 2009. Y cefndir cymdeithasol i’r lluniau grymus yn yr arddangosfa hon oedd dirywiad bywyd y pentref yn Lithwania ers i’r Undeb Sofietaidd chwalu a dirywiad perthynol y system ffermio leol. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cyflwynodd Ffotogallery y Gwaith Solo Exhibition gan yr artist oedd wedi ennill Gwobr Jerwood, Indrė Šerpytytė. Mae gwaith Šerpytytė yn archwilio hanes, colled a chof unigol ac ar y cyd, yn ymwneud â hanes ei theulu a hanes Lithwania, ei gwlad frodorol, yn union cyn ei hannibyniaeth o feddiant Sofietaidd.

Trwy adeiladu ar berthnasoedd a ddatblygwyd drwy’r cydweithio rhyngwladol dwyochrog yma, gweithiodd Ffotogallery fel prif sefydliad yn 2012 mewn prosiect pan-Ewropeaidd o’r enw European Prospects a lwyddodd yn ddiweddarach i sicrhau dyfarniad mawr gan Raglen Diwylliant yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag arian gan y Sefydliad Diwylliannol Ewropeaidd a chyllid partneriaeth gan Yr Almaen, Ffrainc a Lithwania. Mae’r rhaglen yn parhau bum mlynedd yn ddiweddarach, ac amcanion European Prospects yw ‘datblygu, drwy gydweithrediad trawswladol rhwng artistiaid a phobl broffesiynol ddiwylliannol, y gwaith o ddefnyddio ffotograffiaeth a’r celfyddydau gweledol i ymchwilio ac esbonio hunaniaeth a phrofiad Ewropeaidd cyfoes yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd llawer mwy’.

I See Europe! Fotosommer Stuttgart

Ystyriwyd mai Canol Caerdydd fyddai’r lleoliad gorau i Ffotogallery am nifer o resymau. Byddai’r sefydliad yn agosach at gynulleidfaoedd allweddol a’r gymuned artistig leol, a byddai’n creu canolfan gelfyddydau weledol gyfoes angenrheidiol iawn ym mhrif ddinas Cymru, gan ychwanegu’n sylweddol at ei gynnig diwylliannol er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.. Fel sefydliad ffyniannus a dynamig gyda galw uchel yn barod am ei wasanaethau, byddai Ffotogallery yn darparu rhaglen hygyrch o’r radd uchaf yng Nghaerdydd gyda hunaniaeth gref, yn adlewyrchu ei bresenoldeb hirsefydlog yng nghalon bywyd diwylliannol Cymru.

Un cam tuag at wireddu’r uchelgais hwn oedd penderfyniad David Drake i lansio digwyddiad dwyflynyddol newydd ar raddfa fawr o’r enw Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd. O’r ŵyl agoriadol yn 2013 ymlaen, mae Diffusion wedi dod â chelfyddyd ryngwladol newydd i Gymru gan arddangos talent y Cymry a thynnu ar gronfa sylweddol o ddoniau a chysylltiadau a ddatblygwyd gan Ffotogallery dros y tri degawd diwethaf. Mae’r ŵyl yn cychwyn ei phedwaredd flwyddyn erbyn hyn, ac mae pob gŵyl Diffusion yn defnyddio dinas gyfan Caerdydd fel cynfas i lwyfannu arddangosiadau a digwyddiadau mewn ffordd sy’n llawn dychymyg. Mae datblygiad parhaus yr ŵyl a’i phresenoldeb drwy’r flwyddyn gron yn gatalydd ar gyfer cydweithrediad newydd tymor hirach rhwng artistiaid, dylunwyr a chynhyrchwyr creadigol eraill, cwmnïau cyflwyno a chynhyrchu, amgueddfeydd ac orielau, y sector addysg, y cyfryngau a diwydiannau creadigol, gan barhau i greu llwyfan bwysig yng Nghymru ar gyfer cydweithrediad lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

from The Valleys Re-Presented at Diffusion 2013

Mae dathlu cyflawniadau artistiaid a ffotograffwyr sydd â chysylltiad cryf â Chymru wedi bod yn elfen allweddol o waith y sefydliad hefyd yn y degawd diwethaf yma. Roedd Ffotogallery yn gyd-gomisiynydd yr Amgueddfa Cyfryngau Genedlaethol, Llyfrgell Birmingham a PARC (Canolfan Ymchwil Ffotograffiaeth ac Archifau) o ddangosiad ôl-syllol mawr o waith o’r 1970au i flynyddoedd cynnar yr 1990au gan y ffotograffydd sydd wedi’i seilio ym Mynwy, Daniel Meadows, gyda chyhoeddiad Photoworks i gyd-fynd ag o. Roedd Meadows yn un o grŵp o ffotograffwyr a hyfforddwyd yng Ngholeg Polytechnig Manceinion yn fuan yn 1970 a arweiniodd y mudiad ffotograffiaeth annibynnol ym Mhrydain, gan dorri traddodiad a dod ag egni newydd a ffyrdd newydd o weld pethau i mewn i’r cyfrwng.

Ym mis Mawrth 2012, lansiodd Ffotogallery Inside the View, sef monograff artist, gydag argraffiad cyfyngedig, yn adlewyrchu 30 mlynedd o waith yr artist yng Nghymru Helen Sear gyda thraethodau beirniadol gan yr Athro David Chandler a’r awdures o Gymraes Sharon Morris. Ar ôl cyflwyno arddangosiadau o waith Sear yn Diffusion 2013 ac yn Stuttgart dair blynedd yn ddiweddarach, comisiynwyd Ffotogallery i guradu a chyflwyno arddangosfa unigol newydd ...the rest is smoke i Gymru yn Fenis yn y 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol, y Venice Biennale.

Yn 2012, cyd-gomisiynodd Ffotogallery a Mostyn yr artist Jo Longhurst, sy’n Gymrodor Ymchwil Leverhulme ym Mhrifysgol Cymru, i gynhyrchu arddangosfa a chyhoeddi ei chorff newydd o waith Other Spaces, oedd yn ymchwilio’r corff delfrydol a’r perfformiad perffaith mewn perthynas â gymnasteg ryngwladol. Pan oedd Other Spaces yn cael ei arddangos yn Ffotogallery, enillodd Longhurst wobr glodfawr Canada, y Grange Prize ($50,000) am y prosiect, sef gwobr uchaf y wlad am ragoriaeth mewn ffotograffiaeth ryngwladol.

Ymysg y prosiectau cydweithredol eraill roedd Landscapes Tom Wood, sef arddangosfa deithiol a gynhyrchwyd gan Mostyn, mewn partneriaeth â Ffotogallery a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, yn cynnwys detholiad o ddarluniau estynedig ac amrywiol yr artist a grëwyd yng Ngogledd Cymru, Iwerddon a Glannau Mersi. Roedd “Day Dreaming About The Good Times?” yn arddangosfa ôl-syllol fawr o waith gan y ffotograffydd oedd wedi’i seilio yng Nghaerdydd, Paul Reas, a gomisiynwyd mewn partneriaeth â’r Impressions Gallery yn Bradford. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith a gynhyrchwyd yn Ne Cymru yn ystod yr 1980au a’r 1990au, ac hefyd waith yr artist yn Llundain a Gogledd Lloegr.

Neilltuwyd tymor y gwanwyn 2014/15 yn Ffotogallery i Artes Mundi 6, gyda The Visitors gan Ragnar Kjartansson o Wlad yr Iâ a GEN XX gan Sanja Iveković o Croatia, yn denu dros 8,000 o ymwelwyr i’r arddangosfa. Comisiwn pwysig arall y flwyddyn honno oedd y dangosiad cyntaf ym Mhrydain o’r Garden State, sef arddangosfa a chyhoeddiad i gydfynd â hi gan Corinne Silva, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Ffotogallery, The Mosaic Rooms a PARC, Llundain. Mae Garden State yn archwilio’r berthynas wleidyddol rhwng yr ardd a’r ymerodraeth sydd wedi bodoli o’r ddeunawfed ganrif hyd y diwrnod presennol. Rhwng 2010 a 2013, bu Silva yn creu triawd o brosiectau wedi’u lleoli rhwng y Canoldir a’r Afon Iorddonen. Yn dilyn Garden State, cyflwynodd Ffotogallery arddangosfa Empire Jon Tonks, lle tynnodd lun y bobl, y tirluniau a’r bywyd dyddiol mewn pedair tiriogaeth anghysbell Brydeinig; Ynys y Dyrchafael, St Helena, Tristan da Cunha ac Ynysoedd y Falklands. Cafodd yr arddangosfa ei chynhyrchu at y cyd gan Ffotogallery, mac, Impressions Gallery/Bradford, Llyfrgell Birmingham a GRAIN.

Installation view of The Visitors by Ragnar Kjartansson, Artes Mundi 6

Er bod ffotograffiaeth wedi parhau wrth galon rhaglenni artistig Ffotogallery, mae’r sefydliad yn aml yn gweithio gydag ystod o gyfryngau, gan gynnwys ffilm a fideo, cyfryngau digidol, perfformiad a gosodiad. Yn rhan o ŵyl 100 Dylan Thomas, cyflwynodd Ffotogallery gynhyrchiad rhyngddisgyblaethol Bedazzled: A Welshman in New York i ddathlu’r berthynas arbennig oedd gan Dylan Thomas gyda’r Unol Daleithiau, a dylanwad hirbarhaus ei fywyd a’i waith ar ddwy ochr y dyfroedd Atlantig.

Yn Penarth Heights, sef prosiect arloesol sy’n ymgysylltu â chymdeithas, gwahoddodd Ffotogallery bobl ifanc ym Mhenarth i adrodd stori’r prosiect tai cymdeithasol, y Billy Banks, a’i ailddatblygiad yn eiddo atyniadol gerllaw’r harbwr. Gan weithio’n agos gyda chwe ysgol a’u cymunedau, gwelodd y prosiect bobl ifanc yn cynhyrchu naratifau oedd yn cynnwys lluniau a ganfuwyd, a dynnwyd â’r llaw, a dynnwyd â chamera, a driniwyd yn ddigidol a delweddau symudol, ynghyd â geiriau llafar, testun a recordiadau sain i greu cyfres o ffilmiau byrion grymus.

Roedd Hidden Presence yn brosiect ymgysylltu â’r gymuned am ddwy flynedd a gychwynnwyd gan Ffotogallery ac Amgueddfa Cas-gwent, yn dangos gwaith gan yr artistiaid Eva Sajovic a Julian Germain, gyda chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ei fan cychwyn oedd bywyd Nathaniel Wells, mab i berchennog caethweision ac i gaethferch a symudodd, drwy gyfres anghredadwy o ddigwyddiadau, o blanhigfeydd siwgr India’r Gorllewin i safle uchel mewn cymdeithas a chyfoeth ym Mhrydain y 19eg Ganrif. Roedd y prosiect yn herio’n greadigol y syniad bod llafur gorfodol ac ecsbloetiaeth pobl drwy’r byd i gyd wedi’i gyfyngu i’n hanes, yn hytrach na bod yn rhywbeth sy’n parhau i effeithio ar fywydau pob dydd yma yng Nghymru.

Cafodd yr arddangosfa Route to Roots ei hamseru i gyd-daro â Mis Hanes Du 2017, ac roedd yn rhan o brosiect a ddaeth ag artistiaid a meddylwyr beirniadol at ei gilydd i weithio mewn ffurfiau celf amrywiol megis cerdd, celfyddyd gain, theatr, dawns a ffugymrithio am wythnos breswyl a ddaeth i ben gyda pherfformiad cyhoeddus yng Ngharnifal Butetown a Gŵyl HUB yng Nghaerdydd. Tyfodd Route to Roots allan o’r gwaith ymchwil estynedig gan yr artist oedd wedi’i seilio yng Nghaerdydd, Adeola Dewis, i’r ffordd y mae’r Carnifal yn cyfuno treftadaeth ddiwylliannol a straeon o arwyddocâd hanesyddol, athronyddol ac ysbrydol o brofiad pobl wasgaredig Affrica.

from Route to Roots © Arnaldo James

Mae rhaglen ymgysylltiad digidol Ffotogallery yn arwydd o gyfranogaeth ddyfnach gydag arferion celf sy’n dod i’r amlwg sy’n ymestyn paramedrau ffotograffiaeth a chyfryngau ‘drwy’r lens’ yn y 21ain Ganrif. Mae creadigrwydd digidol wedi’i integreiddio’n llawn â gwaith comisiynu, arddangos, cyhoeddi ac addysgu parhaus, ochr yn ochr â’r arferion ffotograffig a chyfryngau ‘drwy’r lens’ mwy traddodiadol y mae Ffotogallery yn enwog amdanynt. Mae’r strategaeth hon wedi dwyn ffrwyth yn barod gyda nifer o brosiectau arwyddocaol megis adnodd dysgu celfyddyd gyfoes LightBox, y llwyfan ar-lein Experience Wales in Venice oedd yn gwmni i gyflwyniadau Cymru yn y Venice Biennale, gwefan porth European Prospects, y Diffusion Experience a enillodd wobrau a phrosiectau eraill a weithredwyd drwy’r cyfryngau.

O ganlyniad i brosiect dwy flynedd yn rhan o goffâd Prydain-India 2017 o 70 mlynedd o annibyniaeth India, daeth Dreamtigers a Ffotogallery ynghyd â’r Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi. Yn ganolog i’r prosiect roedd ymrwymiad i weithio ar y cyd a chreu cyfleoedd gan y ddwy ochr i artistiaid a phobl broffesiynol greadigol o India a Chymru deithio i’w gwledydd ei gilydd a gweithio yno. Y canlyniad allweddol oedd cydweithredu creadigol ar ffurf cynllunio, datblygu a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, artistiaid preswyl a chyfleoedd i gyfnewid, a datblygu cynulleidfaoedd newydd drwy gyhoeddi ar-lein a phrintio, rhaglenni addysgol a gweithgareddau ymgysylltu digidol.

Wrth i Ffotogallery gychwyn ar ei bumed degawd yn 2018, mae’r sefydliad mor gryf ag erioed, yng Nghymru ac yn nhermau ei sefyllfa ryngwladol. Canfuwyd safle newydd yng nghanol dinas Caerdydd, yn ac mae gwaith codi arian wedi cychwyn i dalu’r costau adnewyddu mawr. Y bwriad yw creu canolfan newydd ddynamig ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau ‘drwy lens’ yng Nghaerdydd a fydd yn cyflwyno gwaith cyfoes o bob rhan o’r byd, ynghyd â chefnogi datblygiad ac arddangosiad cyrff newydd cyffrous o waith sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru. Bydd hwn yn lleoliad diwylliannol wedi’i wreiddio yn ei gyd-destun lleol, sy’n cynnig cyfle creadigol i bobl o bob parth o fywyd, gan ganolbwyntio tuag allan a bod yn fyd-eang yn ei gyrhaeddiad a’i effaith.

Yn 2018, sicrhaodd Ffotogallery gontract curadurol dwy flynedd i ddarparu The Place I Call Home, sef arddangosfa deithiol a gomisiynwyd gan Gyngor Prydeinig sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau drwy lens i archwilio’r syniad o gartref fel y mae’n berthnasol i brofiadau cyfoes y bobl wasgaredig Arabaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig a phobl Brydeinig sy’n byw yn y Gwlff. Mae paratoadau ar waith ar gyfer pedwaredd flwyddyn Diffusion yn 2019, gyda’r thema Sound+Vision. Mae dwy arddangosfa deithiol a gychwynodd eu taith yn Ffotogallery, Land/Sea Mike Perry a 1968: The Fire of Ideas Marcelo Brodsky, yn teithio’n estynedig drwy Ewrop gyda chyflwyniadau yn Llandudno, Aberystwyth, Plymouth, Lorient, Glasgow, Lyon, Zaragoza a Kaunas.

Installation view of Land/Sea by Mike Perry

Mae’r sefydliad wedi derbyn arian gan yr Undeb Ewropeaidd am ddwy flynedd o dan y rhaglen Ewrop Greadigol i arwain A Woman’s Work, prosiect gydweithredol gyda phartneriaid yn Iwerddon, Ffrainc, Lithwania a’r Ffindir. Mae’r prosiect yn archwilio, drwy ffotograffiaeth a chyfryngau digidol, rôl merched mewn diwydiant a gwaith ar sail technoleg yn Ewrop ar ôl y rhyfel, gan herio’r farn ddominyddol am rywiau a diwydiant yn Ewrop. Mae Ffotogallery hefyd yn cryfhau ei waith partneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â chyfres o arddangosiadau unigol gan ffotograffwyr ac artistiaid sy’n ferched megis Katrien de Blauwer, Lua Ribiera ac Amak Mahmoodian i gydfynd â’r arddangosfa Women in Focus yn yr Amgueddfa, mae cynlluniau ar y gweill i ailddangos Prosiect y Cymoedd ar raddfa fawr yn 2020.

Mae’r ffaith fod Ffotogallery yn ffynnu, yn hytrach na dim ond goroesi, ar ôl pedwar degawd yn adlewyrchu ymroddiad y staff, y gwirfoddolwyr, yr aelodau a’r cefnogwyr, y ffotograffwyr niferus, yr artistiaid a phartneriaid y mae’r sefydliad wedi gweithio â nhw dros y blynyddoedd, a’r brwdfrydedd am ffotograffiaeth a chyfryngau ‘drwy’r lens’ y mae cynulleidfaoedd a chyfranogwyr wedi’i dangos.

Mae’n dangos sut y mae Ffotogallery wedi chwarae rhan ganolog mewn datblygu diwylliant ffotograffig cyfoes yng Nghymru ac yn rhyngwladol drwy gomisiynu a chyflwyno gwaith newydd mewn arddangosfeydd ac mewn gwyliau a digwyddiadau, drwy gyhoeddi estynedig ar-lein ac mewn print, drwy gefnogi artistiaid ffotograffig ac artistiaid drwy lens sy’n dod i’r amlwg, a gyda gwaith allgymorth ac addysg arloesol sy’n cynnig cyfle i drawstoriad eang o’r gymuned allu cyfranogi.

Yn fwy na dim, mae’n amlygu’r cyfraniad pwysig y bydd Ffotogallery yn ei wneud i ddyfodol Caerdydd a Chymru, fel dinas ac fel cenedl sydd ag asedau diwylliannol cyfoethog ac amrywiol a sector creadigol arloesol.


David Drake 2018