Artist

Antonia Osuji

Portrait of Antonia Osuji

Rydw i wedi ymddiddori’n fawr erioed yn y ffordd y mae pethau’n rhyng-gysylltu yn y byd a sut mae hynny’n berthnasol i’r cyflwr dynol, yn unigol ac yn gymdeithasol. Yn debyg i lawer o bobl eraill sy’n ceisio deall hyn drwy ymchwilio, fy nghamera yw fy nghyfrwng i wneud hyn; mae’n esgus i mi edrych yn fanylach a gofyn cwestiynau sydd fel arfer yn mynd heb eu hateb.

Y targed i mi yw gwneud y ‘diarth’ yn gyfarwydd ac felly ddysgu beth yw bod yn ddynol o safbwynt rhywun arall, drwy dderbyniad a dealltwriaeth.

Mae fy arddangosfa ddiweddaraf yn cynnwys blas ar-lein o ‘Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ – sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd ar wefan y Senedd ac sy’n rhedeg hyd fis Tachwedd 2020.

Gwefan | Instagram

Gallery

The Crossing Borders Project

Nod The Crossing Borders Project, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw cefnogi ac annog cerddorion a dawnswyr ifanc o gefndiroedd amrywiol sy’n byw yng Nghymru.

Gall y cyfranogwyr gymryd rhan mewn cerddoriaeth a/neu ddawns, cydweithio, rhannu ac archwilio nodweddion a thraddodiadau allweddol o’u cefndiroedd unigol, i goreograffu a chyfansoddi perfformiad gwreiddiol sy’n tynnu sylw at amrywiaeth a chyfoeth cymunedau Cymru.