Artist

Huw Alden Davies

Portrait of Huw Alden Davies

Wedi’i eni a’i fagu yn Sir Gaerfyrddin, mae Huw Alden Davies, y Ffotograffydd Dogfennol yn edrych yn fanwl ar naratifau gweledol ac ysgrifenedig, ac yn astudio cysyniadau fel ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n eang, ac wedi ymddangos mewn nifer fawr o arddangosfeydd rhyngwladol, ac mae rhai o’i weithiau yn archifau parhaol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac yn Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain.

Gyda’r ffrâm sengl a’i allu i ddweud y straeon mwyaf mawreddog yn ei ddenu, mae Davies yn troi ei sylw at bynciau a anwybyddir i raddau helaeth. Mae hyn wedi arwain at ddewis ei ffotograffau gan Martin Parr, y ffotograffydd Magnum enwog, Cymdeithas y Ffotograffwyr, a chan Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, The British Council, a Ffotogallery, mae gwaith Davies wedi cynrychioli Cymru yn rhyngwladol, gan gynnwys ar ymweliad unwaith ag India fel rhan o ddirprwyaeth yn Jaipur.

huwdaviesphotography.com

Gallery

Xennial: Dreaming in Colour

Yn edrych ar diriogaethau ‘newydd’, ac yn astudio’r cysyniad o ficro-genhedlaeth a ddisgrifir fel Xennials (dadansoddiad gwreiddiol drwy waith ffotograffig), mae ‘Breuddwydio mewn Lliw’ yn archwilio cenhedlaeth ddieithr sy’n pontio’r bwlch rhwng dau gyfnod a ddisgrifir fel cenhedlaeth X a Millennials, ac ar yr un pryd yn ehangu persbectif diwylliant Cymru drwy ddefnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau lensys. Mae’r prosiect hwn wedi’i leoli mewn pentref bach glofaol a’r cyffiniau yng Nghwm Gwendraeth ar ddechrau cyfnod newydd, ac mae’n gydweithrediad amlgyfrwng, sy’n darparu persbectif modern a newydd o ‘Gymreictod’, a golwg prin ar un o’n cymunedau yng Nghymru sydd mor gyfoethog ei diwylliant. Wrth ddathlu rhyfeddod plentyndod, cyfeillgarwch a phob peth Cymraeg, mae Breuddwydio mewn Lliw yn adrodd hanes cenhedlaeth yr 80au a welodd y gorau o ddau fyd, yr hen a’r newydd, ac mae’n ehangu hunaniaeth weledol Cymru y tu hwnt i’w stereoteipiau.