Artist

Jack Osborne

Portrait of Jack Osborne

Mae Jack Osborne yn artist drwy gyfrwng lens o Gaerdydd. Fel plentyn, cafodd ei ysbrydoli’n wreiddiol gan harddwch y byd naturiol a dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth er mwyn tynnu lluniau o’r harddwch hwn. Dim ond pan oedd yn ei arddegau y datblygodd ei ddiddordeb brwd mewn ffasiwn ac y dechreuodd droi ei gamera tuag at bobl. Fel ffotograffydd proffesiynol, mae gwaith Jack yn cynrychioli hil a rhywioldeb. Trwy ddelweddau ffasiwn, nod Jack yw sbarduno sgyrsiau am y pynciau hyn. Yn ei farn ef, po fwyaf o ddeialog y gellir ei greu, yr agosaf y byddwn at sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i gymunedau ymylol. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys ei brosiect gradd ‘Us’ a’i gyfres o hunanbortreadau ‘Project Lockdown’.

Gwefan | Instagram

Gallery

Us

“Ni allwch ddod yn rhywbeth na allwch ei weld yn gywir.” - Yr Athro Sarah Lewis, Prifysgol Harvard

Protest yw’r gwaith hwn. Mae’n gwrthwynebu gwleidyddiaeth ddeubegwn ein cyfnod modern. Does dim ‘ni’ a ‘nhw’. Dim ond ‘ni’ sydd. Mae’n amlygu cyferbyniadau manwl rhwng unigolion amrywiol ac, ar yr un pryd, mae’n rhoi pwysau ar agweddau o fywyd a rannwn fel unigolion. Nod y gwaith yw gweithredu fel microcosm o ddiwylliant ieuenctid ar draws y DU. Drwy ystyried yn ofalus a dewis arddulliau penodol o dynnu llun ymhob un o’r lluniau hyn, y nod yw creu synnwyr o’r realiti hwn. Fel dyn gwyn, rwy’n gweld fy hun wedi fy nghynrychioli ymhob maes o ddiwylliant gweledol. Wrth geisio cynrychioli unigolion sy’n wahanol i mi, mae cyfle’n codi i glywed llais cydweithredol. Trwy osod y gwaith yng ngyd-destun ffasiwn yn ogystal â chyd-destun gwleidyddol, mae hefyd yn cyfeirio at y diffyg adnabyddus o amrywiaeth yn y diwydiant hwn.

Mae’r lluniau hyn yn dathlu ein hunigolrwydd fel pobl gyda’r nod o’n tynnu ni at ein gilydd.