Artist

John Manley

Portrait of John Manley

Cefais gyfle i ymddeol yn gynnar yn 2013 ar ôl gyrfa hir gyda’r Llywodraeth Leol. Roeddwn i’n gweithio’n bennaf fel swyddog gorfodaeth ym maes Iechyd yr Amgylchedd a chefais y pleser, a’r anlwc weithiau, o gwrdd ag amrywiaeth fawr o bobl, a oedd yn gwir ennyn fy niddordeb. Am fy mod wedi ymddiddori erioed mewn diwylliant, celf a ffotograffiaeth, es amdani a chofrestru i wneud gradd BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Sir Gaer yn 2017. O dan diwtoriaeth ragorol Iain Davies a Huw Alden Davies, rhoddodd y cwrs gyfle gwych i mi gynyddu fy iaith dechnegol, greadigol a gweledol i lefel newydd. Rwyf wedi dweud yn aml wrth bobl bod y radd wedi agor ‘bocs pandora’ o ddealltwriaeth a meddwl creadigol i mi. Roeddwn i’n ffodus i raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2020 ac rwyf wedi derbyn dwy wobr gan y coleg; gwobr Anita Bowyer a’r wobr flynyddol Photo Book.

Mae ffotograffiaeth wedi fy ngalluogi i ryngweithio gyda phobl a lleoedd na fyddwn i wedi ymwneud â nhw fel arall. Rwy’n dewis fy mhwnc drwy gymysgedd o reddf, ymchwil a’r awydd i ddogfennu straeon sy’n digwydd o’m cwmpas; gan chwilio am y golau rhwng y cysgodion, y straeon nad ydynt yn amlwg ar y cychwyn.

Mae addysg ac eglurhad wedi dod yn gyffur erbyn hyn, felly am fod gen i ysfa i gael fy ysbrydoli rwyf wedi cychwyn MA ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant (Abertawe). Mae fy mhrosiectau blaenorol diweddar yn cynnwys archwiliad o’r arwerthiant da byw, Trawsrywedd, Protest, Westray a Chyn-filwyr. Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos yn Oriel King Street, Caerfyrddin, y Northern Photo Festival, Harrogate, The Basement Collective, Abertawe ac Oriel Bevan Jones, Caerfyrddin.

Instagram

Gallery

Have You Forgotten Yet?

Dyletswydd gyntaf Llywodraeth yw amddiffyn y deyrnas. Mae’r Lluoedd Arfog yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw ar ran y Llywodraeth, gan aberthu rhai agweddau o’u rhyddid sifil, wynebu peryglon ac, weithiau, ddioddef anaf ddifrifol neu farwolaeth o ganlyniad i’w dyletswyddau. Yn eu tro, mae gan y genedl gyfan oblygiad moesol i gefnogi a pharchu aelodau’r Lluoedd Arfog. Mae’r milwyr hyn sydd wedi goroesi llymder y gwasanaeth milwrol mewn ystyr gorfforol, wedi colli ffocws ein sylw ni fel cenedl. Mae’n ymddangos bod diffyg cysylltiad rhwng cymdeithas a chyn-filwyr. Felly, mae’n bwysig ein bod yn ymwybodol o sgil a dyfalbarhad y bobl hyn ac yn cynnau edmygedd yng nghydwybod y cyhoedd at y gwasanaeth a’r aberth a oedd yn rhan ddiamau o’u bywyd milwrol.

Fel arfer, mae’r cyn-filwyr hyn, fel y rhai a aeth o’u blaenau, yn bobl arferol, er bod llawer ohonynt wedi profi ac wedi gwneud pethau allan o’r cyffredin. Mae Have you forgotten yet? yn gyfres o bortreadau o bobl a gymerodd ran mewn gwrthryfeloedd yn y gorffennol. Bu un cyn-filwr a ddarlunir yma yn gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd, roedd dau arall yn Argyfwng Malaya, sef gwrthryfel nad yw pobl yn cofio amdano. Mae un yn gyn-filwr o’r Helynt yng Ngogledd Iwerddon ac un arall yn ddyn ifanc oedd eisiau gweld y byd. Mae pob unigolyn sydd wedi cymryd rhan yn y Lluoedd Arfog, p’un a ydoedd yn filwr, yn forwr neu yn y llu awyr, wedi helpu i siapio delwedd y byd fel y mae’n cael ei gweld a’i hystyried heddiw.

Mae’r prosiect hwn yn mynd ati i ddogfennu pob bywyd o safbwynt hanesyddol ac unigol, gan archwilio’r berthynas rhwng y gorffennol a’r presennol. Mae’r portreadau’n adlewyrchu’r berthynas hon rhwng naratif cenedliadol, mae’n stori bywyd unigryw drwy fydoedd, gwrthrychau a gofodau preifat.

Mae hwn yn gyfuniad, yn fosaig o bobl oedd oll ar ryw adeg neu’i gilydd, yn cymryd rhan mewn gwasanaeth milwrol ac sydd yn awr yn byw yng nghymuned Sir Gaerfyrddin yn anweladwy yn ein mysg. Mae’r cyn-filwyr yn cadw cwlwm cryf rhyngddynt ond mae’n un sy’n gwanhau – dyma eu stori. Mae wedi bod yn bleser cwrdd a gwrando.